Gweld pob eitem o'r newyddion...
Cyfleusterau trawiadol newydd i’r Cyfnod Sylfaen
12.06.2008
Yn llechu yng nghrombil Coleg y Drindod mae syrpreis yn aros i ymwelwyr. Mae Carys Richards a Helen Lewis, tiwtoriaid y Cyfnod Sylfaen, wedi trawsnewid swyddfa wag yn ofod cyffrous, yn llawn adnoddau a syniadau. Mae pryfed enfawr yn hongian o’r nenfwd, tra bod tedi bêr anferth yn darllen yn dawel yn y cornel llyfrau ac mae’r drysau i’r awyr agored ar agor, yn barod i fynd i fforio.
‘Gwelais y potensial ar unwaith’ meddai Carys ‘yn enwedig gan fod modd mynd tu allan, ac rydym yn datblygu hwn nawr fel ystafell ddosbarth yn yr awyr agored.’ ‘Hyd yn hyn, ‘waw’ yw ymateb pawb sy’n ymweld‘ meddai Helen, ‘boed yn blant, yn hyfforddeion neu’n athrawon – mae awydd fforio ar bawb.’
Adlewyrchir datblygiadau arloesol tebyg yn y ddarpariaeth Goleg-seiliedig i hyfforddeion. Rhoddwyd pwyslais ar ddatblygu dealltwriaeth dda o egwyddorion addysg blynyddoedd cynnar ac ar weld arfer da o lygad y ffynnon. Mae hyfforddeion y flwyddyn gyntaf wedi bod ar gyfres o ymweliadau ag ystod o leoliadau’r blynyddoedd cynnar, er mwyn gallu gwneud cysylltiadau eglur rhwng darlithoedd ac arfer, a sylweddoli bod amryw o ffyrdd o ddarparu profiadau o ansawdd uchel i blant ifanc.
‘Mae hwn yn brofiad gwahanol i ymarfer dysgu. Rhaid i’r hyfforddeion gwblhau nifer o dasgau, ond ar arsylwi ac adfyfyrio mae’r pwyslais, a’r cyfle i drafod y ddarpariaeth. Mae’r hyfforddeion wedi gwerthfawrogi’r profiad hwn mor gynnar yn eu gyrfa yn fawr iawn,’ meddai’r tiwtoriaid. Daeth datganiadau o gefnogaeth hefyd oddi wrth ysgolion a lleoliadau sy’n ymwneud â’r cynllun hwn, ac maent yn awyddus i gymryd rhan unwaith eto’r flwyddyn nesaf, gyda’r gobaith o ymestyn y cyfle hwn i grwpiau’r blynyddoedd eraill.
Meddai Dr Dylan Vaughan Jones, Pennaeth Ysgol Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon, “Rydym yn ffodus yn y Drindod ein bod wedi gallu ymateb yn gyflym ac yn gyflawn i’r heriau o baratoi athrawon newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen”. Ychwanegodd Carys “Mae rheidrwydd arnom i gydnabod yr arfer da sy’n bodoli eisoes yn y sector blynyddoedd cynnar. Rydym yn gweithio ar y cyd â’n hysgolion partner i sicrhau fod hyfforddeion yn gallu trawsnewid theori yn ymarfer o fewn lleoliadau. Nod y Cyfnod Sylfaen yw annog plant ifanc i ddod yn ddysgwyr gydol oes gweithredol. Mae paratoi gweithlu pwrpasol a brwdfrydig sy’n gallu gweithredu’r diwygiad hwn yn hollbwysig i’w lwyddiant’.
Daeth dau swyddog o Lywodraeth Cynulliad Cymru, Mr Jon Hawkins a Mrs Sarah Clarke, i ymweld â’r Coleg i brofi’r ddarpariaeth a gynigir i hyfforddeion ar y campws a thu hwnt.
Bu hyfforddeion yn arsylwi ac yn rhyngweithio â disgyblion o Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model sydd â chysylltiadau cadarn â’r Drindod, dan lygaid gwyliadwrus y swyddogion, a gafodd argraffiadau da am ymrwymiad a chymhelliant blaengar y Coleg i hyfforddiant y Cyfnod Sylfaen.
Yn y dyfodol gobeithir cynnwys ysgolion ac athrawon mewn Datblygiad Proffesiynol Parhaus – gall ysgolion logi’r ganolfan ar gyfer sesiynau Hyfforddiant mewn Swydd, ac mae gobaith datblygu ymhellach gyrsiau achrededig i’r rheini yn y sector addysg yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Llun:
Sarah Clarke a Jon Hawkins, swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn ymweld â chyfleusterau’r Drindod ac yn siarad â’r myfyrwyr Gareth Jones a Megan Evans.
Ffotograffydd: Ralph Carpenter
Gwybodaeth Bellach
Eleri BeynonSwyddog i'r Wasg
01267 676790
e.beynon@ydrindoddewisant.ac.uk
Gweld pob eitem o'r newyddion...



