Gweld pob eitem o'r newyddion...

Myfyrwyr yn rhannu eu profiad o Lesotho ar S4C

19.10.2011

Lesotho ar S4C

Bu Hannah Thomas a Christine Rigby o'r Ysgol Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon a Llinos Haf o’r Ysgol Plentyndod Cynnar ar Wedi 3 ddoe (19 Hydref) yn rhannu eu profiadau o’u taith ddiweddar i Lesotho a drefnwyd gan y Brifysgol.

Mae Lesotho yn deyrnas fynyddig, wedi’i hamgylchynu llwyr gan wlad De Affrica ac maen nhw’n wynebu llawer o’r un problemau economaidd ac iechyd â gwledydd eraill yn y trydydd byd.

"Mae bywyd yn Lesotho mor wahanol i'r hyn rydyn ni’n gyfarwydd ag ef yng Nghymru. Yma, mae plant yn cwyno am orfod mynd i'r ysgol - ac yn Lesotho, mae plant mor ifanc â thair oed yn cerdded tua awr bob dydd jyst i gyrraedd yno. Ac maen nhw mor ddiolchgar am bopeth", meddai Llinos Haf.

Ychwanegodd Christine:

"Mae popeth welon ni tra oedden ni yno wedi gwneud i ni werthfawrogi'r hyn sydd gyda ni’n barod ac wedi ein helpu ni i ddysgu a thyfu fel pobl - ac fel athrawon a gweithwyr meithrin y dyfodol."

Gallwch wylio’r merched yma

http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?series_id=454523941 (13’52)





Gweld pob eitem o'r newyddion...