Gweld pob eitem o'r newyddion...
Lansio Cynghrair rhwng Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model a’r Drindod Dewi Sant
07.11.2011
Lansiwyd Cynghrair rhwng Ysgol Eglwysig Wirfoddol y Model a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ystod gwasanaeth arbennig yn yr ysgol ar 1 Tachwedd. Gwahoddwyd disgyblion yr ysgol, staff o’r naill sefydliad a’r llall a gwesteion i fod yn rhan o’r achlysur mawreddog hwn.
Soniodd Profost Campws Caerfyrddin, Mr Gwilym Dyfri Jones, a Phennaeth Ysgol y Model, y Parch. Mary Thorley, am y cysylltiadau hanesyddol rhwng yr ysgol a’r Brifysgol.
Meddai Mr Jones:
"Mae'r Gynghrair rhwng Ysgol Eglwysig Wirfoddol y Model a’r Drindod Dewi Sant yn cynnig cyfleoedd addysgu a dysgu sydd o fudd i’r ddau sefydliad ac yn adeiladu ar bartneriaeth sydd wedi bod mewn bodolaeth ers dros 160 mlynedd.
“Byddwn yn ymdrechu i ddatblygu'r bartneriaeth mewn ffordd a fydd yn sicrhau bod staff a myfyrwyr y ddau sefydliad yn cael y cyfle i fanteisio ar yr adnoddau, profiadau a chyfleoedd sydd ar gael drwy'r Gynghrair.
I nodi’r achlysur, cyflwynodd Mr Gwilym Dyfri Jones dystysgrif goffaol i’w harddangos yn yr ysgol i aelodau cyngor yr ysgol.
Nodyn at y Golygydd
Llun Alison Thomas (Cydlynydd y Cynghrair yn yr ysgol) a Catharine Bleasdale (Cydlynydd y Cynghrair) gyda myfyrwyr o’r Drindod Dewi Sant a disgyblion y Model sy’n aelodau o Gyngor yr Ysgol
Gweld pob eitem o'r newyddion...



