Croeso i Geiriau Bach
Ar hyn o bryd mae gennym grwpiau yn Y Bari, Pen-y-Bont ar Ogwr, Hwlffordd, Caerfyrddin, Pontypridd, Llandudno, Caerdydd, Glyn Ebwy, Casnewydd, Abertawe a Llanelwy.
Fe glustnodwyd y cyllid diweddaraf o Lywodraeth Cymru i'r myfyrwyr bydd yn graddio yn 2013. Os ddaw cyllid pellach, byddwyn yn cysylltu â'r myfyrwyr hynny sydd ar y rhestr aros. Byddwn hefyd yn cynnwys neges ar ein gwefan i hysbysu unrhyw ddarpar fyfyrwyr o'r manylion.
Nod y rhaglen yw cyd-fynd â gofynion y Cyfnod Sylfaen a’r disgwyl y bydd plant 3-7 oed yn cael profi’r Gymraeg a dwyieithrwydd. Mae hefyd yn cefnogi staff sy’n gweithio gyda phlant dan 3 oed gan roi cyfle iddyn nhw ddiweddaru eu sgiliau ym maes Addysg y Blynyddoedd Cynnar wrth iddyn nhw hefyd ddysgu Cymraeg ar gyfer eu gwaith gyda phlant bach.
Dechreuodd y cyfan gyda phrosiect Geiriau Bach; bu hwnnw’n llwyddiant mawr ac yn boblogaidd ymysg myfyrwyr, a’r ddau nod oedd:
- Cynnig cyfle i weithwyr blynyddoedd cynnar ddysgu’r math o Gymraeg y gellid ei rhannu gyda phlant bach o dydd i ddydd;
- Hyrwyddo ymarfer da mewn gwasanaethau blynyddoedd cynnar.
Os hoffech chi fwy o wybodaeth, croeso i chi gysylltu ag Eileen Merriman, Cydlynydd Rhaglen, e.merriman@ydrindoddewisant.ac.uk neu Helen John, Gweinyddydd, h.john@ydrindoddewisant.ac.uk, 01267 676603
Mae'r agenda ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn newid gyda mwy o bwyslais ar chwarae ac ar alluogi plant bach i ddysgu Cymraeg yn gyfochrog â Saesneg.
Mae Coleg Prifysgol y Drindod Dewi Sant, campws Caerfyrddin yn ymateb i'r her trwy gynnig y rhaglen yma fydd yn help i weithwyr blynyddoedd cynnar yng Nghymru baratoi ar gyfer y newid hwn a magu sgiliau newydd.
I bwy mae'r cwrs?
Cwrs yw Geiriau Bach ar gyfer gweithwyr sydd naill ai heb unrhyw Gymraeg neu sydd heb yr hyder i ddefnyddio’r ychydig sydd ganddyn nhw.
Beth mae'r cwrs yn ei gynnig?
Mae’r 6 modiwl newydd yn Geiriau Bach yn gyfle i fyfyrwyr ddysgu ychydig o Gymraeg a gwybod sut i’w defnyddio’n greadigol wrth chwarae gyda phlant bach. Mae’r cwrs wedi ei wreiddio’n ddwfn yng Nghwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant 3-7oed.
Beth mae myfyrwyr yn ei ddysgu?
Mae 3 o’r modiwlau yn cyflwyno’r Gymraeg, Blas ar Iaith 1 – 3. Ymhob un o’r rhain mae ’na eirfa a phatrymau defnyddiol, caneuon a gweithgareddau y gall myfyrwyr eu defnyddio’n syth bin wrth weithio gyda phlant bach o ddydd i ddydd.
Mae’r 3 modiwl arall yn cyflwyno gwybodaeth am:
- Weithio mewn cyd-destun Cymreig – polisi ac arfer yng Nghymru heddiw
- Iaith a Chwarae – sut mae plant bach yn dysgu trwy chwarae ac archwilo
- Iaith a Chwarae yn yr Awyr Iach – gwerth a photensial chwarae tu allan i blant bach
Sut mae’r cwrs yn cael ei ddarparu a beth yw ei hyd?
Mae Geiriau Bach yn cael ei ddysgu dros 6 tymor, sy’n golygu bod myfyrwyr yn astudio 1 modiwl bob tymor. Darperir y modiwlau yn wythnosol.
Mae’r dosbarthiadau a’r gweithdai’n cael eu rhedeg yn lleol ac mae gan fyfyrwyr diwtor lleol wrth law.
Nod Geiriau Bach yw bod yn hyblyg er mwyn cyd-fynd â threfniadau gwaith a theulu.
A oes cymhwyster ar y diwedd?
Bydd myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs a chyflwyno aseiniadau’n llwyddiannus yn ennill Tystysgrif Addysg Uwch mewn defnydd o’r Gymraeg yn y Blynyddoedd Cynnar.
A fydd hi’n anodd cael eich asesu ac a fydd hynny’n cymryd llawer o amser?
Mae’r asesiadau’n rhai ymarferol, wedi eu gwreiddio mewn gwaith bob dydd; mae hynny’n golygu bod myfyrwyr yn gallu cynhyrchu adnoddau i’w defnyddio yn y man gwaith a datblygu sgiliau gwerthfawr, er enghraifft, sut i gyflwyno gwybodaeth i gydweithwyr a rhieni mewn ffordd broffesiynol.
Bydd angen i fyfyrwyr roi amser ychwanegol bob wythnos i baratoi’r tasgau asesu. Ond bydd pob eitem yn adnawdd defnyddiol ac ymarferol.
Oes rhaid bod yn ieithydd da?
Dim o gwbl. Mae’r Gymraeg sy’n cael ei dysgu ar lefel sylfaenol iawn a gall myfyrwyr ddechrau heb unrhyw wybodaeth ymlaen llaw.
Mae cyfle i ymarfer ac adolygu’n gyson wrth fynd.
Mae’r pwyslais ar ddysgu gyda’ch gilydd mewn awyrgylch hwyliog, braf. Ond bydd popeth sy’n cael ei gynhyrchu a phob sgil newydd sy’n cael ei dysgu yn ddefnyddiol a gwerthfawr o safbwynt gyrfa a datblygiad proffesiynol.



