Gweld pob eitem o'r newyddion...

Wythnos Bioamrywiaeth Cymru: Myfyrwyr a phlant yn cyd-ddysgu

12.06.2012

Ar 11 Mehefin, fel rhan o Wythnos Bioamrywiaeth Cymru, bu myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a phlant meithrinfa’r Brifysgol ar gampws Caerfyrddin, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol i gefnogi dealltwriaeth y plant o fioamrywiaeth a’r amgylchedd.

Wythnos Bioamrywiaeth

Meddai Dr Siân Wyn Siencyn, Pennaeth yr Ysgol Addysg Blynyddoedd Cynnar:

“Mae’r cysylltiadau agos rhwng yr Ysgol a’r Feithrinfa wedi galluogi darlithwyr a myfyrwyr i weithio gyda phlant, gan ddysgu wrth eu hochrau yn ystod amser yn yr awyr agored mewn lleoliadau naturiol, sydd wedi datblygu gwerthoedd gofal a pharch mewn perthynas â’r amgylchedd. Mae polisiau a mentrau megis cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant ifanc a Dechrau’n Deg yn dangos ymrwymiad i’r egwyddor y dylai gwasanaethau addysgol a gofal plant ar gyfer plant ifanc fod o’r safon uchaf.

“Nid gwaith hawdd yw sôn am fioamrywiaeth. Mae’n bwnc cymhleth, gwyddonol sy’n cwmpasu pawb a phopeth. Fodd bynnag, mae bioamrywiaeth hefyd yn stori wefreiddiol a chyffrous - stori bywyd yw hi a'r systemau sy'n cynnal bywyd.

“Os ydym am gymell ein dysgwyr ieuengaf i fynd yn ddinasyddion cyfrifol a chymryd camau i ddiogelu bioamrywiaeth, mae angen i ni eu helpu ni ddarganfod y cysylltiadau rhyfeddol rhyngddynt a’r byd o’u cwmpas.”

Ychwanegodd Jane Davidson, Cyfarwyddwr y Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithiolrwydd Adnoddau yn y Brifysgol:

“Trwy gyflwyno mentrau sy’n hyrwyddo ymddygiad ecogyfeillgar mewn meithrinfeydd, y gobaith yw y bydd plant yn parhau i goleddu’r syniadau hyn gydol eu bywydau.

“Mae codi ymwybyddiaeth o’r angen i gadw ac amddiffyn ein byd yn rhan greiddiol o’n gwaith yn y Brifysgol ac mae digwyddiad tebyg i hwn yn gyfrwng gwych i ddatblygu hyd yn oed ein dysgwyr ieuengaf.

“Mae gan Gymru doreth o fywyd gwyllt ac amgylcheddau naturiol sy’n cefnogi ac sy'n cyfoethogi ein bywydau. Mae Wythnos Bioamrywiaeth Cymru yn hwb i ni fod yn rhan o hyn a dathlu ein treftadaeth naturiol gyfoethog.”

Nodyn at y Golygydd

Llun: Jane Davidson, Celt Bolton, Eileen Merriman, Erin Powell, Elin Bowen, Amy James a Sarah Jones.

  1. Yn ddiweddar dyfarnwyd Baner werdd Eco-Ysgolion am y tro cyntaf i’r Gamfa Wen am berfformiad ym maes Addysg er Datblygiad Cynaliadwy.
  2. Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ymateb i’r her o ran cynaliadwyedd mewn modd strategol a chyfannol trwy ymgorffori datblygu cynaliadwy yn rhan o brofiadau cyffredinol myfyrwyr. Mae Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSPIRE) yn rhan o fframwaith ‘addas at y dyfodol’ y Brifysgol a fydd yn ymgorffori datblygu cynaliadwy trwy ddysg, addysg, cwricwla, campws cymuned a diwylliant Y Drindod Dewi Sant. Y bwriad yw sicrhau bod graddedigion y dyfodol yn ymwybodol o faterion byd-eang ac yn ddinasyddion cyfrifol yn yr unfed ganrif ar hugain.
  3. Mae Wythnos Bioamrywiaeth yn wythnos flynyddol o ddigwyddiadau ar thema bywyd gwyllt a gynhelir ledled Cymru. Mae mwyafrif llethol y digwyddiadau yn rhad ac am ddim ac fe’u dyluniwyd i godi ymwybyddiaeth, brwdfrydedd ac ysbrydoliaeth ymhlith y cyhoedd ynghylch pwysigrwydd bioamryawiaeth.

Gwybodaeth Bellach

Elinor Howells
e.howells@ydds.ac.uk
01570 424859



Gweld pob eitem o'r newyddion...