Angela Rees BAddysg, MA

angelarees

Manylion ar sut i gysylltu

Ysgol Plentyndod Cynnar
Y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant
Ffôn: (01267) 676614 (6614)
E-bost: a.rees@ydrindoddewisant.ac.uk


Campws

Campws Caerfyrddin

Teitl y Swydd

Darlithydd

Rôl yn y Brifysgol

BA Addysg Blynyddoedd Cynnar: Cydlynydd Rhaglen (Dros dro)

Cefndir

Fe ddoes i at addysg uwch yn hwyrach na’r arferol yn dilyn cyfnod hir o gynnal cylch meithrin ac o fagu teulu ifanc. Hyfforddais fel athrawes gynradd yn y Drindod gan arbenigo ar fabanod ac yna gyfnod hir o weithio fel athrawes babanod. Dilynais y cwrs MA Addysg Blynyddoedd Cynnar tra’n dysgu a chefais fy secondio i ddarlithio yn y Drindod. Ymunais â’r Ysgol Plentyndod Cynnar yn barhaol yn 2005. Dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg rwy’n neud yn bennaf. Mae gen i gymhwyster arweinydd Ysgol y Goedwig a bues i’n astudio yn Nenmarc gydag Ysgolion y Goedwig. Fel gweddill aelodau’r Ysgol, rwy wedi astudio hefyd yn Reggio Emilia.

Diddordebau Academaidd

Maes fy niddordeb arbennig yw chwarae yn yr awyr agored, creadigedd, dysgu tu fas yn y blynyddoedd cynnar. Roedd yr ymchwil ar gyfer fy MA yn ymwneud ag ymchwil gweithredol mewn ysgol gynradd leol yn astudio’r berthynas rhwng dysgu yn yr awyr agored a’r Cyfnod Sylfaen 3 - 7 oed.

Gwybodaeth bellach

Israddedig:

BA Addysg Blynyddoedd Cynnar
Deall Dysgu Plant Ifainc
Y Plentyn Ifanc: Dysgwr Creadigol
Camu Allan: Dysgu yn yr Awyr Agored
Dweud yn Blaen (gloywi iaith)
Arolygu traethodau hir

Ol radd (MA ABC)

Plant ifainc yn dysgu 0 – 3
Plant ifainc yn dysgu 3 – 6
Arolygu traethodau hir