Ann-Marie Gealy BAddysg (Prifysgol Cymru), MEd (Prifysgol Agored)
Manylion ar sut i gysylltu
Ysgol Plentyndod CynnarY Gyfadran Addysg a Hyfforddiant
Ffôn: (01267) 676683 (6683)
E-bost: a.gealy@ydrindoddewisant.ac.uk
Campws
Campws CaerfyrddinTeitl y Swydd
Uwch Ddarlithydd
Rôl yn y Brifysgol
BA Early Years Education: Cydlynydd Rhaglen
Cefndir
Cefais fy hyfforddi yn athrawes gynradd yn y Drindod ac yn dilyn cyfnod fel athrawes, dychwelais i’r Drindod i’r Ysgol Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon. Yn 2003 ymunais ag Ysgol Plentyndod Cynnar fel uwch ddarlithydd ac erbyn hyn, fi yw cydlynydd y BA EYE. Rwy’n arolygydd cynradd a Cyfnod Sylfaen 3 - 7 gydag Estyn. Fel pob un ohonom ni yn yr Ysgol, rwy wedi manteisio ar y cyfle i astudio yn Reggio Emilia.
Diddordebau Academaidd
Prif feysydd diddordeb i fi yw sut mae plant ifainc yn meddwl, deallusrwydd emosiynol a’r cysyniad o les yn y blynyddoedd cynnar. Yn dilyn yr ymweliad â Reggio Emilia, rwyf wedi bod yn brysur gydag ystod o raglenni Hyfforddiant Mewn Swydd sy’n cael eu cynnig gan yr Ysgol, yn arbennig rhai sy’n ymwneud a Reggio Emilia, dogfennu dysgu a chwarae plant.
Ar hyn o bryd, rwy’n ymchwilio i gyraeddiadau myfyrwyr mewn gwahanol fathau o asesiadau. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer datblygu strategaeth asesu’r Ysgol. Mae arall o ddiddordeb ymchwil yw canfyddiadau myfyrwyr o greadigedd yn y blynyddoedd cynnar. Fel cynrychiolydd yr Ysgol ar Bwyllgor Rhyngwladol y Coleg, rwy’n brysur yn sefydlu cysylltiadau gyda cholegau a phrifysgolion tramor.
Gwybodaeth bellach
Dysgu israddedig:
BA Addysg Blynyddoedd Cynnar:
Reggio Emilia: Athroniaeth ac Ymarfer
Hyrwyddo Dysgu Plant Ifainc
Datblygiad Dynol: y blynyddoedd cynnar
Y Plentyn Ifanc: Meddyliwr Creadigol
Y Darllenydd Ifanc: Egin Llythrennedd
Traethodau hir
Dysgu ôl radd:
‘Learning to be Good’: PSE in the Early Years (Dwyieithog)
Cefnogaeth traethodau hir



