Dr Glenda Tinney BSc, PGCE, PhD

glendatinney

Manylion ar sut i gysylltu

Ysgol Plentyndod Cynnar
Y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant
Ffôn: (01267) 676605 (6605)
E-bost: g.tinney@ydrindoddewisant.ac.uk


Campws

Campws Caerfyrddin

Teitl y Swydd

Uwch Ddarlithydd

Rôl yn y Brifysgol

Tiwtor derbyniadau

Dysgu israddedig:

BA Addysg Blynyddoedd Cynnar
Sgiliau Academaidd i Fyfyrwyr
Y Plentyn Iach
Camu Allan: Dysgu yn yr Awyr Agored
Traethodau hir

Dysgu ôl radd:

Sgiliau Academaidd
Niwrobioleg
Arolygu Ymchwil

Cefndir

Rwy wedi bod yn y Brifysgol ers 2002. Cyn hynny roeddwn yn ymchwilydd post-doethuriaeth ym Mhrifysgol Lancaster. Wedi cyfnod yn dysgu gwahanol fodylau cadwriaethol ac amgylcheddol mewn Ysgolion eraill yn y Brifysgol, rwy nawr yn aelod amser llawn o'r Ysgol Plentyndod Cynnar. Ffocws fy nysgu yn yr Ysgol yw iechyd plant bach, bioleg, sgiliau academaidd ac ymchwil. Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn addysg ar gyfer cynaladwyedd a dinasyddiaeth byd eang a sut mae hyn yn cysylltu gyda’r Cyfnod Sylfaen. Mae rôl addysgwyr yn y broses o hyrwyddo cynaladwyedd, ymwybyddiaeth o’r byd naturiol a gweithredu fel ymarferwyr amgylcheddol ymwybodol hefyd yn faes o ddiddordeb.

Diddordebau Academaidd

Mae gen i nifer o ddiddordebau ymchwil sy’n cynnwys gwaith yn ymwneud â chanfyddiadau o dirwedd ac amgylchedd. Rwy wedi bod hefyd yn ymchwilio i’r rhwystrau i addysg uwch sy’n wynebau grwpiau Du a Lleiafrifol Ethnig. Mae’r ymchwil hwn wedi bod yn sail i bolisïau ehangu mynediad y Brifysgol. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio gyda phrosiect ymchwil sy’n edrych yn fanwl ar addysg ddwyieithog yn y Cyfnod Sylfaen.