Sioned Saer BA

sionedsaer

Manylion ar sut i gysylltu

Ysgol Plentyndod Cynnar
Y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant
Ffôn: (01267) 676939 (6939)
E-bost: s.saer@ydrindoddewisant.ac.uk

Lleoliad

Mae fy mhrofiadau yn y sector fusnes a'r Uned Amddiffyn Teulu wedi arwain at ystod eang o ddiddordebau gan gynnwys rheoli meithrinfeydd, hawliau ac amddiffyn plant a dinasyddiaeth plant.

Campws

Campws Caerfyrddin

Teitl y Swydd

Cydlynydd Rhagledd Tystysgrif Addysg Uwch mewn Rheoli Meithrinfeydd

Rôl yn y Brifysgol

Darlithydd

Cefndir

Rwy wedi bod yn ymwneud ag addysg blynyddoedd cynnar am bron i ugain mlynedd. Wedi cwblhau fy NNEB, sefydlais un o feithrinfeydd dydd cyntaf de Cymru ac yna sefydlais ail feithrinfa yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli. Ymunais wedyn â Heddlu Dyfed-Powys ac ar ôl cyfnod prawf, cefais hyfforddiant dwys mewn amddiffyn plant a bues i’n gweithio yn yr Uned Amddiffyn Teuluoedd am rai blynyddoedd.

Gadewais yr heddlu i sefydlu meithrinfa arall, ddwyieithog, sydd erbyn hyn yn cyflogi mwy na ugain o ymarferwyr blynyddoedd cynnar ac mae’n cynnig gwasanaeth i bron cant o deuluoedd. Yn ystod y cyfnod yma, dychwelais i addysg uwch i ddilyn gradd BA Addysg Blynyddoedd Cynnar yng Ngholeg Prifysgol y Drindod. Roedd hi’n bosibl i mi ddilyn y radd drwy ddull newydd o astudio - y Dull Dysgu Hyblyg. Roedd hyn yn caniatáu i mi redeg y busnes yn ystod y dydd ac astudio min nos. Yn 2004, enillais radd dosbarth cyntaf ac yn 2006 ymunais a’r Ysgol Plentyndod Cynnar, yn Gymrawd Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Cymru. Ers ymuno â’r Ysgol, rwy wedi cael cyfle i astudio yn Reggio Emilia yn yr Eidal.

Diddordebau Academaidd

 

 



Gwybodaeth bellach

Dysgu israddedig:

Rheoli a gweithio mewn tîm yn y blynyddoedd cynnar
Deall Dysgu Plant Ifainc
Egwyddorion ac Ymarfer Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn y Blynyddoedd Cynnar
Gofynion Statudol
Caffael Iaith
Traethodau hir