Skip page header and navigation

Ydych chi’n gadael y Lluoedd Arfog? Ac yn ystyried addysg...

Yn PCYDDS rydym yn cydnabod ac yn dathlu’r hyn y mae personél sy’n gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Fawrhydi yn ei wneud dros bob un ohonom yn y gymuned ehangach.

Rydym yn falch o fod wedi llofnodi Cyfamodau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn Sir Gaerfyrddin ac Abertawe ac rydym yn gweithio gyda sefydliadau partner i sicrhau na ddylai unrhyw aelod o’r Lluoedd Arfog sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd neu sydd wedi ymddeol, boed yn filwr rheolaidd, milwr wrth gefn neu’n gyn-filwr, na’u teuluoedd, fod o dan anfantais o ganlyniad i’w gwasanaeth i’w gwlad a dylent gael eu trin yn deg ac yn briodol i gydnabod yr hyn y maen nhw wedi’i wneud dros bob un ohonom. 

Pam PCYDDS?

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw’r Brifysgol ar gyfer De-orllewin Cymru; mae ein campysau yng Nghaerfyrddin, Llambed ac Abertawe yn golygu bod amrywiaeth ehangach fyth o gyfleoedd dysgu ar gael i chi ddewis ohonynt ac yn cael eu cyflwyno yng nghanol Abertawe.

Ni yw’r Brifysgol sector deuol gyntaf o’i math gan ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. 

Mae hyn yn golygu y gallwn, gydag ystod mor eang o gyfleoedd, gynnig cwrs a phrofiad dysgu sy’n addas ac sy’n adlewyrchu eich anghenion chi. Mae gennym hanes ardderchog o weithio gyda myfyrwyr aeddfed ar draws ein holl gampysau.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi’i chofrestru o dan Gynllun Credydau Dysgu Gwell y Weinyddiaeth Amddiffyn felly gallwch gael gwybodaeth am ein cyrsiau ar wefan ELCAS neu drwy gael golwg ar ein gwefan ni.

Cefnogaeth i chi

Rydym yn deall ei bod hi’n bosibl eich bod wedi bod allan o fyd addysg ffurfiol ers tro. Mae cyn-aelodau o’r lluoedd arfog yn astudio gyda ni ar hyn o bryd. Dywedon nhw y gall cael mynediad at gwrs Prifysgol beri dryswch a bod yn gymhleth. Felly, rydym wedi sicrhau bod cymorth ar gael.

Fel rhan o’n hymrwymiad i gefnogi’r Cyfamodau, bydd enw cyswllt ar gael i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i’ch helpu i ddewis y cwrs cywir, i edrych ar eich hawliau ariannol a’ch cefnogi gyda’r broses ymgeisio.

Os ydych angen cymorth gydag unrhyw agwedd arall o’ch bywyd, gallwn eich cyfeirio at yr asiantaethau perthnasol gan ein bod yn bartneriaid yn y Cyfamodau. I gael gwybodaeth gyffredinol am y broses ymgeisio ar gyfer ymgeiswyr aeddfed a’r cymorth sydd ar gael, ewch i’n hadran Myfyrwyr Aeddfed