Skip page header and navigation

Introduction

Mae gradd-brentisiaethau yn ddewis arall yn lle astudiaeth draddodiadol mewn prifysgol, ac maent yn dod yn fwyfwy poblogaidd.  Cynlluniau hyfforddi seiliedig ar waith ydynt. Byddwch yn cael profiad o weithle go iawn ac yn ennill cyflog, gan weithio ar yr un pryd tuag at gymhwyster gradd wedi i chi gwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus. 

Rhagor o wybodaeth am Radd-brentisiaethau.

Group of people at an exhibition with one person in focus

Ar gyfer pwy y maent?

Yn fyr, mae gradd-brentisiaethau ar gyfer pawb, ar yr amod eich bod yn gweithio mewn diwydiant perthnasol ac yn 18 oed neu’n hŷn gallech wneud gradd-brentisiaeth, a chofiwch nad oes terfyn oedran na ffioedd dysgu.  Cewch holl fanteision bod yn gyflogedig yn llawn amser wrth wella eich cyflogadwyedd a rhagolygon gyrfa. 

Mae gradd-brentisiaeth yn cyfuno gweithio gydag astudio (fel arfer, ond ddim bob tro, trwy gael eich rhyddhau o’r gwaith 1 diwrnod yr wythnos) ac mae’r cyfuniad hwn yn ffordd wych i gael y profiad a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo mewn amgylchedd gwaith.

Student standing in front of a display of their work

Beth yw gofynion mynediad gradd-brentisiaeth?

Rhaid i chi fod yn gyflogedig yn y sector perthnasol i gychwyn y rhaglen.

I gael mynediad i Brentisiaeth Uwch neu Radd-brentisiaeth mae angen i chi fod â chymwysterau ar lefel 3 (Safon Uwch/Lefel A, Diploma BTEC) neu brofiad perthnasol yn y gweithle. Mae Prentisiaeth Uwch neu Radd-brentisiaeth yn gyfle gwych i bobl sydd eisoes wedi cwblhau rhaglen Brentisiaeth Lefel 3, HNC neu HND gamu ymlaen yn eu gyrfa.

Myfyriwr yn gweithio ar brosiect modurol

Sut maent yn gweithio?

Rhaid i brentisiaid dreulio o leiaf 20% o’u hamser yn ymgymryd â hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith. Mae hyn yn cynnwys cael eu rhyddhau’n rheolaidd fesul diwrnod neu floc i fynychu’r brifysgol, diwrnodau hyfforddi arbennig neu weithdai. Rhaid i’r hyfforddiant fod yn uniongyrchol berthnasol i fframwaith neu safon y brentisiaeth a gellir ei ddarparu ym man gweithio arferol y prentis, ar yr amod nad yw’n rhan o’i ddyletswyddau gweithio arferol. Gall gwmpasu hyfforddiant ymarferol megis cysgodi, mentora, ymweliadau â diwydiant a mynychu cystadlaethau.

Mae hyfforddiant yn y gwaith yn helpu prentisiaid i ddatblygu ac ymgorffori’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau penodol ar gyfer y gweithle.

Mae angen i brentisiaid gael eu cefnogi gan fentor yn y gweithle. Wedi i brentis gwblhau ei brentisiaeth, dylai allu dangos ei fod yn medru cwblhau tasgau’n hyderus ac yn llwyr i’r safon a bennir gan y diwydiant.