Skip page header and navigation

Bwrsariaethau Ôl-raddedig

  • Bwrsariaeth sydd ar gael i fyfyrwyr o dan 25 oed sy’n dod i’r brifysgol o gefndir gofal (i helpu gyda chostau cychwynnol o ran adnoddau ac offer)


    Profiad o ofal (3 mis neu ragor yn byw o dan Ofal Awdurdod Lleol dros eu tair oed). Ar gael i rai o dan 25 yn unig.

    Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais e.e. Cadarnhad o’ch amgylchiadau trwy lythyr gan eich Awdurdod Lleol (ALl) neu Awdurdod Gofal, yn cadarnhau eich bod o dan ofal eich ALl am gyfnod o 3 mis neu fwy dros eich tair oed.

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000

    Gwybodaeth Ychwanegol: Ffurflen gais i gynnwys tystiolaeth ategol

    Mae’r fwrsariaeth yn cael ei thalu mewn 3 thaliad (un bob tymor) – 25%, 25% a 50%

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Myfyrwyr  o gefndir gofal

  • for assistance with disability-related costs


    Bwrsariaeth ar gyfer unrhyw fyfyriwr sydd ag anabledd, neu’n cael asesiad o anabledd, i helpu gydag unrhyw gostau yn ymwneud a’r anabledd hwnnw i hyrwyddo’i astudiaethau.

    Eligibility Criteria:

    Mae Gwasanaethau Myfyrwyr wedi nodi bod angen asesiad diagnostig ar y myfyriwr,

    Neu

    Mae angen offer arbenigol ar y myfyriwr ond nid yw’n gymwys i gael cymorth y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA).

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £700

    Dyddiad olaf i wneud cais: Gall myfyrwyr wneud cais unrhyw bryd

    Gwybodaeth Ychwanegol: Ni ellir dyfarnu’r arian hwn i fyfyrwyr sydd eisoes yn derbyn cymorth y DSA.

    Ffurflen gais i gynnwys copi o’ch llythyr hysbysiad Cyllid Myfyrwyr a phrawf o gostau’r offer arbenigol (lle’n berthnasol)

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Anabledd

  • ar gyfer myfyrwyr  dan 25 oed sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni


    Hyd at £1000 i gynorthwyo myfyrwyr (18–25 oed) sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni ac nad ydynt yn cael unrhyw gyswllt â nhw, neu nad ydynt mwyach yn cael eu cefnogi gan eu teulu oherwydd bod y berthynas wedi chwalu gan arwain at roi’r gorau i gysylltu ers 12 mis neu fwy.  

    Meini Prawf Cymhwystra:

    Rhaid i fyfyrwyr fod o dan 25 oed a bydd yn ofynnol iddynt ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais e.e. cadarnhad gan Gyllid Myfyrwyr eu bod yn cael eu hasesu am gyllid fel myfyriwr sydd wedi ymddieithrio, neu gopi o’r dystiolaeth a roddwyd i Gyllid Myfyrwyr yn rhan o’r cais ymddieithrio.  

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000

    Gwybodaeth Ychwanegol: Ffurflen gais i gynnwys tystiolaeth ategol.
    Mae’r fwrsariaeth yn cael ei thalu mewn tair rhan – 25% yn nhymor 1, 25% yn nhymor 2 a 50% yn nhymor 3. 

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Myfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio

  • ar gyfer myfyrwyr sy’n ofalwyr a/neu rieni â chostau gofal plant


    Myfyrwyr dan 25 oed sy’n Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr 

    Myfyrwyr dros 25 oed sy’n Ofalwyr 

    Myfyrwyr sydd â phlant ac sydd angen help gyda chostau gofal plant

    Lefelau bwrsariaethau:

    Hyd at £500 i gefnogi costau gofal plant (mewn meithrinfa, crèche neu ofalwr plant cofrestredig yn y DU), pan na fydd cyllid gofal plant ar gael drwy’r llywodraeth neu Gyllid Myfyrwyr. Telir y fwrsariaeth hon mewn dau randaliad – 50% y semester.

    neu

    Hyd at £500 i gefnogi oedolion dibynnol, pan nad yw myfyriwr yn gymwys am y Grant Oedolion Dibynnol a’r Grant Cymorth Arbennig drwy Gyllid Myfyrwyr (byddai’r dystiolaeth sy’n ofynnol yn cynnwys y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu’r Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) perthnasol). Telir y fwrsariaeth hon mewn dau randaliad - 50% y semester.

    Hyd at £1000 i fyfyrwyr dan 25 oed sy’n Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr (y dystiolaeth angenrheidiol fydd llythyr gan eich Awdurdod Lleol/Gwasanaethau Cymdeithasol neu Grŵp Cymorth Gofalwyr). Telir y fwrsariaeth hon mewn tri rhandaliad – 25% yn nhymor 1, 25% yn nhymor 2 a 50% yn nhymor 3. 

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000

    Gwybodaeth Ychwanegol: Dylai’r cais gynnwys tystiolaeth ategol.

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Rhieni a Gofalwyr

  • ar gyfer myfyrwyr sy’n dod o ardaloedd Ehangu Cyfranogiad MALIC 40 


     Hyd at £100 i gefnogi myfyrwyr sy’n dod o ardaloedd Ehangu Cyfranogiad fel y’u dynodwyd gan Lywodraeth Cymru.

    Meini Prawf Cymhwystra: Mae cod post cartref y myfyrwyr (nid eu cyfeiriad adeg tymor) yn perthyn i ddau gwintel isaf MALlC 40 fel y’u darperir gan Lywodraeth Cymru.

    Dyddiad olaf i wneud cais: Nid oes angen gwneud cais cychwynnol; bydd y Brifysgol yn cysylltu â myfyrwyr sy’n gymwys am y fwrsariaeth hon.

    Gwybodaeth Ychwanegol: Gall myfyrwyr dderbyn y fwrsariaeth unwaith yn y flwyddyn academaidd a phrosesir y fwrsariaeth ym mis Mai.

  • Bwrsariaeth Llesiant Myfyrwyr Trawsryweddol ac Anneuaidd 


    Hyd at uchafswm o £250 i bob myfyriwr cymwys, a ddarperir fel arfer yn ôl-weithredol ar ôl cyflwyno derbynebau prynu.

    Rhagwelir y bydd y fwrsariaeth hon yn cynorthwyo myfyrwyr Trawsryweddol ac Anneuaidd i gael cymorth llesiant priodol – er enghraifft, teithio i apwyntiadau, presgripsiynau, gwasanaethau cymorth a lloches.   

    Bydd myfyrwyr yn nodi eu bod yn Drawsryweddol neu’n Anneuaidd a byddant wedi ysgwyddo costau llesiant perthnasol.

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £250

    Gwybodaeth Ychwanegol: Dyfernir y fwrsariaeth hon fel arfer fel ad-daliad ar ôl cyflwyno derbynebau priodol. Os na all myfyrwyr dalu costau ymlaen llaw yna anogir ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr.

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen Bwrsariaeth Llesiant Myfyrwyr Trawsryweddol ac Anneuaidd 

  • ar gyfer myfyrwyr sy’n ymgymryd â modylau drwy gyfrwng y Gymraeg


    Myfyrwyr sy’n ymgymryd â modylau cyfrwng Cymraeg

    Dyfernir y wobr i fyfyrwyr israddedig sy’n cynnal y cyfan neu ran o’u hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog:
    £50 am bob 10 credyd a gwblhawyd yn llwyddiannus drwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog (rhaid bod o leiaf 50% o’r modylau yn ddwyieithog a chanddynt god C)

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £900 (neu £1200 mewn rhaglenni gradd dwy flynedd dwys)

    Dyddiad olaf i wneud cais: 29ain Ebrill 2024 

    Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r wobr yma’n gysylltiedig â chanlyniadau a bydd yn cael ei dyfarnu wedi’r byrddau arholi ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
    Sylwer na fydd myfyrwyr sydd eisoes yn derbyn Ysgoloriaethau Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gymwys ar gyfer £500 cyntaf yr ysgoloriaeth hon ac yn derbyn yr elfen ychwanegol yn unig.

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Gwobr Cyfrwng Cymraeg / Dwyieithog

  • Bydd yr ysgoloriaeth hon ar gael i gefnogi pedwar myfyriwr sydd â statws ffoadur neu sy’n ceisio lloches yn y DU.

    Mynediad i’r Brifysgol a chefnogaeth i fyfyrwyr â statws ceisiwr lloches y DU neu statws ffoadur.

    Bydd y fwrsariaeth hon yn hepgor ffioedd ac yn cynnwys cefnogaeth atodol ar gyfer astudio gan gychwyn ym mlwyddyn academaidd 2024/25.

    Er  mwyn gwneud cais am y fwrsariaeth hon bydd angen bod ymgeiswyr yn cwrdd â’r meini prawf a nodwyd yn y telerau ac amodau.

    Mae’r meini prawf yn cynnwys: 

    • Dal statws o’r rhestr a nodwyd uchod a
    • Derbyn cais di-amod neu amodol ar gyfer astudio ar gwrs amser llawn, israddedig yn PCYDDS.

    Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30ain Mai 2024

    Ffurflen gais: Ffurflen gais Bwrsariaeth Prifysgol Noddfa

  • Cymorth â chostau datblygu gyrfa neu brofiad gwaith


    Telir costau o hyd at £200 ar gyfer cyrsiau datblygu byr neu Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (yn ychwanegol at y cwrs) neu hyd at £1000 ar gyfer interniaethau a drefnwyd gan y myfyriwr (yn dibynnu ar y profiad). Rhaid i gyrsiau neu interniaethau fod yn berthnasol i’r rhaglen academaidd.

    Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu at ei gilydd i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw £1000.

    Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi’u penodi’n interniaid INSPIRE neu sy’n elwa o interniaethau STEM y Brifysgol wneud cais yn ychwanegol trwy’r gronfa hon oherwydd ariennir y rolau hynny drwy’r gronfa hon eisoes. Mae myfyrwyr sy’n cynrychioli’r Brifysgol yn yr Eisteddfod hefyd yn cael eu cefnogi drwy’r gronfa hon, felly mae unrhyw daliadau’n cyfrannu at yr uchafswm dyfarniad o £1000.

    Bwriedir i’r Fwrsariaeth Datblygu Gyrfa gynorthwyo â phrofiad gwaith o ran costau teithio / llety. Ni ddylai’r profiad gwaith fod yn elfen orfodol o leoliad gwaith o fewn y cwrs.  

    Ymgeisiwch nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Datblygu Gyrfa

  • cymorth â chostau cwrs


    Myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig

    Hyd at £250 i gynorthwyo myfyrwyr amser llawn i wneud cais am gostau yn gysylltiedig â’u cwrs

    Dyfernir y fwrsariaeth hon fel arfer fel ad-daliad ar ôl cyflwyno derbynebau prynu. Os na all myfyrwyr dalu costau ymlaen llaw yna anogir ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr.

    Gall costau yn gysylltiedig â’r cwrs gynnwys: llyfrau arbenigol, offer arbenigol ac ati.

    Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais lle mae’r cymorth y gofynnir amdano yn llai na £250, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu at ei gilydd i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw £250

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £250

    Gwybodaeth Ychwanegol: Bydd angen i fyfyrwyr gyflwyno copïau o dderbynebau fel prawf o’r costau

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Costau Cwrs

  • am gymorth â dyfais neu gostau rhyngrwyd


    Myfyrwyr amser llawn a rhan amser sydd wedi cofrestru ar gwrs yn PCYDDS

    Bwriad y fwrsariaeth Cysylltedd Digidol hon yw rhoi cymorth i fyfyrwyr nad oes ganddynt fynediad at ddyfais a/neu ddarpariaeth rhyngrwyd ar gyfer eu hastudiaethau ac y mae cyllid yn rhwystr iddynt brynu eu dyfais eu hunain. Dyfernir y fwrsariaeth i fyfyrwyr cymwys sy’n ceisio cyfraniad ariannol tuag at gysylltedd digidol (hyd at £100) neu gostau dyfais (hyd at £500).

    Er mwyn bod yn gymwys, rhaid bod myfyrwyr wedi cael eu cofrestru ar isafswm o 40 credyd ar gwrs PCYDDS a byddant yn derbyn y lefel uchaf o gymorth Cyllid Myfyrwyr.

    Bydd angen i fyfyrwyr sy’n derbyn yr uchafswm Cyllid Myfyrwyr ac sy’n dymuno derbyn cymorth drwy’r llwybr ymgeisio hwn:

    • Gwblhau’r ffurflen gais ar-lein;
    • Darparu copi o’u llythyr Cyllid Myfyrwyr yn dangos eu bod yn derbyn y lefel uchaf o gymorth ariannol.

    Os ydych eisoes wedi prynu dyfais a/neu fand eang i gefnogi eich astudiaethau, a fyddech cystal â chynnwys prawf prynu hefyd.

    Uchafswm y dyfarniad drwy’r fwrsariaeth hon yw £500.

    Please Note: 

    Noder:

    Os nad ydych yn cael y cymorth ariannol mwyaf gan Gyllid Myfyrwyr mae gennych ddau lwybr amgen ar gyfer cymorth.

    • Os ydych eich wedi prynu’ch dyfais eich hun gallwch wneud cais am hyd at £250 tuag at y gost trwy’r fwrsariaeth Costau Cwrs. Bydd angen i chi ddarparu copi o’r dderbynneb ar gyfer eich pryniant. Cliciwch yma am ffurflen gais Bwrsariaeth Costau Cwrs: Ffurflen gais Bwrsariaeth Costau Cwrs
    • Os na allwch fforddio prynu’ch dyfais eich hun gallwch wneud cais am gymorth drwy’r fwrsariaeth hon ond gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth ychwanegol i gefnogi’ch cais. Bydd angen i chi:
      • Gwblhau’r ffurflen gais ar-lein
      • Darparu copi o’ch llythyr Cyllid Myfyrwyr yn dangos lefel y cymorth ariannol yr ydych yn ei dderbyn (dadansoddiad llawn gan gynnwys unrhyw hawl i grant gofal plant)
      • Cwblhau ffurflen incwm a gwariant y byddwn yn ei hanfon atoch ar ôl derbyn y cais ar-lein
      • Darparu mis o gyfriflenni banc cyfredol ar gyfer pob cyfrif sydd gennych gan gynnwys balans cyfredol, gyda nodiadau i gadarnhau eich costau craidd.

    Dyddiad olaf i wneud cais: ceisiadau ar agor drwy gydol y flwyddyn academaidd.

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Cysylltedd Digidol

  • cymorth â  chostau graddio


    Hyd at £100 i gynorthwyo graddedigion sydd mewn trafferthion ariannol gyda chostau sy’n gysylltiedig â mynychu seremoni raddio.

    Er mwyn gwneud cais am y fwrsariaeth hon bydd angen i chi: 

    • fod ar fin graddio o gwrs PCYDDS ac yn gymwys i fynychu’r seremoni raddio
    • bod wedi cadarnhau eich bod yn bwriadu mynychu seremoni raddio PCYDDS
    • dangos bod angen cymorth ariannol gyda chostau rhesymol yn ymwneud â graddio

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £100

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Costau Graddio

  • cymorth â chostau cyfnod lleoliad gorfodol


    Hyd at £250 i gynorthwyo myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliad gorfodol fel rhan o’u cwrs.

    Dyfernir y fwrsariaeth hon fel arfer fel ad-daliad ar ôl cyflwyno derbynebau prynu. Os na all myfyrwyr dalu costau ymlaen llaw yna anogir ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr.

    Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais lle mae’r cymorth y gofynnir amdano yn llai na £250, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu at ei gilydd i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw £250

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £250

    Gwybodaeth Ychwanegol: Bydd angen i fyfyrwyr gyflwyno derbynebau fel prawf o’r costau a nodi cyfeiriad y lleoliad a phellter y siwrnai.

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Cyfnod Lleoliad

  • ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio gradd Meistr Ôl-raddedig a addysgir yn llwyr neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg 


     Meini prawf:

    • Ar gael i’r rheiny sy’n astudio rhaglenni gradd meistr 180 credyd gydag o leiaf 40 credyd a addysgir neu ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg 
    • Ar gael ar gyfer rhaglenni cymwys cyfrwng Cymraeg sy’n cychwyn yn PCYDDS o fis Medi 2023
    • Cyrsiau amser llawn a rhan amser yn gymwys
    • Ar gael ar gyfer myfyrwyr dros 60 oed hefyd.

    Maint y wobr: hyd at £1,000

    Dyddiad cau: 31ain Mawrth 2024

    Sut i wneud cais: Ffurflen gais Bwrsariaeth Cymhelliant Cwrs Meistr Llywodraeth Cymru: Cyfrwng Cymraeg

  • Ar gael i fyfyrwyr dros 60 oed sy’n byw yng Nghymru ac sy’n astudio rhaglen Meistr 180 credyd lawn a addysgir (neu ymchwil) yn PCYDDS


    Rhaid bod myfyrwyr wedi bod yn byw yng Nghymru cyn cychwyn y cwrs.

    Ar gael i fyfyrwyr dros 60 oed nad ydynt yn gallu derbyn y Benthyciadau Meistr drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru

    Maint y wobr: hyd at £4,000

    Dyddiad cau: 31ain Mawrth 2024

    Sut i wneud cais: Ffurflen gais Bwrsariaeth Cymhelliant Gradd Meistr Llywodraeth Cymru: 60+

  • Ar gael i’r rheiny sy’n astudio rhaglenni gradd meistr 180 credyd a addysgir neu ymchwil mewn pynciau STEMM


    Ar gael ar gyfer rhaglenni meistr STEMM cymwys sy’n dechrau yn PCYDDS o fis Medi

    Eligibility: 

    • Available to those studying a full 180 credit taught or research masters degree programmes in STEMM subjects.
    • Available for eligible STEMM masters programmes starting at UWTSD from September
    • Pynciau Cymwys:
           
      • Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch (MSc, PGDip, PgCert)
      • Data a Deallusrwydd Artiffisial (MSc, PGDip, PGCert)
      • Gwyddor Data a Dadansoddeg (MSc, PGDip, PGCert)
      • Peirianneg Meddalwedd (MSc, PGDip, PGCert)
      • Peirianneg Meddalwedd a Deallusrwydd – Artiffisial (MSc, PGDip, PGCert)
      • Rheolaeth Eiddo a Chyfleusterau (MSc)
      • Adeiladu Cynaliadwy (MSc)
      • Peirianneg Fecanyddol (MSc)
      • Rheolaeth Prosiectau Peirianneg (MSc)
      • Peirianneg Ddiwydiannol (MSc)
      • Gweithrediadau Darbodus ac Ystwyth (MSc)
      • Peirianneg Beiciau Modur (MSc)
      • Peirianneg Chwaraeon Moduro (MSc)
      • Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol (MSc)
         
    • Cyrsiau amser llawn a rhan amser yn gymwys
    • Ar gael hefyd i fyfyrwyr 60 oed neu’n hŷn
    • Mae’r nawdd STEMM hwn yn ychwanegol i’r cynllun nawdd ôl-raddedig sydd ar waith ar gyfer myfyrwyr Cymru

    Maint y wobr: Hyd at £2,000

    Dyddiad cau: 31ain Mawrth 2024

    Sut i wneud cais: Ffurflen gais Bwrsariaeth Cymhelliant Llywodraeth Cymru: STEM

  • Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymhellion Hyfforddi Athrawon bob blwyddyn. Caiff symiau’r bwrsariaethau sydd ar gael a’r pynciau y maent yn gysylltiedig â nhw eu pennu’n flynyddol mewn ymateb i anghenion y sector addysg.

    Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cyhoeddi argaeledd, y pynciau sy’n cael eu cynnwys a lefelau’r cymhellion hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA) TAR a fydd yn berthnasol yng Nghymru yn y flwyddyn academaidd.

    Isod, cewch dabl sy’n dangos manylion y cymhellion ariannol sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr TAR sy’n cychwyn ym is Medi. Mae’r ffigurau dros dro hyn ar gyfer 2022/2023 dal yn aros i gael eu cwblhau gan Lywodraeth Cymru. Mae manylion pellach i’w gweld ar eu gwefan Cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer pynciau â blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr.

    Cymhwyster gradd

    Pynciau blaenoriaeth uchel

    Bioleg,  Cemeg,
    Cymraeg,  Ffiseg,
    Mathemateg, Ieithoedd Modern,
    TGCh (gwyddorau cyfrifiadurol),

    Anrhydedd dosbarth 1af a/neu PhD neu gradd £15,000
    2:1 £15,000
    2:2 £15,000

    Prosesir bwrsarïau ym mis Medi unwaith yr ydych wedi cofrestru ar y cwrs.

Sylwch fod y canlynol yn cael eu gweinyddu gan Adran Ffioedd PCYDDS.

  • ar gyfer myfyrwyr israddedig (a graddedigion diweddar PCYDDS) sy’n mynd ymlaen i raglen ôl-raddedig a addysgir gan PCYDDS.

    Bwrsariaeth a ddyfernir i fyfyrwyr sydd newydd (o fewn dwy flynedd) gwblhau gradd israddedig yn y Drindod Dewi Sant ac sy’n mynd ymlaen i raglen ôl-radd amser llawn neu ran amser e.e. MA/MRes (ond gan eithrio PGDip/PG Cert)

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £2,500

    Dyddiad olaf i wneud cais: ddim yn berthnasol - bydd y fwrsariaeth yn cael ei dyfarnu’n awtomatig i unrhyw fyfyriwr cymwys.

    Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r fwrsariaeth yn cael ei dyfarnu fel gostyngiad ffioedd a hynny pro-rata ar sail cost a dwyster yr astudio. Mae’r £2,500 llawn ar gyfer cyrsiau sy’n costio £7,500 neu fwy. (Bydd gostyngiad o £1,000 ar gyfer cyrsiau MA llawn a addysgir sy’n costio £5050)

  • Mae’r fwrsariaeth ar gael i’r rheiny sy’n dysgu o bell ac yn cofrestru ym mlwyddyn gyntaf rhaglen ôl-radd a addysgir yn PCYDDS  

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000

    Dyddiad olaf i wneud cais: Bydd y fwrsariaeth hon yn cael ei dyfarnu’n awtomatig i fyfyrwyr cymwys. Bydd y gostyngiad yn ymddangos yn eich cyfrif MyTSD.

    Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r fwrsariaeth yn cael ei dyfarnu fel gostyngiad ffioedd mewn rhandaliadau ar draws y flwyddyn academaidd, a hynny pro-rata ar sail dwyster yr astudio e.e. bydd myfyrwyr sy’n astudio 60 credyd mewn blwyddyn yn derbyn gostyngiad o £550 yn y flwyddyn gyntaf a £500 y flwyddyn yn yr ail a’r drydedd. (Mae’r fwrsariaeth hon yn cael ei dyfarnu ar gyfer cyrsiau â chostau ffioedd dysgu o £7500)

  • Myfyrwyr ôl-raddedig (DU/EU)


    Mae’r fwrsariaeth ar gael i fyfyrwyr o’r DU/UE sy’n dysgu o bell ac yn cofrestru ym mlwyddyn gyntaf rhaglen Meistr (ag eithrio’r Dyniaethau) a addysgir yn PCYDDS. 

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000

    Dyddiad olaf i wneud cais: Bydd y fwrsariaeth hon yn cael ei dyfarnu’n awtomatig i fyfyrwyr cymwys. Bydd y gostyngiad yn ymddangos yn eich cyfrif MyTSD.

    Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r fwrsariaeth yn cael ei dyfarnu fel gostyngiad ffioedd mewn rhandaliadau ar draws y flwyddyn academaidd, a hynny pro-rata ar sail dwyster yr astudio e.e. bydd myfyrwyr sy’n astudio 60 credyd mewn blwyddyn yn derbyn gostyngiad o £500 yn y flwyddyn gyntaf a £500 yn yr ail flwyddyn.

  • UWTSD Ducere Distance Learners’ Bursary

    Cymorth i Fyfyrwyr ôl-raddedig 

    Mae’r fwrsariaeth ar gael i’r rheiny sy’n dysgu o bell ac yn cofrestru ar gwrs MBA a addysgir ar y cyd gyda Ducere. 

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000

    Dyddiad olaf i wneud cais: Gall myfyrwyr ymgeisio ar unrhyw adeg

    Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r fwrsariaeth yn cael ei dyfarnu fel gostyngiad ffioedd mewn rhandaliadau ar draws y flwyddyn academaidd, a hynny pro-rata ar sail dwyster yr astudio e.e. bydd myfyrwyr sy’n astudio 60 credyd mewn blwyddyn yn derbyn gostyngiad o £500 yn y flwyddyn gyntaf a £500 yn yr ail flwyddyn.

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen Gais ar gael yn fuan

  • Bydd yr ysgoloriaeth hon ar gael i gefnogi pedwar myfyriwr sydd â statws ffoadur neu sy’n ceisio lloches yn y DU.

    Mynediad i’r Brifysgol a chefnogaeth i fyfyrwyr â statws ceisiwr lloches y DU neu statws ffoadur.

    Bydd y fwrsariaeth hon yn hepgor ffioedd ac yn cynnwys cefnogaeth atodol ar gyfer astudio gan gychwyn ym mlwyddyn academaidd 2024/25.

    Er mwyn gwneud cais am y fwrsariaeth hon bydd angen bod ymgeiswyr yn cwrdd â’r meini prawf a nodwyd yn y telerau ac amodau. 

    Mae’r meini prawf yn cynnwys

    • Dal statws o’r rhestr a nodwyd uchod a
    • Derbyn cais di-amod neu amodol ar gyfer astudio ar gwrs amser llawn yn PCYDDS.

    Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30ain Mai 2024

    Ffurflen gais: Ffurflen gais Bwrsariaeth Noddfa PCYDDS

  • Ar gyfer myfyrwyr Lefel 4, 5 a 6 o gefndir BAME / Teithwyr sy’n dymuno gwneud gweithgaredd ymchwil neu berfformiad.


    Meini Prawf Cymhwystra:

    Bydd myfyrwyr cymwys yn nodi eu bod yn perthyn i un o’r grwpiau ethnig o dan y penawdau canlynol ar restr gyhoeddedig Llywodraeth y DU:

    • Grwpiau Cymysg neu Amlethnig
    • Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
    • Du, Affricanaidd, Caribïaidd neu Ddu Prydeinig
    • Grŵp Ethnig Arall

    Mae myfyrwyr o ethnigrwydd Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig hefyd yn gymwys am y fwrsariaeth hon.

    Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru eu hethnigrwydd gyda’r Brifysgol fel rhan o’u proses gofrestru.

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £500 ar gyfer costau cynhadledd neu ymchwil (neu hyd at £250 tuag at gostau academaidd a theithio)

    Gwybodaeth Ychwanegol: Gall y gweithgareddau gynnwys:  Mynychu neu gyflwyno mewn cynhadledd; Costau’n gysylltiedig â phrosiect ymchwil neu sioe; Costau teithio a chostau academaidd.

    Tystiolaeth: Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’r costau e.e Talebau ar gyfer offer academaidd, tocynnau teithio ayyb

    Gwnewch Gais Nawr:  Ffurflen gais Bwrsariaeth Cydraddoldeb Ethnig

  • ar gyfer myfyrwyr sy’n ofalwyr a/neu rieni â chostau gofal plant


    Myfyrwyr dan 25 oed sy’n Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr 

    Myfyrwyr dros 25 oed sy’n Ofalwyr 

    Myfyrwyr sydd â phlant ac sydd angen help gyda chostau gofal plant

    Lefelau bwrsariaethau:

    Hyd at £500 i gefnogi costau gofal plant (mewn meithrinfa, crèche neu ofalwr plant cofrestredig yn y DU), pan na fydd cyllid gofal plant ar gael drwy’r llywodraeth neu Gyllid Myfyrwyr. Telir y fwrsariaeth hon mewn dau randaliad – 50% y semester.

    neu 

    Hyd at £500 i gefnogi oedolion dibynnol, pan nad yw myfyriwr yn gymwys am y Grant Oedolion Dibynnol a’r Grant Cymorth Arbennig drwy Gyllid Myfyrwyr (byddai’r dystiolaeth sy’n ofynnol yn cynnwys y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu’r Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) perthnasol). Telir y fwrsariaeth hon mewn dau randaliad – 50% y semester.

    Hyd at £1000 i fyfyrwyr dan 25 oed sy’n Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr (y dystiolaeth angenrheidiol fydd llythyr gan eich Awdurdod Lleol/Gwasanaethau Cymdeithasol neu Grŵp Cymorth Gofalwyr). Telir y fwrsariaeth hon mewn tri rhandaliad – 25% yn nhymor 1, 25% yn nhymor 2 a 50% yn nhymor 3. 

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000

    Gwybodaeth Ychwanegol: Dylai’r cais gynnwys tystiolaeth ategol.

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Rhieni a Gofalwyr

Cyfarwyddyd ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig o’r DU

  • Cyllid Myfyrwyr

    Mae cyllid ar gael ar ffurf benthyciadau, grantiau a bwrsariaethau ar gyfer astudio ôl-raddedig.

    Mae cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon, fel cyrsiau gradd israddedig, yn denu cyllid, ac mae’n bosibl eich bod yn gymwys i dderbyn cymelldaliadau ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon.  

    Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl

    Os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd tymor hir, cyflwr iechyd meddwl neu anabledd dysgu penodol, gallwch wneud cais am Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl i helpu gyda chostau cynnal ac offer arbenigol. Ni fydd yn rhaid i chi eu talu yn ôl, ac nid oes yn rhaid eich bod yn derbyn Benthyciad Ôl-raddedig i wneud cais chwaith.

    Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

    Mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig amrywiaeth o Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

  • Cyn i chi dderbyn unrhyw gyllid ar gyfer eich cwrs yn y brifysgol, bydd yn rhaid i chi fodloni rhai meini prawf cymhwyster. Bydd p’un ai yr ydych yn gymwys yn dibynnu ar eich cwrs, eich oedran, eich cenedligrwydd, eich statws preswyl a’ch astudio blaenorol.

    Mae digon o wybodaeth a chyfarwyddyd fesul cam ar gael ar y gwefannau canlynol i’ch helpu chi ddeall beth sydd ar gael ar eich cyfer, a sut a phryd i wneud cais, a sut i ad-dalu:

    Y ffordd gyflymaf a symlaf i wneud cais yw ar-lein. Dylech wneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl i’r gwasanaeth ceisiadau agor er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn eich arian mewn pryd ar gyfer dechrau’r cwrs.

    I wneud cais, bydd angen pasbort, rhif yswiriant gwladol a manylion banc arnoch.

    Wrth gwblhau eich cais am Gyllid Myfyrwyr, sicrhewch eich bod yn dewis:

    Enw’r Brifysgol: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

    Ar gyfer cyrsiau sydd â nifer o ddyddiadau derbyn a lleoliadau, sicrhewch eich bod yn gwneud cais am Gyllid mewn perthynas â’r mis derbyn a’r lleoliad cwrs cywir.

    Nid oes rhaid i chi aros tan i chi gael lle yn y Brifysgol wedi’i gadarnhau i wneud cais. Gallwch ddefnyddio’r cwrs sydd orau gennych, ac os bydd rhaid, newid y manylion nes ymlaen.

    Ar ôl i’r cais gael ei brosesu, byddwch yn derbyn llythyr oddi wrth staff Cyllid Myfyrwyr (amserlen dalu) yn cadarnhau faint byddwch yn ei dderbyn a’r dyddiadau y cewch eich talu  (tri rhandal, un bob tymor, os ydych yn gwneud cais drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, a rhandaliadau misol os ydych yn gwneud cais drwy Student Awards Agency Scotland).

    Caiff Gwasanaethau Cofrestrfa’r Brifysgol eu hysbysu unwaith bod eich asesiad wedi’i gwblhau, gan ofyn iddynt gadarnhau eich cofrestriad a’ch presenoldeb i ‘r staff Cyllid Myfyrwyr.

    Ar yr amod eich bod wedi cofrestru, a’r tymor wedi dechrau, caiff eich presenoldeb ei gadarnhau a gwnewch dderbyn eich rhandal cyntaf o’r benthyciad (a grantiau os yw’n berthnasol) o fewn 3-5 diwrnod gwaith yn dilyn y dyddiad hwnnw.

    Ar yr amod eich bod yn parhau i fod wedi cofrestru ac yn bresennol, bydd y taliadau yn parhau i gael eu gwneud yn unol â’ch amserlen dalu.

  • Dylid cyfeirio unrhyw broblemau neu ymholiadau sy’n ymwneud â’ch cais neu ddyfarniad at Gyllid Myfyrwyr yn y lle cyntaf, oherwydd nhw sy’n penderfynu ar eich asesiad ariannol ac ar unrhyw ddyfarniadau.

    Ymholiadau ynglŷn â Benthyciadau Ôl-raddedig

    • Student Finance England: 0300 100 0031
    • Student Finance Northern Ireland: 0300 100 0493
    • Student Awards Agency Scotland: 0300 555 0505
    • Cyllid Myfyrwyr Cymru: 0300 100 0494

    Mae hefyd gan y Brifysgol Swyddogion Cyllid Myfyrwyr a all siarad â chi am y cyllid yr ydych efallai yn gymwys i’w dderbyn a’ch helpu gyda’r ffurflenni gwneud cais.

  • Bydd rhaid ad-dalu benthyciadau ôl-raddedig, a chaiff llog ei godi arnynt, gan ddechrau ar y diwrnod y caiff y rhandal cyntaf ei dalu i chi tan i chi ad-dalu’r benthyciad yn llawn. Ni fydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian tan eich bod yn gweithio ac yn ennill dros £21,000 y flwyddyn.

    Unwaith byddwch yn ennill digon i ddechrau ad-dalu, byddwch yn talu 6% ar bopeth yr ydych yn ei ennill sydd dros £21,0000 y flwyddyn. Bydd yr ad-daliadau yn cychwyn ym mis Ebrill, ar ôl i’r cwrs orffen.

    • Os ydych yn gweithio, bydd eich cyflogwr yn didynnu ad-daliadau yn uniongyrchol oddi wrth eich cyflog, ynghyd â threth ac Yswiriant Gwladol. Bydd cyfanswm yr ad-daliad ar gyfer y benthyciad i fyfyrwyr i’w weld ar eich slip talu.
    • Os ydych yn hunangyflogedig, byddwch yn gwneud eich ad-daliadau ar yr un pryd ag y byddwch yn talu treth drwy hunanasesu.
    • Os byddwch yn gorffen gweithio neu mae gostyngiad yn eich incwm, bydd yr ad-daliadau yn dod i ben yn awtomatig tan eich bod yn ennill mwy na’r trothwy unwaith eto.
    • Os byddwch yn symud dramor, bydd rhaid i chi adael y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr  (Student Loans Company – SLC) wybod. Byddwch yn ad-dalu SLC yn uniongyrchol. 
    • Os gwnaethoch dderbyn unrhyw fenthyciadau eraill oddi wrth y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar gyfer astudiaethau blaenorol, byddwch yn ad-dalu’r rhain ar yr un pryd, ar yr amod eich bod yn ennill mwy na’r trothwy.

    Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ad-dalu benthyciadau drwy gysylltu ag Ad-daliadau Benthyciadau i Fyfyrwyr

  • Ni chaiff Cyllid Myfyrwyr ei dalu tan 3-5 diwrnod gwaith ar ôl diwrnod cyntaf y tymor.

    Rhaid i chi gofrestru’n llawn cyn caiff eich cyllid ei ryddhau. Bydd rhaid i chi hefyd gofrestru ar-lein gan ddefnyddio eich cyfrif MyTSD pan gewch eich annog i wneud hynny, a mynychu dosbarthiadau, er mwyn bod eich cofnod yn dangos eich bod wedi cofrestru’n llawn.

    Os nad ydych wedi derbyn llythyr amserlen dalu, mae hyn yn awgrymu nad yw eich asesiad eto wedi ei gwblhau gan Gyllid Myfyrwyr.  Mae’n bosibl mai’r rheswm am hyn yw’r dyddiad y gwnaethoch y cais, neu oherwydd bod y tîm asesu yn aros o hyd am dystiolaeth bellach oddi wrthych. Yn yr achos hwn, dylech gysylltu â Chyllid Myfyrwyr:

    Ymholiadau ynglŷn â Benthyciadau Ôl-raddedig

    • Student Finance England: 0300 100 0031
    • Student Finance Northern Ireland: 0300 100 0493
    • Student Awards Agency Scotland: 0300 555 0505
    • Cyllid Myfyrwyr Cymru: 0300 100 0494

    Os ydych wedi cofrestru, ac wedi derbyn eich llythyr amserlen dalu oddi wrth Gyllid Myfyrwyr, ond heb dderbyn tâl ar ôl 5 diwrnod gwaith wedi dechrau’r tymor, yna, cysylltwch â’r Gofrestrfa registry@uwtsd.ac.uk a gwawn ymchwilio i hyn ar eich rhan.