Skip page header and navigation

Cyfleusterau Llambed

Campfa Canolfan Chwaraeon Llambed

Sport at Carmarthen

Mae’r gampfa ar gampws Llambed yn cynnwys cyfarpar ffitrwydd a pheiriannau gwrthiant o’r radd flaenaf mewn amgylchedd eang, cyfeillgar, sydd wedi’i aerdymheru.

Mae’r gampfa’n cynnwys popeth o ddymbelau i offer croes-ymarfer, peiriannau gwrthiant i bwysau tegell, popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer sesiwn ymarfer effeithiol.

  • Gallwch ddefnyddio ein stiwdio ddawns fawr ar gyfer gweithgareddau megis dosbarthiadau dawns, yoga, Pilates a Chrefft Ymladd.
     

    Prisiau Llogi’r Stiwdio Ddawns (yr awr)

    Myfyrwyr £8
    Staff £9
    Y Cyhoedd £10

    Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01570 424 774 neu anfonwch e-bost i sportscentre@uwtsd.ac.uk.

  • Mae neuadd chwaraeon Llambed yn addas ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys pêl-fasged, badminton, pêl-droed a phêl-rwyd.

    Llogi ar gyfer Chwaraeon

    Grŵp neu unigolyn Chwaraeon/Lleoliad Pris
    Grŵp neu Dîm Chwaraeon Llogi’r Neuadd Chwaraeon (1 Ochr) £36 yr awr
    Grŵp neu Dîm Chwaraeon Archeb Floc i logi’r Neuadd Chwaraeon (10 wythnos - Rhaid cadw at yr un diwrnod ac amser bob wythnos am ddeg wythnos yn olynol heb unrhyw fylchau/egwyl rhwng yr wythnosau) £300
    Grŵp Pêl-fasged (y tu allan i oriau brig)  £2.50 (uchafswm o 5 person yr awr) 
    £36 (mwy na 5 person)
    Unigolyn Pêl-fasged (y tu allan i oriau brig) £2.50

    Chwaraeon unigol

    Badminton
     Gellir chwarae hyd at 3 gêm badminton yr un pryd. 
    Mae modd llogi racedi ar gyfer yr holl chwaraeon raced yn y dderbynfa.

    Sboncen
    Mae cwrt sboncen ar gael gyda balconi i wylio’r chwarae.

    Archebu Cyrtiau
    Gellir archebu pob cwrt drwy gysylltu â’r Ganolfan Chwaraeon ar 01570 424774 neu drwy anfon e-bost i sportscentre@uwtsd.ac.uk. Rhaid talu yn y dderbynfa cyn defnyddio’r cyrtiau. 

    Llogi Cyfarpar
    £1.50 yr eitem (racedi tennis a badminton, peli, ac ati)

    Llogi ar gyfer Partïon 
    Bwriad y pecyn partïon yw hwyluso’r gwaith o drefnu parti pen-blwydd neu unrhyw ddathliad arall.

    Rydym yn cynnig nifer o weithgareddau sy’n rhoi cyfle i ddefnyddwyr gael hwyl dan ofal goruchwyliwr. Mae’r chwaraeon sydd ar gael yn cynnwys pêl-droed, pêl-rwyd, pêl-fasged, pêl-foli a nifer o chwaraeon raced.

    Os oes angen, mae modd trefnu lluniaeth yng Nghanolfan Lloyd Thomas i gwblhau’r dathlu.

    Canslo Archebion
     Mae Rheolwr y Ganolfan Chwaraeon yn cadw’r hawl i ganslo unrhyw archeb o ganlyniad i’r tywydd neu unrhyw reswm sy’n gysylltiedig â defnydd arall o’r cyfleusterau ar y diwrnod archebu neu’n fuan wedi hynny.

    Bydd y Brifysgol yn ymdrechu i roi gwybod i’r llogwr ynglŷn â chanslo trefniadau gan roi cymaint o rybudd â phosibl.

    Rhaid i’r llogwr roi rhybudd o wythnos am ganslo trefniadau (48 awr i ddefnyddwyr achlysurol), a rhaid i’r Brifysgol dderbyn y rhybudd yn ysgrifenedig.

    Caiff trefniadau llogi eu canslo os na fydd y grŵp yn bresennol am ddwy sesiwn yn olynol heb roi rhybudd ysgrifenedig.

    Mae’r drefn ar gyfer newid trefniadau llogi yn dilyn yr un canllawiau â’r rhai ar gyfer canslo.

    Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar e-bost sportscentre@utwsd.ac.uk neu ffoniwch ni ar 01570 424774.  I logi’r neuadd chwaraeon, llenwch y Ffurflen Llogi’r Ganolfan Chwaraeon isod a’i hanfon atom ar e-bost. 

Oriau Agor

Dydd Llun - Dydd Gwener: 9.00 am - 9.00 pm
 Dydd Sadwrn a Dydd Sul: 10.00 am - 1.00 pm

Cyn defnyddio’r Gampfa am y tro cyntaf, rydym yn argymell bod pob aelod newydd yn cwblhau sesiwn gynefino dan oruchwyliaeth aelod o’n tîm Iechyd a Ffitrwydd. Gallwch archebu sesiwn yn y gampfa yn Nerbynfa’r Ganolfan Chwaraeon.

Os ydych chi’n ddefnyddiwr cymwys ac wedi cael sesiynau cynefino mewn campfa o’r blaen yna gallwch lofnodi ein ffurflen ymwrthod/hepgor cynefino a defnyddio’r gampfa’n syth.

Mae’r offer yn cael eu cyflenwi gan TechnoGym - The Wellness Company, Star Trac a Concept 2 Indoor Rower.

Prisiau Aelodaeth

Gydag amrywiaeth o opsiynau hyfforddi a dosbarthiadau ffitrwydd, mae ein cyfleusterau’n cynnig cyfle perffaith i ychwanegu ychydig o amrywiaeth i’ch trefn ymarfer corff. Er mwyn caniatáu i chi fanteisio i’r eithaf ar ein campfa, mae gan Ganolfan Chwaraeon Llambed ystod o opsiynau aelodaeth ac amrywiaeth o ddulliau talu. 

  • Blynyddol - £125

    Misol - £12

    Talu wrth fynd - £4

  • Blynyddol - £144

    Misol - £12

    Talu wrth fynd - £4

    Staff a Phartner (Misol) - £24

    Staff a Phartner (Blynyddol) - £275 

  • Blynyddol - £145

    Misol - £20

    Talu wrth fynd - £4

  • Blynyddol - £200

    Misol - £25

    Mis (untro) - £30

    Talu wrth fynd - £5

    Misol i gyplau - £32

    Blynyddol i gyplau - £350

  • Misol - £20

    Talu wrth fynd - £5

Sylwch: Mae angen e-bost PCYDDS i greu cyfrif staff neu fyfyriwr PCYDDS. Bydd unrhyw gyfrifon sy’n cael eu creu gydag e-bost nad yw’n ymwneud â PCYDDS yn cael eu gwrthod.

Lawrlwythwch Ap Chwaraeon Llambed isod: