Skip page header and navigation

Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu

Llyfrgell Llundain

Mae Llyfrgell Campws Llundain yn cynnig mynediad i ystod eang o wybodaeth ac adnoddau, yn darparu lle i astudio, ac mae ganddi Lyfrgellwyr Cyswllt Academaidd penodol i gefnogi eich anghenion gwybodaeth ac ymchwil. Mae casgliad helaeth o adnoddau ar-lein a chasgliad o lyfrau y gellir eu defnyddio i gyfeirio atyn nhw yn y llyfrgell

Cyfleusterau Llyfrgell Llundain

Adnoddau Llyfrgell Llundain

Rhywun yn tynnu dyfais ddigidol oddi ar silff lyfrau

Mae nifer o eAdnoddau ar gael i fyfyrwyr Campws Llundain i gefnogi eich gwaith ymchwil a’ch gwaith cwrs. Gallwch gael mynediad i’r adnoddau hyn drwy’r catalog.  Dyma rai pecynnau fydd yn ddefnyddiol i chi:

  • ABI Inform Erthyglau testun llawn o gylchgronau busnes a chyfnodolion ysgolheigaidd.
  • Business Source Complete Erthyglau testun llawn o gylchgronau busnes, cyhoeddiadau masnachol a chyfnodolion ysgolheigaidd. Ymchwil i’r farchnad, proffiliau diwydiant, adolygiadau cynnyrch, a gwybodaeth am gwmnïau hefyd.
  • Marketline Yn rhoi mynediad i amrywiaeth unigryw ac ecsgliwsif o ddata diwydiant, cwmnïau, gwledydd, dinasoedd a data ariannol.

PsycArticles Adnodd hollbwysig ar gyfer ymchwilwyr, clinigwyr, addysgwyr a myfyrwyr fel ei gilydd, gydag ymchwil arloesol gan ysgolheigion blaenllaw i seiliau hanesyddol y gwyddorau ymddygiadol a chymdeithasol.

London staff member using a computer

Mae tri Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd ar gael ar y safle:

  • Ivana Curcic
  • Megan Redmond
  • Uzma Ali

Maen nhw ar gael saith diwrnod yr wythnos rhwng 09:00 a 17:00 i ateb ymholiadau a chynnig cyngor a chymorth ar ddefnyddio, chwilio a chael mynediad i eAdnoddau o ansawdd uchel, a chyfeirnodi. 

Gallwch gysylltu â’r Llyfrgellwyr Cyswllt Academaidd drwy e-bost: LondonLibrary@tsd.uwtsd.ac.uk.

Silff lyfrau gron mewn llyfrgell
  • Y Llyfrgell Brydeinig Gall unrhyw un wneud cais am docyn darllenydd i gael mynediad i ystafelloedd darllen y Llyfrgell Brydeinig. Ewch i wefan y Llyfrgell Brydeinig am ragor o fanylion.
  • City Business Library Gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio City Business Library, prif lyfrgell gyhoeddus y DU ar gyfer gwybodaeth fusnes gyfredol am ddim sydd wedi’i lleoli yn Neuadd y Ddinas gerllaw (na ddylid ei chymysgu â llyfrgelloedd City University). Dim ond yn y llyfrgell y gellir defnyddio llyfrau ac ni ellir eu benthyca ond mae mynediad i ofod astudio a rhyngrwyd diwifr am ddim.  

SCONUL Access

Gwiriwch lefel y mynediad a allai fod gennych.