Skip page header and navigation

Yr hyn a gewch chi mewn Diwrnod Agored yn Llambed

Mae mynychu Diwrnod Agored yn Llambed yn ffordd wych i ddysgu am y Brifysgol a’n cyrsiau. Diwrnod Agored Llambed yw eich cyfle i archwilio, dod i wybod rhagor am ein lleoliad hanesyddol, y pwnc o’ch dewis a hyd yn oed godi nwyddau am ddim i’ch cael chi’n barod am eich blwyddyn gyntaf.

Cadw lle ar Ddiwrnod Agored Llambed

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfleoedd i chi weld beth sydd gan leoliadau ein campysau i’w cynnig i chi, a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym pan fyddwch yn dewis astudio yn PCYDDS. Rydym yn cynnal Diwrnodau Agored trwy gydol y flwyddyn er mwyn i chi gael cyfle i ofyn cwestiynau sy’n bwysig i chi. Cadwch le ar ein diwrnod agored nesaf neu cofrestrwch eich manylion fel y gallwn roi gwybod i chi am ddyddiadau ein diwrnodau agored nesaf

Beth a gewch chi drwy fynychu Diwrnod Agored Llambed

01
Dewch i gwrdd â’r darlithwyr a fydd yn helpu i siapio eich dyfodol.
02
Dewch i Ymweld â Llambed a chael blas ar ddiwylliant yr ardal.
03
Ystyriwch y llety sydd ar gael.
04
Darganfyddwch y mannau sydd ar gael i astudio a chymdeithasu.
05
Dychmygwch eich hun yn byw ac astudio yn Llambed.
06
Cewch atebion i unrhyw gwestiynau allai fod gennych a gallwch siarad gyda’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr.
student cycling through woods on path at Lampeter campus

Archwilio’r Pynciau sydd ar gael yn Llambed

Mae amrywiaeth o raglenni ar gael ar Gampws Llambed. Archwiliwch ein rhestr cyrsiau i weld beth sy’n tanio eich brwdfrydedd, ond dyma flas ar y meysydd pwnc rydym yn eu cynnig: 

Gwareiddiadau Hynafol (BA) 
Hanes Hynafol (BA) 
Archeoleg (BA) 
Anthropoleg ac Archaeoleg
Astudiaethau Celtaidd ac Astudiaethau Canoloesol (BA) 
Gwrthdaro, Rhyfel a Chymdeithas (BA) 
Hanes (BA) 
Celfyddydau Breiniol (BA) 
Ysgrifennu Creadigol
Athroniaeth (BA) 
Athroniaeth, Crefydd a Moeseg (BA)

Teithio i Lambed

  • Os ydych chi’n gyrru i PCYDDS, Campws Llambed, Ffordd y Coleg, Llambed, SA48 7ED

    Diwrnodau Agored

    Os ydych chi’n mynychu diwrnod agored, mae parcio am ddim ar gael ar gampws Llambed. 

    Parcio i Ymwelwyr

    Mae gan ein campysau gysylltiadau gwych o ran cludiant cyhoeddus. Gweler yr adrannau Bws, Trên a Beic uchod i gael rhagor o wybodaeth am gyrraedd ein campws trwy gludiant cyhoeddus.  

    Parthau Parcio

    Er mwyn sicrhau ateb ymarferol o ran rheoli parcio, mae’r lleoedd ar y campws wedi eu rhannu’n barthau, fel y gwelir ar Fapiau Parcio Llambed. Mae’r rhain yn cynnwys:

    Mannau dynodedig ar gyfer:
    • staff
    • deiliaid bathodyn glas (wedi eu marcio yn y meysydd parcio)
    • myfyrwyr
    Cynllunio eich Taith
  • Mae gwasanaeth bws lleol Llambed yn cynnig llwybrau rheolaidd sy’n cysylltu gwahanol rannau o’r dref, gan gynnwys ein campws.  Mae bysys yn rhedeg yn o ddau dref cyfagos Caerfyrddin ac Aberystwyth 

  • Gorsaf drenau agosaf Llambed yw Caerfyrddin ac Aberystwyth ac mae trenau’n rhedeg yn rheolaidd o ddinasoedd a threfi mawr. Gallwch gynllunio eich taith trên yn Traveline.cymru.

    O Gaerfyrddin ac Aberystwyth, gallwch ddal un o’r bysiau rheolaidd sy’n rhedeg i Lambed. Ceir manylion am y gwasanaethau bws o dan yr adran ‘Bws’ uchod.  

Grŵp o fyfyrwyr yn cerdded ar lwybr

Teithio Gwyrdd

Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.

Bydd ein tudalennau cynaliadwyedd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn PCYDDS.