Skip page header and navigation

Teithio i Birmingham

Mae ein Campws yn Birmingham mewn dau leoliad.  Mae Quay Place mewn ardal fywiog ger y gamlas yng nghanol y ddinas, a’r ail leoliad ar Stratford Road yn ardal egnïol Sparkhill.  

Rydym wedi paratoi cyfarwyddiadau ac opsiynau cludiant manwl ar gyfer yr holl ffyrdd gwahanol y gall myfyrwyr gyrraedd ein campysau. P’un ai eich bod yn teithio mewn car, trên neu fws, mae yma wybodaeth ddefnyddiol i chi i’ch tywys bob cam o’r ffordd. 

Lleoliadau Ein Campws yn Birmingham

Teithio mewn

Mae campws Birmingham mewn lleoliad cyfleus ac mae’n hawdd ei gyrraedd o’r prif ffyrdd.  Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio Cynllunydd Taith yr AA er mwyn cynllunio eich taith ymlaen llaw. 

Ar gyfer opsiynau parcio, ewch i wefan Cyngor Birmingham

Mae gwasanaeth bws i’w gael o Orsaf Drenau New Street a fydd yn eich gollwng ger y campws. Mae gwasanaeth 126 tuag at Dudley yn stopio yn safle bws y National Indoor Arena, sydd o fewn pellter cerdded braf i gampws y brifysgol. 

Mae’r ddau gampws yn Birmingham o fewn ychydig filltiroedd i Orsaf New Street sydd â chysylltiadau gwych â phob rhan o’r wlad, yr holl ffordd i Gaeredin tua’r gogledd ac i Penzance, Southampton, Caerdydd, Abertawe ac Euston Llundain tua’r de.  

Rydym yn argymell eich bod y defnyddio gwefan National Rail er mwyn cynllunio eich taith. 

Grŵp o fyfyrwyr yn cerdded ar lwybr

Teithio Gwyrdd

Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.

Bydd ein tudalennau cynaliadwyedd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn PCYDDS.

Birmingham Campus Open Day

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.