Skip page header and navigation

Ceisio am Brentisiaethau

Gyda rhaglenni Prentisiaeth PCYDDS cewch barhau i weithio tra byddwch yn astudio, gan ddatblygu eich cymhwysedd yn y gweithle yn ogystal ag ennill cymhwyster cydnabyddedig (fel HNC, HND, gradd, neu Radd Meistr). 

Mae prentisiaeth yn fater sydd wedi’i ddatganoli a bydd y cyrsiau sydd ar gael yn dibynnu ar ble rydych wedi’ch cyflogi.

Gweld y Prentisiaethau Rydyn ni’n eu Cynnig Yma

Rhai bodloni’r gofynion hyn os ydych eisiau gwneud cais:

  • Eich bod yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig.
  • Eich bod yn cael eich cyflogi mewn swydd addas o fewn y sector perthnasol.
  • Eich bod â chefnogaeth eich cyflogwr i wneud hyn.

Os ydych chi’n barod i ymgeisio, defnyddiwch y botwm Mynegi eich diddordeb. Byddwn angen eich enw, eich cod post, enw eich cyflogwr, a’r rhaglen dan sylw. Byddwn yn adolygu eich gwybodaeth ac yn danfon dolen ymgeisio i chi.

Ar ôl mynegi diddordeb, bydd aelod o’r Tîm Uned Brentisiaethau yn cysylltu â’r ymgeiswyr posibl er mwyn gwirio eu cymhwysedd ac i roi cynghori ar y ffordd orau o gael mynediad at y rhaglen o ystyried eu cymwysterau a’u profiad presennol. Yna, bydd modd darparu dolen i’r ffurflen gais. Rhaid i brentisiaid nodi eu cyflogwr presennol fel canolwr ar eu ffurflen gais.

Os nad ydych yn gymwys i ymgeisio, bydd angen i chi ganfod swydd wag berthnasol, edrychwch isod i gael rhagor o fanylion.

Swyddi i Brentisiaid

I sicrhau Gradd-brentisiaeth gyda’r Drindod Dewi Sant mae’n rhaid eich bod eisoes mewn swydd neu mae angen i chi ymgeisio am swydd gydag un o’r cyflogwyr sy’n bartneriaid gyda ni. Rhestrir swyddi gwag ar y dudalen hon cyn gynted ag y byddant ar gael, felly cofiwch ddod i edrych yn rheolaidd. 

Arbenigwr Archaeolog

Rolau amrywiol – Gwasanaeth Gwybodaeth Swydd, Sefydliad Siartredig yr Archeolegwyr (CIFA) [Saesneg]

Cyfrifiadura

Rolau amrywiol – Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), Caerdydd, Y Wyddgrug, Pencoed, Pontypool ac Abertawe

Peirianneg

Rolau amwryiol – Tata Steel, Port Talbot [Saesneg]

Gwydr Lliw

Gwarchodwr, Paentiwr a Gwydrwr Gwydr Lliw dan Hyfforddiant ar Brentisiaeth – Holy Well Glass, Wells Gwlad yr Haf.

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Amrywiol rolau 

Safleoedd y Llywodraeth i ddod o hyd i brentisiaeth 

Yng Nghymru, defnyddiwch gyfleuster Chwilio am Prentisiaeth i chwilio am ddolenni allanol.

Yn Lloegr defnyddiwch y rhestr o swyddi gwag  ar dudalen Uwch Brentisiaethau a Gradd-brentisiaethau’r ESFA, neu safle’r ESFA ar gyfer Dod o hyd i Brentisiaeth (gallwch hidlo’r canlyniadau i lefel 6 ar gyfer Gradd-brentisiaethau).