Skip page header and navigation

Astudio Dramor a Chyfnewid

Gallwch deithio, ymgolli mewn diwylliant newydd, cwrdd â ffrindiau newydd a blasu bwydydd newydd, a hynny i gyd wrth weithio tuag at eich gradd. Gyda nifer o opsiynau ar gael o gyfleoedd astudio, gwaith a gwirfoddoli, mae’r posibiliadau’n fyd-eang. 

Astudio Dramor a Chyfleoedd Cyfnewid

Students standing in front of a large yellow beach sign

Rydyn ni’n credu bod profiadau byd-eang yn rhan hanfodol o addysg gyflawn. Dyna pam rydym wedi partneru gydag ystod amrywiol o brifysgolion ar draws y byd i gynnig y cyfle i chi ehangu eich gorwelion, ymgolli mewn diwylliannau gwahanol, a chael persbectif newydd ar eich maes astudio.

P’un ai a ydych yn dyheu am fwynhau tirweddau amrywiol Gogledd America, ymgolli yn ninasoedd prysur Tsieina, neu ymchwilio i hanes cyfoethog Ewrop mae ein prifysgolion partner yn rhoi cyfle unigryw i gyfoethogi eich taith academaidd. 

Cymerwch y cam cyntaf tuag at antur fythgofiadwy trwy edrych ar ein rhestr o brifysgolion partner.

Cyfleoedd Gwaith a Gwirfoddoli

Mae cymryd rhan mewn rhaglen wirfoddoli yn rhoi cyfle i chi helpu i wneud gwahaniaeth, ennill rhywfaint o brofiad, ac archwilio gwlad arall. Mae gennym gysylltiadau â nifer o sefydliadau gwirfoddoli moesegol, cyfrifol yn ogystal â lleoliadau gwaith.

Volunteers at a fair
Byddwch yn:
  • rhan o raglen cyfnewid diwylliannol sy’n meithrin dysgu, dealltwriaeth, cydraddoldeb a pharch arbennig. 
  • gwneud cyfraniadau bach i fentrau lleol sydd eisoes yn bodoli, dan arweiniad pobl leol mewn strwythur o gydweithio. 
  • datblygu sgiliau meddal, cwrdd â phobl o’r un anian, a gwneud cyfraniad cynaliadwy, moesegol. 
  • moesegol. 

Byddwch yn gallu rhoi’r wybodaeth rydych wedi’i dysgu dramor ar waith mewn nifer o ffyrdd, a gadael y rhaglen gyda sgiliau hynod gyflogadwy fel y gallu i weithio fel rhan o dîm, i gyfathrebu’n dda, ac i weld pethau o safbwynt gwahanol gyda dealltwriaeth ddyfnach o ddiwylliant gwahanol.

  • Mae’r prosiectau gwirfoddol yn cael eu harwain yn lleol mewn partneriaeth â llywodraeth Ffiji; byddwch yn dysgu gweithio mewn partneriaeth â’r fwrdeistref leol, ac yn cael eich trochi’n llwyr yn y diwylliant mewn pentref gwledig wrth i chi fyw gyda theulu traddodiadol o Ffiji a gweithio ar brosiectau adeiladu cymunedol a lleol. Byddwch yn gallu cyfrannu at raglenni addysg, ieuenctid, datblygu chwaraeon, iechyd, hybu iechyd meddwl neu adeiladu yn ystod eich cyfnod yn gwirfoddoli.

  • Mae pedwar interniaeth ar gael i fyfyrwyr PCYDDS. Gan weithio mewn partneriaeth â Think Pacific, byddwch yn cefnogi gweinidogaethau llywodraeth Ffiji, busnesau, a/neu elusennau i weithredu Cynllun Datblygu Cenedlaethol Ffiji a Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Cewch ddealltwriaeth fyd-eang, profiad o’r sector elusennol, a chreu effaith gymdeithasol wrth i chi helpu i fynd i’r afael â materion datblygu rhyngwladol a chyflawni canlyniadau go iawn i’n partneriaid yn Ffiji. Cewch fwy o wybodaeth yma: Think Pacific

    Beth yw interniaeth rithwir? Interniaethau sy’n cael eu cwblhau ar-lein - neu o bell - o’ch cartref, yw interniaethau rhithwir.  Yr unig bethau sydd eu hangen arnoch yw cyfrifiadur, ffôn a chysylltiad rhyngrwyd.   Bydd Think Pacific yn eich cysylltu â phrosiectau bywyd go iawn sy’n cefnogi cymunedau yn ynysoedd Ffiji.

Cyfleoedd Cyllido

Grŵp o fyfyrwyr yn gwisgo hwdis pinc gyda logo PCYDDS arnyn nhw

Cyfleoedd Cyllido

Bydd pob myfyriwr PCYDDS sy’n cyflwyno Cais Go Global yn cael eu hystyried yn awtomatig ar gyfer cyllid. Bydd y Tîm Symudedd Allanol yn eich rhoi naill ai dan gyllid Taith neu Turing, yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Ni fydd angen i fyfyrwyr sy’n mynd dramor wneud cais am y cyllid hwn.  Ni fydd y cyllid hwn yn talu’r holl gostau, y bwriad yw helpu drwy ychwanegu at gynilion personol, benthyciadau, a ffynonellau ariannol eraill myfyrwyr i fynd dramor.

Deall y Jargon

  • Fe all fod yn anodd deall a defnyddio UCAS. Mae UCAS wedi dyfeisio’r rhestr jargon handi hon i alluogi darpar fyfyrwyr i ddeall diben UCAS yn llawn.

    Addasiad (‘Adjustment’) – mewn cais Israddedig UCAS, un o’r gwasanaethau y gallwch eu defnyddio i chwilio am gyrsiau amgen. Mae’r un hwn rhag ofn eich bod wedi bodloni a rhagori ar eich amodau ac fe hoffech weld a allech chi gael lle ar gwrs â gofynion mynediad uwch – a hynny gan ddal gafael ar eich lle gwreiddiol a gadarnhawyd.

    Ymgynghorydd (‘Adviser’) – rhywun sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor, a chefnogaeth i chi gyda’ch cais. Gall hyn fod yn athro, tiwtor, cwnselydd, neu asiant.

    Apply – enw ein system ymgeisio ar-lein. (Ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig, mae Apply yn cael ei gyfuno gyda Track.)

    Gradd baglor (‘Bachelor’s degree’) – cwrs tair neu bedair blynedd y gallwch ei wneud mewn addysg uwch israddedig ar ôl i chi orffen addysg bellach – gelwir hefyd yn ‘radd gyntaf’ neu’n ‘radd israddedig’. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau naill ai’n Faglor yn y Celfyddydau neu’n Faglor yn y Gwyddorau.

    Gair arbennig (‘Buzzword’) – ar gyfer ceisiadau Israddedig UCAS, bydd eich ysgol, coleg, neu ganolfan yn rhoi gair arbennig i chi fel y gallwch gysylltu eich cais iddyn nhw. Mae’n air y gallwch ei ychwanegu i’ch cais pan fyddwch yn cofrestru i wneud cais UCAS Israddedig (oni bai eich bod yn gwneud cais yn annibynnol).

    Canolfan (‘Centre’) – ysgol, coleg, neu sefydliad sy’n gallu helpu myfyrwyr i wneud cais i addysg uwch.

    Newid cynnig cwrs (‘Changed course offer’) – yn eich cais, efallai y cewch chi un o’r rhain os nad ydych chi wedi bodloni eich amodau, neu os yw’r brifysgol neu goleg wedi gwneud newidiadau i’r cyrsiau maent yn eu cynnig. Fe all olygu dyddiad dechrau neu fan mynediad gwahanol, neu gwrs gwahanol yn gyfan gwbl.

    Dewis (‘Choice’) – dewis yw cwrs rydych yn gwneud cais amdano ar eich cais – mae llawer o fyfyrwyr yn gwneud nifer o ddewisiadau i wella eu cyfle i gael lle.

    Clirio (‘Clearing’) – mewn cais UCAS Israddedig, mae Clirio yn wasanaeth arall y gallwch ei ddefnyddio i chwilio am gyrsiau amgen. Os na chawsoch le ar gwrs – p’un ai na chawsoch gynigion, gwnaethoch wrthod eich cynigion, neu na chawsoch y graddau roedd arnoch eu hangen – mae Clirio yn caniatáu i chi wneud cais am gyrsiau sy’n dal i fod â lleoedd gwag.

    Coleg – darparwr addysg bellach ac uwch. Os byddwn yn defnyddio’r term ‘prifysgol’, mae hwn yn aml yn gyfeiriad generig sy’n cynnwys colegau hefyd. Er enghraifft, pan fyddwn yn dweud ‘gwneud cais i brifysgol’, golygwn ‘gwneud cais i brifysgol neu goleg’, ond mewn ffordd fwy cryno.

    Cynnig amodol (‘Conditional offer’) – yn eich cais, cynnig o le ar gwrs yn amodol ar amodau. Er mwyn cael eich derbyn ar y cwrs, bydd angen i chi fodloni’r gofynion – sydd fel arfer yn gysylltiedig â chanlyniadau eich arholiadau. Mae hyn yn fath cyffredin o gynnig i fyfyrwyr sy’n gwneud cais yn uniongyrchol o addysg bellach.

    Cadarnhad (‘Confirmation’) – yn eich cais, canlyniad cynnig amodol rydych wedi’i dderbyn. Os ydych yn bodloni’r amodau, bydd eich lle yn cael ei wneud yn ddiamod (sy’n golygu bod gennych le ar y cwrs) – os na, bydd y cynnig yn cael ei wrthod.

    Conservatoire – darparwr cyrsiau cerdd, dawns, sgrîn, a drama seiliedig ar berfformio.

    Cwrs – mae llawer o gyrsiau gwahanol ar draws gwahanol lefelau, pynciau, a lleoliadau – o raddau sylfaen i PhD.

    Darparwyr cyrsiau a hyfforddiant (‘Course and training providers’) – prifysgol, coleg, conservatoire, ysgol ‘School Direct’, neu ddarparwr arall sy’n cynnig cyrsiau addysg uwch.

    Gohirio (‘Deferral’) – yn eich cais, dyma beth rydych yn ei wneud os hoffech gario cynnig drosodd i’w ddechrau yn y flwyddyn academaidd ganlynol.

    Gofynion mynediad (‘Entry requirements’) – dyma mae’r darparwr cwrs yn argymell sy’n rhaid i chi ei wneud/gael i gael lle ar y cwrs – o gymwysterau a phynciau neu raddau penodol, i gyfweliadau, profion derbyn, a gofynion meddygol. Does dim gwarantu y cewch gynnig os ydych eisoes yn bodloni neu’n meddu ar y rhain.

    Extra – mewn cais UCAS Israddedig, mae Extra yn wasanaeth y gallwch ei ddefnyddio i wneud cais am leoedd amgen os nad oes gennych gynnig gan eich dewisiadau cyntaf.

    Y Glas (‘Fresher’) – term ‘slang’ am fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol.

    Dewis cadarn (‘Firm Choice’) – yn eich cais, cynnig rydych yn ei dderbyn yn ddewis cyntaf.

    Myfyriwr graddedig – myfyriwr sydd wedi cwblhau a graddio o gwrs israddedig – gallant nawr wneud cais am gyrsiau ôl-raddedig os hoffent wneud hynny.

    Addysg uwch (AU) – lefel yr addysg y gallwn eich helpu i wneud cais amdani – o gyrsiau israddedig pan fyddwch wedi gorffen addysg bellach, i gyrsiau ôl-raddedig y gallwch symud ymlaen iddynt ar ôl graddio o radd israddedig.

    Dewis yswiriant (‘Insurance Choice’)  yn eich cais, cynnig rydych yn ei ddewis yn ail ddewis – rhag ofn na fyddwch yn bodloni amodau eich cynnig cadarn.

    Rhif adnabod personol (‘Personal ID’) – y rhif deg digid a gewch chi wrth gofrestru i ‘Apply’ – caiff ei ddangos yn y fformat 123-456-7890 ar bob e-bost a anfonwn atoch. Bydd gofyn i chi ddarparu hwn os byddwch yn cysylltu â’n Canolfan Profiad Cwsmeriaid.

    Datganiad personol – darn ysgrifenedig y bydd ymgeiswyr yn ei ysgrifennu i ddangos pam eu bod yn gwneud cais a pham y byddent yn fyfyriwr gwych i ddarparwr cwrs ei dderbyn.

    Graddau rhagfynegol (‘Predicted Grades’) – y graddau y mae athro, tiwtor neu ymgynghorydd arall sy’n gymwys i roi sylwadau ar addasrwydd academaidd myfyriwr yn credu y byddant yn eu cyflawni wrth gwblhau eu cymwysterau uwchradd.

    Canolwr (‘Referee’) – yn eich cais, rhywun sy’n darparu geirda ar eich cyfer.

    Cwrs rhyngosod (‘Sandwich Course’) – cwrs gyda blwyddyn ychwanegol lle byddwch yn gweithio yn y proffesiwn rydych yn astudio ar ei gyfer.

    Tariff – Tariff UCAS yw’r system ar gyfer dyrannu pwyntiau i’r gwahanol gymwysterau y gallwch eu defnyddio i gael i mewn i addysg uwch israddedig. Ni fydd pob cymhwyster yn cael ei gynnwys yn y Tariff. Dim ond er mwyn derbyn myfyrwyr y caiff ei ddefnyddio ac nid yw’n drosglwyddadwy i’r farchnad waith.

    Track – enw ein system tracio ar-lein lle gallwch weld sut mae eich cais yn symud ymlaen. Yma, gallwch ymateb i gynigion a gwneud diwygiadau, fel newid eich cyfeiriad e-bost ayb. (Ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig, caiff Apply ei gyfuno gyda Track.)

    UCAS – Y Gwasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau yn y DU. Mae hyn yn cynnwys ein prif wasanaeth ymgeisio UCAS Israddedig, yn ogystal â’r gwasanaethau eraill a redwn, h.y. UCAS Conservatoires, UCAS Hyfforddiant Athrawon (‘UCAS Teacher Training’), ac UCAS Ôl-raddedig (‘UCAS Postgraduate’). Hefyd, rydym yn helpu myfyrwyr o 13 oed ymlaen gyda UCAS Cynnydd ‘(UCAS Progress’).

    Cynnig Diamod (‘Unconditional Offer’) – yn eich cais, cynnig o le ar gwrs heb amodau – eich lle chi yw e os ydych chi ei eisiau.

    Israddedig – lefel gyntaf astudiaethau addysg uwch. Os byddwch yn graddio o radd israddedig, gallwch symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig.

    Prifysgol – darparwr addysg uwch.

    Aflwyddiannus (‘Unsuccessful’) – yn eich cais, naill ai nid oes cynnig wedi’i wneud i chi neu nid ydych wedi bodloni amodau cynnig amodol.

    Tynnu’n ôl (‘Withdrawal’) – yn eich cais, cyn i’r penderfyniad gael ei wneud i gynnig lle i chi ai beidio, gallwch chi neu’r brifysgol neu goleg dynnu dewis yn ôl.