Skip page header and navigation

Ymunwch â'r Garfan

Ydych chi’n dwlu ar chwaraeon cystadleuol? Byddwch y gorau y gallwch chi fod gydag Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wrth i chi astudio ar gyfer eich gradd a chreu’r profiad prifysgol rydych wedi breuddwydio amdano erioed. 

Ein Cyfleusterau

female student plating football

Ar y Campws

Ar hyn o bryd mae gwasanaethau’r academi chwaraeon wedi’u lleoli ar ein campysau yn ne-orllewin Cymru. Fodd bynnag, os oes myfyrwyr sy’n athletwyr perfformiad uchel a allai gynrychioli’r Brifysgol ym mhencampwriaethau BUCS, cysylltwch â’r academi. Gallai fod opsiwn i gael mynediad at raglenni hyfforddi, cyngor ar faeth a chefnogaeth ychwanegol o bell, yn dibynnu ar y gamp.

  • Cewch hyfforddiant ar lefel broffesiynol mewn camp benodol, hyfforddiant cryfder a chyflyru, ynghyd â chyngor ar faeth, deiet a ffordd o fyw. Byddwch yn hyfforddi mewn cyfleusterau campfa newydd, sydd â set gyflawn o offer sy’n arwain y diwydiant, a gallwch fwynhau cyfleoedd rheolaidd i gystadlu yng nghynghreiriau, digwyddiadau a phencampwriaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Mae ein staff profiadol a hyfforddwyr proffesiynol wrth law i’ch helpu i ffynnu a llwyddo ym myd chwaraeon. 

  • Pêl-droed Dynion a Menywod, Rygbi Dynion a Menywod, a Phêl-rwyd Menywod yw chwaraeon tîm ffocws Academi Chwaraeon PCYDDS. Hefyd rydym yn darparu ar gyfer perfformwyr unigol mewn campau megis athletau, beicio, nofio a thriathlon. 

Ydych chi’n barod i gyrraedd eich nod ym myd chwaraeon? Mae ein cyfleusterau arbenigol yn cynnwys:

Myfyrwyr yn codi pwysau

Cyfleusterau Cryfder a Chyflyru

Gôl-geidwad yn gwneud arbediad ar y cae 3G

Ardal Hyfforddi 3G

Myfyriwr ar felin draed

Stiwdio Ffitrwydd

Person yn gwisgo offer anadlu yn y cyfleusterau chwaraeon

Labordai Ffisioleg a Biomecaneg

Pwll nofio Caerfyrddin

Pwll Nofio

Ystafell Ddadansoddi yng Nghaerfyrddin

Ystafell Dadansoddi Chwaraeon

Myfyriwr ar feic yn neuadd chwaraeon Caerfyrddin

Neuadd Chwaraeon Dan Do

Myfyriwr therapi chwaraeon yn trin claf

Ystafelloedd Therapi Chwaraeon ac Adsefydlu 

Beth rydym yn ei gynnig

Mae’r Academi Chwaraeon yn darparu’r llwybr perfformiad hwn ar gyfer y chwaraeon ffocws canlynol; Rygbi - Gwryw a Benyw, Pêl-droed - Gwryw a Benyw, Pêl-rwyd - Benyw a Chwaraeon Unigol - Gwryw a Benyw. 

Myfyriwr ar felin draed
Male student playing football

Mae holl fyfyrwyr yr Academi sydd ar y llwybrau hyn yn cael mynediad at; Hyfforddiant, Cryfder a chyflyru, Cyngor maeth a diet, Gwyddor chwaraeon, Therapi chwaraeon, Dadansoddi Perfformiad a Rheoli ffordd o fyw. 

Rydym yn cefnogi ac yn gweithio gyda’r clybiau Chwaraeon Undeb Myfyrwyr canlynol; Clwb Rygbi PCYDDS, Clwb Pêl-droed PCYDDS, Clwb Pêl-rwyd PCYDDS a Clwb Chwaraeon Unigolion PCYDDS.

Y clybiau hyn sy’n cystadlu yng nghynghreiriau, cwpanau, digwyddiadau a phencampwriaethau BUCS. Fel arfer, bydd myfyrwyr sy’n rhan o’r clybiau hyn yn cael 2/3 sesiwn chwaraeon, dwy sesiwn cryfder a chyflyru, ac un sesiwn ddadansoddi bob wythnos, a hynny ar wahân i’w hastudiaethau, eu dyletswyddau i’w clwb, a’u cyfleoedd cymdeithasol.

Female students playing netball