Skip page header and navigation

Introduction

Mae’r brif stiwdio yn fawr â desgiau a mannau unigol ar gyfer pob pedair blynedd. Mae’r gweithdy yn hwyluso ystod eang o offer i chi feistroli: peiriant traddodiadol ac offer llaw.

Mae ein Gweithdai Arbenigol yn cynnwys:

Offer llaw traddodiadol, cyfleusterau ‘layup’ a chwistrellu gwydrffibr, castio resin a phlastr, sgwrio â thywod, ysgythru ag asid, prosesu gwydr oer, ffurfio gwydr cynnes, enamlo ac offer electroplatio, torri, cafnu, melino, turnio, a thermoffurfio, canolfan cafnu CNC ac argraffu 3D.

Mae gan ein Stiwdio Ddigidol weithfannau Wacom Cintiq sy’n rhedeg y fersiynau diweddaraf o feddalwedd dylunio a delweddu 3D o safon diwydiant: Autodesk Fusion 360, SketchBook Pro, Solidworks ac Adobe Creative Suite.  Gallwch  hefyd gael mynediad at gyfarpar torri â laser, cerameg, sgrin-brintio a ffotograffiaeth yn ein Canolfan Dinefwr ar gyfer Celf, Dylunio a’r Cyfryngau sydd ond dwy funud ar droed o adeilad ALEX.

Oriel

Mynediad a rennir

Trefnir mynediad i ardaloedd eraill y Gyfadran trwy weithdai, fodd bynnag, mae gan Goleg Celf Abertawe bolisi o ganiatáu mynediad a rennir i’n holl gyfleusterau.