Skip page header and navigation

Coleg Celf Abertawe

student holding a screen press

Profiad Ysgol Gelf mewn Prifysgol Gyfoes

Nid oes addysg brifysgol arall yn debyg i addysg coleg celf. Mae’n unigryw yn y ffordd y mae’n meithrin, cyfarwyddo ac annog unigoliaeth, creadigrwydd ac arloesi.

Mae gan y DU ystod gyfoethog ac amrywiol o golegau celf sydd â threftadaeth arbennig o gynhyrchu artistiaid, dylunwyr, animeiddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau a pherfformwyr a gydnabyddir ar draws y byd. Yn goleg celf hynaf a mwyaf sefydledig Cymru, mae Coleg Celf Abertawe yn rhan uchel ei pharch o’r traddodiad hwnnw.

Beth gallaf astudio?

Mae gan ein holl gyrsiau athroniaeth gyffredin; galluogi unigoliaeth, rhyddid creadigol a hyblygrwydd academaidd, ac rydym yn credu bod y rhain i gyd yn hanfodol wrth ddod o hyd i’ch llais eich hun o fewn eich dewis faes creadigol.

Prosiect celf mewn cromen wydr

I Ôl-raddedigion

Mae ein Portffolio MA Deialogau Cyfoes yn creu llwyfan dysgu unigryw a ddefnyddir i annog myfyrwyr i ehangu eu profiad creadigol trwy arbrofi, cydweithio a disgwrs ryngddisgyblaethol.

Coleg Celf Abertawe Sioeau Graddio Haf 2024

Coleg Celf Abertawe Sioeau Graddio Haf

Statistics

Mwy o opsiynau

Myfyriwr yn gweithio ar brosiect gwydr

I Brentisiaid

Cydnabyddir Coleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant yn un o ganolfannau rhagoriaeth y DU mewn gwydr lliw. Mae gan yr adran dreftadaeth gyfoethog mewn addysg gwydr lliw ac mae ganddi archif gwefreiddiol o ddyluniadau’n rhychwantu 80 mlynedd, sy’n darparu adnodd addysgu amhrisiadwy.

Image of UWTSD Alex building with a glass entrance with ALEX in white letters at dusk

Dosbarthiadau Nos i Chi

Mae’r rhaglen Celf Liw Nos yn cael ei chynnal drwy’r flwyddyn ac mae’n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau creadigol, gan gynnwys serameg, ffotograffiaeth, a darlunio. 

Myfyriwr Darlunio yn tynnu llun mewn stiwdio

Ysgol Gelf Dydd Sadwrn

Gyda’r nod o ysbrydoli a datblygu artistiaid ifanc rhwng 16-18 oed, mae’r cwrs 10 wythnos hwn yn darparu profiad Ysgol Gelf cyffrous, creadigol, ac yn caniatáu i chi archwilio gwahanol ddisgyblaethau Celf a Dylunio i ymestyn eich portffolio Celf.

Cadair freichiau ar mesanîn o flaen panel gwydr wedi'i addurno â llinellau crychlyd gwyn.

Y Ganolfan Gwydr Pensaernïol (CGP)

Y Ganolfan Gwydr Pensaernïol (CGP) yw cainc fasnachol yr adran enwog yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe.

Newyddion a Digwyddiadau

Ymunwch â ni yn Sioeau Graddio Haf Coleg Celf Abertawe, PCYDDS 2024!

Coleg Celf Abertawe Sioeau Graddio Haf 2024

Mae’r rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio a’r rhaglen MA Celf a Dylunio yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS wedi bod yn archwilio cyfnod newydd o addysg y semester hwn drwy integreiddio technolegau trochi i’r profiad addysgu a dysgu.

Students enjoying the immersive room

Mae Arddangosfa hardd o weithiau celf Plant a gynhyrchwyd gan ddisgyblion ysgolion cynradd lleol sy’n gweithio gyda Choleg Celf Abertawe YDDS i’w gweld yn gyhoeddus yn Eglwys y Santes Fair yng Nghanol Dinas Abertawe tan ddydd Gwener, Ebrill 12.

Multi coloured collages hanging in the church

Bu myfyrwyr o’r rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Celf Abertawe YDDS yn falch o arddangos eu gwaith celf yn Oriel uchel ei pharch West Wharf yng Nghaerdydd y semester hwn. Mae'r arddangosfa'n canolbwyntio ar Fenywod Creadigol, ac yn cynnwys gweithiau dau o'n myfyrwyr dawnus, Mengyue Zhu a Haowei Zhang.

A colourful example of work by one of the Professional Doctorate in Art and Design students.

Mae un gyn-fyfyrwraig ddawnus o Goleg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant, Marie Wilkinson, yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn ei gyrfa wrth i'w chynlluniau ymddangos am y tro cyntaf yn siopau Tesco ledled y wlad.

Girl smiling holding up two cushions

Cynhaliwyd diwrnod o ddathlu Cymreictod yn ddiweddar yng Ngholeg Celf Abertawe sy’n rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyda darlith flynyddol a seremoni wobrwyo arbennig.

A group shot of winners and participants at the St Davids Day Awards and Lecture

Cafodd myfyrwyr BA Darlunio PCYDDS gyfle amhrisiadwy i fynychu cyflwyniad gan y darlunydd a’r awdur Karl James Mountford. Astudiodd Karl yng Ngholeg Celf Abertawe rhwng 2008 a 2013 gan gwblhau ei BA a Meistr mewn Darlunio. Ym mlwyddyn olaf ei MA bu hefyd yn artist preswyl ar gyfer y cwrs Darlunio.

Students in a classroom listening to Karl James Mountford.

Mae’n bleser gan Goleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyhoeddi’r arddangosfa sydd i ddod, “Gweddill 2024,” sy’n cynnwys gweithiau celf a grëwyd gan fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y rhaglenni Doethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio ac MA Celf a Dylunio. Bydd yr arddangosfa fywiog hon yn cael ei chynnal yn y Theatr Volcano enwog, yng nghanol Stryd Fawr Abertawe, rhwng Awst 13eg ac Awst 26ain.

A student standing in front of the exhibition
Colourful fabric samples attached to a noticeboard along with concept art; a pot of brushes, scissors and glue are visible at one corner of the board.

Sioeau Graddio Haf Coleg Celf Abertawe