Skip page header and navigation

Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu

Llyfrgell Caerfyrddin

Mae’r Llyfrgell wedi’i lleoli gyferbyn â Bloc Parry ac Undeb y Myfyrwyr ar Gampws Caerfyrddin, ac mae modd ei chyrraedd o’r Cwad ac adeilad Carwyn James hefyd.  Cafodd ei hadnewyddu’n ddiweddar er mwyn darparu amgylchedd dysgu mwy deniadol a modern i fyfyrwyr a staff ar y campws.​

Myfyrwyr yn gweithio ar liniaduron yn y llyfrgell

Cyfleusterau Llyfrgell Caerfyrddin

Mae gan Lyfrgell Caerfyrddin ystod o fannau dysgu hyblyg ar gyfer ein holl fyfyrwyr. Mae enghreifftiau o’r mathau o ofod astudio sydd ar gael yn Llyfrgell Caerfyrddin a ble y gellir dod o hyd iddyn nhw, isod. 

  • P’un ai eich bod yn chwilio am lyfr ar bwnc penodol, neu ryw fan penodol yn y llyfrgell (h.y. ystafell astudio neu ble i ddod o hyd i argraffwyr).

    Mae Stackmap ar gyfer Llyfrgell Caerfyrddin isod

    • Mae modd cyrraedd y brif fynedfa drwy ddefnyddio ramp.
    • Mynediad drwy lifft i’r llawr cyntaf. 
    • Mae ein casgliad o lyfrau wedi’i leoli ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf.
    • Mae ein casgliad o gyfnodolion wedi’i leoli ar y llawr gwaelod. 
    • Mae desg ymholiadau’r llyfrgell a’r peiriant hunanwasanaeth wedi’u lleoli ar y llawr gwaelod.
    • Mae blwch ar gyfer dychwelyd llyfrau wedi’i leoli y tu allan i’r fynedfa i gyntedd y llyfrgell. 
    • Mae gofod arddangos yng nghyntedd y llyfrgell ar gyfer dangos gwaith myfyrwyr, arddangoswyr allanol, ac eitemau o’n casgliadau arbennig a’n harchifau.
    Ymwelwyr: Mynediad i adnoddau ar-lein trwy alw i mewn 
    • Gall staff a myfyrwyr o brifysgolion eraill neu aelodau o’r cyhoedd ddefnyddio detholiad cyfyngedig o’n hadnoddau ar-lein. 

  • Mae teithiau o gwmpas ein llyfrgell yng Nghaerfyrddin ar gael trwy gydol y flwyddyn i ddefnyddwyr unigol a grwpiau o hyd at 15. Mae rhagor o wybodaeth am deithiau a sut i archebu lle ar gael isod.

    • Dylid archebu lle ar daith o leiaf dri diwrnod ymlaen llaw gan ddefnyddio’r ffurflen archebu lle ar deithiau llyfrgell.
    • Dim mwy na 15 o fyfyrwyr fesul taith.
    • Bydd pob taith yn cymryd tua 30 munud.
    • Mae teithiau llyfrgell yn ymdrin ag agweddau hanfodol o ddefnyddio’r llyfrgell, a benthyca eitemau corfforol.