Skip page header and navigation

Ymgollwch ym mwrlwm Birmingham, Dinas sy'n Enwog am ei Phobl, ei Bwyd a’i Gwyliau Diwylliannol

Crwydrwch trwy’r Ddinas

Ewch i amgueddfa wyddoniaeth arobryn Birmingham, Thinktank, gloddestwch ar siocled yn Cadbury World, neu dysgwch am fywyd o dan y don yn y National Sea Life Centre.   

Un ffordd wych o ddysgu am hanes a phensaernïaeth Birmingham yw ymuno ag un o’r teithiau cerdded o amgylch atyniadau enwog y ddinas.  

Sbwyliwch eich Hun

Pobl yn eistedd ac yn ymlacio ar risiau wedi'u gorchuddio â phorfa

Sbwyliwch eich Hun

Mae yna ganolfannau siopa eiconig yn Birmingham, gan gynnwys The Bullring, Grand Central a House of Fraser, ac mae perlau cudd a bargeinion gwych i’w cael ym marchnadoedd y Bullring ac ar strydoedd ar hyd a lled y ddinas.   

Ac os oes well gennych chi grŵfio na gwario – mae gyda’r nosau’n fywiog a byrlymus, gyda digonedd o fariau a chlybiau yn chwarae pob math o gerddoriaeth. Mae Broad Street yn lle poblogaidd gan fyfyrwyr ac mae wedi’i leoli yng nghanol y ddinas.

Beth am Gael Eich Diddanu

Beth am Gael Eich Diddanu

Mae digonedd o ddewis yn Birmingham – beth am sioe gomedi yn y Glee Club, sioe yn Theatr yr Hippodrome, neu wylio ffilm brin yn yr Electric Cinema? Os ydych eisiau rhywbeth ychydig mwy modern, rhowch gynnig ar gemau realiti rhithwir ym mhodiau trochi Otherworld VR Birmingham.  

Mae llwyth o leoliadau ar gyfer cerddoriaeth fyw a chyngherddau hefyd, fel yr Academi 02, Symphony Hall, a’r Hockley Social Club yn ogystal  â llawer o nosweithiau meic agored. Un arall o ganolfannau creadigol y ddinas yw’r Custard Factory, lle cynhelir gwyliau, gigs a nosweithiau barddoniaeth.

Llyfrgell Birmingham

Llyfrgell Birmingham yw’r ail-fwyaf yn Ewrop, a’r mwyaf yn y DU. Agorodd yn 2013 a chostiodd dros £180 miliwn i’w hadeiladu.  

Mae’r llyfrgell yn cynnwys Ystafell Goffa Shakespeare ac mae’n leoliad poblogaidd ar deithiau cerdded o gwmpas Birmingham. Gallwch gerdded i’r llyfrgell o Quay Place mewn 10 munud, ac mae cyfleusterau gwych i fyfyrwyr yno.   

Cadwch yn Heini

Golygfa o gamlas Birmingham

Cadwch yn Heini

Mae Birmingham wedi cynnal Gemau’r Gymanwlad, Pencampwriaethau Athletau Dan Do y Byd, a chystadleuaeth Cwpan Ryder. Mae yma ddigonedd o ddigwyddiadau chwaraeon i’w gwylio a’u chwarae, gan gynnwys criced, pêl-droed, pêl-fasged, a thenis.  

Gallwch ymlacio a hamddena yn un o’r parciau lleol niferus, gan gynnwys y Gerddi Botanegol, Lickey Hills a Chronfa Ddŵr Edgbaston. 

Bywyd ar y Campws

Bywyd ar y Campws

Mae awyrgylch bywiog a chefnogol ein campysau yn Birmingham yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ffynnu. Mae ein campws yn Quay Place o fewn taith gerdded fer i ganol y ddinas, ac mewn ardal sy’n llawn caffis a bwytai wrth ymyl camlas hardd.  

Mae ein campws yn Sparkhill yn lle i fwynhau amrywiaeth a chyfoeth diwylliannol, ac mae’n edrych draw dros barcdir gwyrdd Sparkhill; lle braf i ymlacio ac adfywio.

Book an open day

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.