Skip page header and navigation

Llety ar Gampws Caerfyrddin

O ran llety yng Nghaerfyrddin, mae gennym nifer o opsiynau ar gael. Mae ein llety cyfforddus wedi’i leoli ar y prif gampws, o fewn neuadd breswyl sy’n eiddo i’r brifysgol. Drwy ddewis aros gyda ni, byddwch ond tafliad carreg o’ch ardaloedd astudio a phopeth sydd gan ein campws bywiog yng Nghaerfyrddin ei gynnig.

"Diolch yn fawr i chi am yr holl gefnogaeth a’ch cymorth wrth helpu ein mab Lewis i setlo yn y Neuaddau dros y tair blynedd diwethaf gan gynnwys yn ystod Covid-19. Rydym yn hynod ddiolchgar am eich holl gefnogaeth a’ch cymorth anhygoel.”
Cyn-fyfyriwr

Watch our Carmarthen Student Living video

Main body

external image outside Carmarthen campus accommodation by entrance

Gwarant o Lety ar gyfer Myfyrwyr y Flwyddyn 1af

Nodwch PCYDDS fel eich dewis cadarn, ac fe wnawn ni warantu llety i chi ar gyfer eich blwyddyn gyntaf. Mae preswylfeydd ein Prifysgol yn cynnig ymdeimlad o gymuned i chi sy’n creu’r cartref oddi cartref perffaith. Mae Campws Llambed yn cynnwys 156 o ystafelloedd en-suite hunanarlwyo sengl ac 84 o ystafelloedd sengl sydd â chyfleusterau a rennir.

Beth sydd gan y Llety yng Nghaerfyrddin i’w gynnig

01
Dewis o lety hunanarlwyo en-suite.
02
Mae biliau cyfleustodau a WI-FI wedi’u cynnwys.
03
Gwarant o lety ar gyfer myfyrwyr sy’n nodi PCYDDS fel eu dewis cadarn.
04
Diogelwch 24 awr.
05
Gall myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ofyn am gael eu lleoli mewn fflat/ardal gyda siaradwyr Cymraeg eraill.
06
Amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon, hamdden ac arlwyo ar y safle.

Accordions

  • Math Newydd, En-suite – 64 Ystafell

    En-suite, Sengl – 216 Ystafell

    Two students chatting in student accommodation

    Contract llawn 37 wythnos (21 Medi 2024 i 7 Mehefin 2025)

    Ffioedd

    • £5,146.40 y flwyddyn
    • £139.10 yr wythnos

    Ffioedd Fesul Tymor

    • Tymor 1: £2,086.50
    • Tymor 2: £2,225.60
    • Tymor 3: £834.60

    Taliad blynyddol llawn wedi’i wneud erbyn 30 Hydref 2024 - £5,050.50
     

    Accommodation image student sitting on bed

    Contract llawn 37 wythnos (21 Medi 2024 i 7 Mehefin 2025)

    Ffioedd

    • £3,959.00 y flwyddyn
    • £107 yr wythnos

    Ffioedd Fesul Tymor

    • Tymor 1: £1,605
    • Tymor 2: £1,712
    • Tymor 3: £642

    Taliad blynyddol llawn wedi’i wneud erbyn 30 Hydref 2024 - £3,885.00
     

  • Bydd ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 yn agor ym mis Mawrth. Rydym yn parhau i ddarparu contractau hyblyg, os hoffech gael mwy o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â’r tîm llety.


    Fel myfyriwr blwyddyn gyntaf byddwch yn cael cynnig lle yn y llety hunanarlwyo yn neuadd Archesgob Noakes. Mae pob fflat yn cynnwys 8 ystafell sengl ynghyd â chegin a lolfa sy’n cael eu rhannu.

    • 37 wythnos yw cyfnod y drwydded ac mae’n rhedeg o 21 Medi 2024 i 7 Mehefin 2025 
    • Ni fydd angen i chi adael yr ystafelloedd yn ystod gwyliau’r Nadolig a’r Pasg.

    Dewis o ystafelloedd:

    • Bydd dewis o ystafelloedd, sef ein hystafelloedd presennol gyda gwelyau maint sengl neu’r ystafelloedd sengl en-suite steil newydd gyda gwelyau pedair troedfedd.
    • Gall myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ofyn am gael eu lleoli mewn fflat gyda siaradwyr Cymraeg eraill.

    Gallwch wneud cais am lety ar yr amod bod gennych gynnig ‘Amodol’ neu ‘Ddiamod’ gan y Brifysgol. Os mai PCYDDS yw eich ail ddewis, ni ddylid gwneud cais tan ar ôl canlyniadau’r arholiadau ym mis Awst.

  • Gall myfyrwyr sy’n dychwelyd wneud cais am lety, gyda cheisiadau’n agor ym mis Mawrth. Cysylltwch â’r tîm llety am ragor o wybodaeth.   

  • Gallwn ddarparu llety en-suite i fyfyrwyr ôl-raddedig ar y campws. Cysylltwch â’r adran llety i drafod eich gofynion.

     

  • P’un ai eich bod yn byw yn agos at y Brifysgol neu’n dod o ymhellach i ffwrdd, mae neuaddau preswyl y Brifysgol yn opsiwn i chi.  

    Mae ystafelloedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin i fyfyrwyr sy’n chwilio am lety am flwyddyn academaidd lawn.   

    Bydd cyflyrau meddygol sy’n cael eu datgelu i’r Adran Llety yn cael eu hystyried. Bydd unrhyw ofynion eraill yn cael eu hystyried ar ôl i’r broses ddyrannu gychwynnol gael ei chwblhau. 

    Byddwch yn gallu gwneud cais am lety ar yr amod bod gennych gynnig Amodol neu Ddiamod gan y Brifysgol. Os mai PCYDDS yw eich ail ddewis, arhoswch tan ar ôl canlyniadau’r arholiadau ym mis Awst cyn gwneud cais.  

    Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r uchod, cysylltwch â’r tîm llety.

  • Rhaid i fyfyrwyr sy’n derbyn cynnig o lety yn Neuaddau Preswyl y Brifysgol gadw at y telerau a’r amodau. 

    Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y Rheoliadau ar gyfer Myfyrwyr mewn Neuaddau Preswyl at y Rheolwr Llety

    Cwynion 

    • Os yw’r Preswylydd yn anhapus â phenderfyniad a wnaed gan y Brifysgol neu â’r camau a gymerwyd gan y Brifysgol mewn perthynas â’r Cytundeb a/neu os yw’r Preswylydd o’r farn bod y Brifysgol wedi torri ei rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn, dylai unrhyw gŵyn gael ei chyfeirio, yn y lle cyntaf, at yr Adran Llety i ymchwilio iddi. 
    • Os na fydd eich cwyn wedi ei datrys o hyd, mae’n bosibl rhoi gwybod am hyn trwy’r Gweithdrefnau ar gyfer Apeliadau Academaidd, Cwynion ac Achosion Eraill Myfyrwyr a geir yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd, lle bydd angen i chi lenwi’r Ffurflen GA5 ar gyfer Cwyn Ffurfiol
    • Rhaid derbyn cwynion ffurfiol ddim mwy na mis ar ôl i’r weithdrefn anffurfiol ddod i ben (lle bo’n briodol) a dim mwy na 6 mis ar ôl i’r prif fater sy’n sail i’r gwyn ddigwydd. Ystyrir bod cwynion ffurfiol sy’n dod i law ar ôl y terfynau amser hyn yn rhy hwyr. Efallai na fyddant yn cael eu hystyried oni bai bod tystiolaeth annibynnol i ddangos rhesymau cryf dros pam na chodwyd y gŵyn ffurfiol yn brydlon.  
  • Gellir gwneud trefniadau lle bo modd i ddarparu ar gyfer Myfyrwyr Anabl. Os oes gennych chi ofynion arbennig, trafodwch y rhain gydag un o Gynghorwyr Anabledd y Brifysgol. Byddan nhw’n gallu trafod unrhyw ofynion sydd gennych o ran cymorth, a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalennau Cymorth Dysgu.  

Myfyrwyr Caerfyrddin yn gwenu gyda phâr o gadeiriau plygu wedi'i brandio.

Cysylltu â'r Tîm Llety

Mae ein tîm llety yma i’ch helpu chi i wneud y dewis cywir er mwyn helpu i greu’r profiad prifysgol rydych chi’n ei ddymuno.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau am lety boed yn ymwneud â hygyrchedd, opsiynau llety neu gwestiynau penodol am eich sefyllfa mae ein tîm llety wrth law i helpu.

The Student Accommodation Code

Universities UK - Cod Ymarfer

Lluniwyd y Cod Ymarfer Llety fel datganiad o arfer da sy’n gallu newid a chael ei fireinio yn sgil profiad ac sy’n annog rheoli llety’n well.  Mae’r cod yn sicrhau bod preswylwyr yn elwa ar bolisïau a gweithdrefnau clir sy’n ymwneud â’r canlynol: 

  • Iechyd a Diogelwch 
  • Cynnal a Chadw ac Atgyweirio 
  • Lles Myfyrwyr 
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion disgyblu 
  • Ansawdd amgylcheddol