Skip page header and navigation
Date(s)
-

Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod Agored Caerfyrddin!

Eisiau dysgu mwy am eich opsiynau addysg uwch? Peidiwch â cholli’r cyfle gwych hwn i ddarganfod beth sydd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i’w gynnig.

Yn y digwyddiad hwn, cewch gyfle i:

  • Gwrdd â’n staff cyfeillgar a’n darlithwyr profiadol
  • Mynd ar daith o amgylch ein cyfleusterau blaengar
  • Dysgu am ein hystod eang o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig
  • Dysgu am y gwasanaethau myfyrwyr cefnogol
  • Cwrdd â’n cymuned fywiog o fyfyrwyr a dysgu am weithgareddau allgyrsiol

P’un ai eich bod ar fin gadael yr ysgol, yn fyfyriwr aeddfed, neu eisiau gwella eich rhagolygon gyrfa, dyma gyfle perffaith i gael blas ar fywyd prifysgol ac i ganfod y llwybr iawn i chi.

Peidiwch â cholli’r cyfle cyffrous hwn! Ymunwch â ni ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin a gadewch i ni eich rhoi ar y llwybr tuag at ddyfodol llwyddiannus.

Gweld beth sydd gan Gaerfyrddin i'w gynnig.

students walking through carmarthen town

Pynciau sydd ar gael

  • Actio 
  • Busnes a Rheolaeth
  • Ffilm, Cyfryngau ac Animeiddio
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth
  • Cymdeithaseg
  • Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored
  • Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar 
  • Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar 
  • Astudiaethau Addysg 
  • Astudiaethau Addysg: Anghenion
  • Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant 
  • Astudiaethau Addysg: Cynradd 
  • Addysg Gynradd gyda SAC 
  • Dylunio a Chynhyrchu Setiau
  • Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol 

Lleoliad

Carmarthen Campus
College Road
Carmarthen
SA31 3EP
Y Deyrnas Unedig

Rhannwch y digwyddiad hwn