Skip page header and navigation
Date(s)
-

Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod Ymgeiswyr a Diwrnod Agored Coleg Celf Abertawe

Dysgwch fwy am ein hamrywiaeth eang o gyrsiau gradd a chyrsiau uwchraddedig mewn Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth.

  • Ewch ar daith o gwmpas ein stiwdios a’n gweithdai pwrpasol.
  • Dewch i gwrdd â’n darlithwyr ac i sgwrsio â’n myfyrwyr.
  • Dysgwch pam ein bod wedi gwneud cystal yn nhabl cynghrair y Guardian 2024.

Beth mae ein Diwrnod Agored yn ei gynnig

Os dewch i un o Ddiwrnodau Agored PCYDDS, cewch gyfle i ddod i’n hadnabod ni, i weld a yw’r brifysgol yn gweddu i chi, ac i grwydro’r ddinas a allai ddod yn gartref i chi. Ar ddiwrnod agored, cewch gwrdd â’r darlithwyr a fydd yn eich addysgu yn ogystal â chael cyfle i weld y cyfleusterau a’r mannau dysgu sy’n allweddol i’ch cwrs chi.

Dysgwch fwy am ble byddwch chi’n aros trwy siarad â’n timau llety, a thrafodwch pa ddewisiadau llety sydd ar gael i chi. Cewch sgwrsio gyda’r rhai sy’n astudio â ni ar hyn o bryd a chlywed ble sydd orau i gymdeithasu ac i fwynhau yn Abertawe.

Ac yn bwysicaf oll, cewch atebion i’r cwestiynau sydd o bwys i chi.

Gweld beth sydd gan Abertawe i'w gynnig.

Image of UWTSD Alex building with a glass entrance with ALEX in white letters at dusk

Rhaglenni Israddedig

  • Celf a Dylunio, Sylfaen (CertHe)
  • Celf Gain (BA)
  • Crefftau Dylunio: Gwydr, Cerameg a Gemwaith (BA)
  • Darlunio (BA)
  • Dylunio Cynnyrch a Dodrefn (BA/BSc)
  • Dylunio Graffig (BA)
  • Dylunio Patrymau Arwyneb (BA)
  • Ffilm a Theledu (BA)
  • Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol (BA)
  • Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau (BA)
  • Technoleg Cerddoriaeth Greadigol (BA)
Myfyrwyr ar y cwrs Patrymau Arwyneb yn gweithio mewn stiwdio

Rhaglenni Ôl-raddedig

  • Celf a Dylunio (MA)
  • Dylunio - Deialogau Cyfoes (MA)
  • Crefftau Dylunio - Deialogau Cyfoes (MA)
  • Celf Gain - Deialogau Cyfoes (MA)
  • Gwydr - Deialogau Cyfoes (MA)
  • Dylunio Graffig - Deialogau Cyfoes (MA)
  • Darlunio - Deialogau Cyfoes (MA)
  • Ffotograffiaeth - Deialogau Cyfoes (MA)
  • Tecstilau - Deialogau Cyfoes (MA)
  • Cyfathrebu Gweledol - Deialogau Cyfoes (MA)
  • PhD, MPhil, ProfDoc

Lleoliad

UWTSD Swansea College of Art
Alex Building
Swansea
SA1 5DU
Y Deyrnas Unedig

Rhannwch y digwyddiad hwn