Event type(s):
Diwrnod Agored SA1 Abertawe
Location and/or online participation URL:
UWTSD Swansea, Swansea
Date(s)
-
Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod Agored SA1 Abertawe
Dyma gyfle anffurfiol perffaith i ddysgu mwy am eich pwnc dewisol yn ogystal â chasglu ychydig nwyddau am ddim i’ch paratoi ar gyfer eich blwyddyn gyntaf. Ydych chi’n barod i ddechrau eich pennod nesaf?
- Cewch gwrdd â’r staff academaidd er mwyn trafod opsiynau cyrsiau a gofynion mynediad ac i ddysgu beth i’w ddisgwyl gan y cwrs.
- Siaradwch â’n Swyddogion Cyllid er mwyn dysgu am gostau addysg uwch a’r cymorth ariannol sydd ar gael. Gallwch drafod eich sefyllfa bersonol chi hefyd.
- Dewch i gwrdd â’n tîm cymorth dysgu er mwyn trafod unrhyw gymorth dysgu arbennig y gallech eu hangen. Ewch ar daith o amgylch ein campws, ei gyfleusterau gwych a gweld y llety.
- Cewch gwrdd â myfyrwyr a sgwrsio am eu profiadau o fywyd yn y Brifysgol.
Gweld beth sydd gan Abertawe i'w gynnig.
Pynciau sydd ar gael
- Addysgu, Addysg, a Gwaith Ieuenctid
- Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar
- Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
- Amgylchedd, Ynni a Chynaliadwyedd
- Astudiaethau Addysg/Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Busnes a Rheolaeth
- Cyfrifeg a Chyllid
- Cyfrifiadureg
- Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth
- Ffilm, Cyfryngau ac Animeiddio
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth
- Pensaernïaeth
- Peirianneg Chwaraeon Moduro a Beiciau Modur
- Peirianneg Fodurol, Fecanyddol a Thrydanol
- Peirianneg Sifil
- Rheolaeth Chwaraeon
- Seicoleg a Chwnsela
- Y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona
Lleoliad
UWTSD Swansea
Waterfront Campus
Island Road
Swansea
SA1 8EW
Y Deyrnas Unedig