Skip page header and navigation

Manteision Cyn-fyfyrwyr

Rydym yma i’ch cefnogi a darparu gwasanaeth ar eich cyfer ymhell ar ôl i chi raddio. Beth am fanteisio ar y buddion niferus sydd ar gael i chi fel cyn-fyfyrwyr. 

Rydym yn parhau i weithio ar y cynigion hyn felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru ar gyfer ein e-gylchlythyrau i dderbyn ein gwybodaeth ddiweddaraf 

Manteision Cyn-fyfyrwyr

Ydych yn ystyried Gradd Meistr? Os byddwch yn penderfynu cychwyn ar un o’n cyrsiau ôl-raddedig llawn amser neu ran-amser o fewn dwy flynedd i gwblhau eich gradd israddedig, byddwch yn elwa’n awtomatig o ostyngiad ffioedd o hyd at £2,500 drwy Fwrsariaeth Dilyniant Ôl-raddedig a Addysgir gan Y Drindod Dewi Sant. 

Darganfyddwch fwy ar dudalen Bwrsariaethau Ôl-raddedig.

Gweler rhestr lawn o’n Cyrsiau Ôl-raddedig a Tar


Pwy sy’n gymwys?

Cyn-fyfyrwyr o’r DU/UE sydd wedi graddio o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf 

P’un a ydych yn chwilio am waith ar ôl graddio, yn meddwl am newid gyrfa, neu’n edrych ar astudiaethau pellach, byddwch yn cael eich cefnogi mewn sawl ffordd hyd yn oed ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau.  

Gall cefnogaeth un-i-un gan ein Cynghorwyr Gyrfaoedd eich helpu i greu syniadau ynghylch eich nodau gyrfa neu opsiynau astudio pellach. Gallant roi cyngor i chi ar sgiliau ysgrifennu CV a chyfweld, a gallant hyd yn oed eich cefnogi i ddod o hyd i brofiad gwaith. Hefyd, os ydych wedi cofrestru ar gyfer ein e-gylchlythyrau, cewch eich gwahodd i ffeiriau gyrfaoedd a drefnir ar y campws lle gallwch rwydweithio a chwilio am gyfleoedd drwy ystod o gyflogwyr.  

Gallwch hefyd barhau i ddefnyddio’r platfform MyCareer sy’n rhoi mynediad i chi at fwrdd swyddi, cynllunydd gyrfa, gwiriwr CV awtomataidd, profiad ffug gyfweliad rhithwir, a mwy. Yn syml, newidiwch i gyfrif cyn-fyfyrwyr ar ôl i chi raddio. 

Darganfyddwch fwy am ein Cymorth Gyrfaoedd.

Trefnwch apwyntiad gyda’r tîm gyrfaoedd.


Pwy sy’n gymwys?

Pob cyn-fyfyriwr hyd at dair blynedd ar ôl graddio  

Os ydych chi’n berchennog busnes neu’n weithiwr llawrydd, neu hyd yn oed â syniad rydych chi am ei ddatblygu, fel cyn-fyfyrwyr, gallwch gael mynediad at bob math o gefnogaeth i’ch helpu chi i dyfu eich busnes presennol neu ddatblygu eich syniadau newydd.  

O gyngor ac arweiniad un-i-un, cyrsiau a gweithdai, a hyd yn oed gymorth ariannol, gall ein tîm menter eich helpu gyda’ch mentrau busnes, waeth pa mor bell yn ôl y gwnaethoch raddio. 

Os ydych chi’n ystyried dechrau neu wedi dechrau busnes newydd yn y DU o fewn y flwyddyn ddiwethaf, gallech fod yn gymwys am ein Grant Dechrau Busnes Entrepreneuriaeth a all helpu’ch cwmni i dyfu a ffynnu.

Cysylltwch â’r Tîm Menter.


Pwy sy’n gymwys?

Pob cyn-fyfyriwr ni waeth beth yw eich blwyddyn raddio ac ni waeth pa sefydliad rhagflaenol a adawsoch.

Fel cyn-fyfyrwyr, cewch fynediad parhaus i’n Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu.

Gallwch barhau i ddefnyddio mannau llyfrgell ar gyfer astudio, cael mynediad at lyfrau (at ddibenion cyfeirio yn unig), yn ogystal â chwilio catalog y llyfrgell i ddarganfod adnoddau a gedwir ar draws ein llyfrgelloedd.   

Os ydych chi’n byw neu’n gweithio’n lleol ac yn dymuno benthyg llyfrau, gallwch gofrestru ar gyfer Cynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd.

Gall cyn-fyfyrwyr hefyd gael mynediad at ddetholiad o’n e-adnoddau gan ddefnyddio Cynllun cerdded i mewn Cymru* ac os ydych yn astudio ar gyfer gradd uwch mewn Sefydliad arall yn y DU, gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth Llyfrgell drwy gynllun Mynediad SCONUL*.

Os ydych chi’n ymweld â’n llyfrgelloedd neu unrhyw le arall ar y campws, gallwch hefyd gysylltu â’n Wi-Fi Gwesteion am ddim.  

*Ymwadiad: daw’r ffynonellau yma o wefan allanol ac felly nid yw’r Brifysgol yn gyfrifol am ddilysrwydd y cynnwys.


Pwy sy’n gymwys?

Pob cyn-fyfyriwr ond mae mynediad corfforol dim ond ar gael yn Llambed, Caerfyrddin ac Abertawe. 

  • Beth am briodi ar eich campws prifysgol? Efallai mai dyma ble y gwnaethoch chi a’ch partner gyfarfod a syrthio mewn cariad? Mae cyn-fyfyrwyr yn gymwys i gael gostyngiad o 10% ar briodasau ar gampws Caerfyrddin neu Llambed. Bydd cydlynydd priodas hefyd yn eich tywys drwy’r manylion bob cam o’r ffordd.  

    Rhowch gipolwg ar y lleoliadau ac archebwch eich ymweliad ar wefan Lleoliad Cymru.

  • Ydych chi’n ymweld â’r ardal ac yn chwilio am rywle i aros? Beth am aros ar y campws.  Gall cyn-fyfyrwyr dderbyn gostyngiad o 20% ar archebion gwely a brecwast ar gampysau Llambed a Chaerfyrddin. 

    Archebwch eich arhosiad drwy ein tîm lletygarwch ar wefan Lleoliad Cymru.

  • Ydych yn teithio i Abertawe? Rydym wedi partneru â Village Hotel Abertawe i gynnig cyfradd arbennig i’n cyn-fyfyrwyr ar wely a brecwast. Os hoffech dderbyn y cynnig hwn, cysylltwch â alumni@uwtsd.ac.uk 

  • Os ydych chi’n digwydd bod yn agos at gampysau Llambed, Caerfyrddin neu Abertawe ac yn chwilio am damaid cyflym i’w fwyta, manteisiwch ar ostyngiad o 10% yn ein caffis. Cwblhewch ein ffurflen i dderbyn eich taleb dros e-bost. 

    Am restr o allfeydd arlwyo’r Brifysgol, ymwelwch â wefan Lleoliad Cymru.

  • Os ydych chi’n byw yn lleol neu yn yr ardal ac eisiau gweithio mas, mae ein Canolfannau Chwaraeon yng Nghaerfyrddin a Llambed yn cynnig bargeinion aelodaeth ardderchog i gyn-fyfyrwyr.  

    Aelodaeth Flynyddol: £145 

    Misol (Debyd Uniongyrchol): £20 

    Talu wrth fynd: £4 

    Ymwelch neu Cysylltwch â’n Canolfannau Chwaraeon a chymrwch olwg ar ein Cyfleusterau Chwaraeon.

  • Rydym wedi taro bargen â LC Abertawe sy’n cynnig bargeinion aelodaeth gwych i gyn-fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant.  

    Aelodaeth flynyddol:  £270 (sy’n gyfystyr â £22.50 y mis) 

    Aelodaeth 3 mis:  £70 (sy’n gyfystyr â dim ond £23 y mis)  

    Misol (Debyd Uniongyrchol): £30  

    Hefyd bydd aelodau’n cael budd o fynediad i gyfleusterau Freedom Leisure Abertawe i gyd, yn cynnwys:  

    • Hyfforddi yn unrhyw un o’u 6 campfa’n cynnwys Llandeilo Ferwallt, Cefn Hen-goed, LC Abertawe, Treforys, Pen-lan a Phen-yr-heol 

    • 4 pwll â sesiynau nofio rhad ac am ddim  

    • Timau ffitrwydd mewnol sydd wrth law i helpu gyda’ch cynnydd drwy raglenni ffitrwydd personol heb unrhyw gostau ychwanegol 

    • 3 awr o barcio RHAD AC AM DDIM yn Arena Abertawe 

    • Mwy na 300 o ddosbarthiadau ffitrwydd yr wythnos ar draws pob un o’n canolfannau – mae modd eu bwcio i gyd ar-lein 

    • Gostyngiad 20%  yn Costa Coffee yn LC Abertawe, Treforys, Pen-lan, Pen-yr-heol 

    • Gostyngiad 10% oddi ar driniaethau prydferthwch a chyfannol yn Sba LC.   

    • Gostyngiad 10% oddi ar y lleoliadau canlynol: grŵp Secret Hospitality (The Lighthouse, Verdi’s, the Green Room) The Swigg, a’r Pump House  

    • Gostyngiad 20% yn Plantasia drwy ddangos eich cerdyn LC 

    Rhowch wybod iddynt eich bod yn gyn-fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant wrth gofrestru am aelodaeth.  Mae’n debyg y bydd angen cadarnhau hyn gyda’r tîm cyn-fyfyrwyr, wedyn byddwch yn barod i fynd! 


    Pwy all gael mynediad i’r gostyngiadau hyn?  

    Pob cyn-fyfyriwr.  

Bag siop PCYDDS

Siop ar-lein

Ydych chi am goffáu eich amser yn y Drindod Dewi Sant drwy nwyddau a phethau cofiadwy? Does dim angen edrych ymhellach na Siop y Drindod Dewi Sant. 

Mae cyn-fyfyrwyr yn cael budd o ostyngiad o 10%  gan ddefnyddio cod ALUMNI10 a disgownt wrth brynu hwdi a het bobl gyda’i gilydd gan ddefnyddio cod TWOFOR30. 

Yn ogystal â nwyddau, fe welwch ddeunydd ysgrifennu a chyflenwadau celf am brisiau gwych yma.  

Rhowch gipolwg ar Siop y Brifysgol neu os hoffech ymweld yn bersonol, mae siop wedi’i leoli yn y Cwad ar gampws Caerfyrddin ac ar agor yn ystod y tymor, ac mae stondin nwyddau wedi’i leoli yn y Llyfrgell ar gampws Llambed ac ar agor yn ystod oriau’r llyfrgell.

Digwyddiadau ac Aduniadau

Cyn belled â’ch bod wedi cofrestru ar gyfer e-gylchlythyrau ac wedi diweddaru eich manylion byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddigwyddiadau rydym wedi’u cynllunio, gan gynnwys aduniadau, digwyddiadau rhwydweithio neu hyfforddi proffesiynol, ffeiriau gyrfaoedd a mwy. Mae croeso cynnes yn aros amdanoch chi bob amser yn ôl ar eich campws astudio. 

Mae gennym becynnau aduniad gwych ar gael ar gampysau Caerfyrddin a Llambed a gallwn gynnig cymorth os hoffech drefnu digwyddiad aduniad i chi a’ch cyn gyd-fyfyrwyr.