Skip page header and navigation

Cynhaliodd Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ei noson wobrwyo flynyddol yn Ystafell Cothi, Canolfan Gynadledda’r Halliwell ar gampws Caerfyrddin. Buont yn dathlu ail dymor Timau Chwaraeon ac Athletwyr Unigol y Drindod Dewi Sant yn ôl yng nghystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Roedd y noson yn llawn gwobrau yn cydnabod campau clodwiw myfyrwyr y Drindod Dewi Sant drwy gydol y flwyddyn.

Award winners at UWTSD Academy Sport Presentation Dinner
o'r chwith i'r dde: Morgan, Joanna, Ethan, Maddie a Myles

Meddai Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon y Drindod Dewi Sant:

“Ers lansio’r Academi Chwaraeon ar ddechrau blwyddyn academaidd 22/23 a chan weithio mewn partneriaeth ag Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant, rydym ni bellach yn cymryd rhan yn ein hail dymor yng nghystadlaethau, cynghrair a chwpanau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Mae wedi bod yn gyflawniad gwych i gyrraedd ble rydym ni mewn cyfnod byr o amser, ac rydym ni wedi gweld y myfyrwyr yn ffynnu eleni wrth gystadlu mewn nifer o ddigwyddiadau BUCS.

“Roedd ein hail noson wobrwyo yn ddigwyddiad ardderchog ac yn gyfle i fyfyrwyr a staff ddod at ei gilydd i gydnabod y llwyddiannau ac i adfyfyrio ar flwyddyn nodedig. Ond nid yw’r tymor drosodd eto oherwydd mae gan rai o’r timau/unigolion gystadleuaeth Rygbi saith-bob-ochr BUCS a nifer o Ddigwyddiadau/Pencampwriaethau Chwaraeon Unigol BUCS i ddod o hyd yn ystod y flwyddyn academaidd hon!”

Line up of UWTSD Rugby Team
Tim Rygbi Dynion PCYDDS

Ymhlith yr enillwyr roedd:

Pêl-droed Dynion PCYDDS – Chwaraewr y Flwyddyn – Myles Perkins

Pêl-rwyd Menywod PCYDDS – Chwaraewr y Flwyddyn – Maddie Williams

Rygbi Dynion PCYDDS - Chwaraewr y Flwyddyn – Ethan Williams

Chwaraeon Unigol PCYDDS -  Mabolgampwr y Flwyddyn – Emily Thomas 

Staff Cymorth PCYDDS – Myfyriwr y Flwyddyn - Joanna Cathersides

Gwobr Cyfraniad Arbennig PCYDDS - Morgan Thomas, Jordan Evans a Cian Anderson 

Myfyriwr y Flwyddyn Academi Chwaraeon PCYDDS – Morgan Thomas

Special Recognition award - Jordan, Morgan and Cian with Lee Tregoning receiving their awards
o'r chwith i'r dde: Jordan, Morgan a Cian yn derbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig gyda Lee Tregoning

Yn ystod y noson anrhydeddwyd hefyd gyflawniadau nodedig y timau, yn cynnwys llwyddiant y tîm Pêl-droed Dynion wrth iddynt gipio teitl Pencampwyr Cynghrair Gorllewinol BUCS a buddugoliaeth y tîm Rygbi Dynion wrth sicrhau Tarian Orllewinol BUCS y tymor hwn.

UWTSD Men's Football Team line up
Tim Pel-droed Dynion PCYDDS

Morgan Thomas, capten tîm Rygbi Dynion PCYDDS ac aelod o dîm Castell-nedd o Uwch Gynghrair Cymru, enillodd wobr nodedig Myfyriwr y Flwyddyn Academi Chwaraeon y Drindod Dewi Sant yn dilyn perfformiadau gwych drwy gydol y flwyddyn. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i’w dîm ac i’r Academi gyfan ers y cychwyn.   Ac yntau’n un o aelodau gwreiddiol Clwb Rygbi newydd y Drindod Dewi Sant ac yn gapten ers adfywiad y clwb yn 2022, mae Morgan wedi bod yn esiampl o arweinyddiaeth ar y cae ac oddi arno. Gan gydbwyso gofynion blwyddyn olaf ei radd addysgu, mae Thomas wedi arwain drwy esiampl, gan ysgogi llwyddiant y tîm rygbi. Roedd yn briodol mai fe gododd y tlws yn ei gêm olaf dros y Drindod Dewi Sant, gan goroni taith arbennig gyda’r brifysgol. 

Meddai: 

“Rwy’n hynod ddiolchgar fy mod wedi ennill gwobr Myfyriwr y Flwyddyn yr Academi Chwaraeon, mae’n anrhydedd enfawr, a diolch i bawb wnaeth fy ystyried i. A minnau yn fy mlwyddyn olaf, mae’n deimlad gwych i orffen ar nodyn uchel, ac rwy’n gobeithio fy mod i a gweddill y pwyllgor rygbi wedi gosod y sylfaen ar gyfer llawer o flynyddoedd llwyddiannus i ddod. Er ei fod yn chwerw felys na fyddaf o gwmpas i fwynhau dyfodol cyffrous yr academi, rwy’n eithriadol o falch o’r hyn rydyn ni fel cymdeithas wedi llwyddo i’w gyflawni mewn cyfnod byr, ac rwy’n ffyddiog y gall y clwb fynd ymlaen i gyflawni llawer mwy! #uppasaints” 

Morgan Thomas with Professor Wendy Dearing receiving his award

“Rwy’n hynod ddiolchgar fy mod wedi ennill gwobr Myfyriwr y Flwyddyn yr Academi Chwaraeon, mae’n anrhydedd enfawr, a diolch i bawb wnaeth fy ystyried i.” Morgan Thomas

Ychwanegodd Lee Tregoning:

“Llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr, staff ac wrth gwrs enillwyr y gwobrau a hoffwn i hefyd ddiolch i bawb a gyfrannodd at wneud y noson yn un mor gofiadwy.”

UWTSD netball team line up
Tim Pel-rhwyd PCYDDS

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau