Athrofa Cytgord PCYDDS yn croesawu Academi Temenos
Cynhaliwyd digwyddiad mawr yng nghalendr blynyddol y Brifysgol ar yr 20fed o Fawrth pan groesawodd yr Athrofa Cytgord Academi Temenos i Lambed ar gyfer ei Diwrnod Astudio blynyddol.
Elusen yw Academi Temenos sy’n cynnig addysg mewn athroniaeth a’r celfyddydau yng ngoleuni traddodiadau cysegredig y Dwyrain a’r Gorllewin.
Teitl digwyddiad eleni oedd ‘Agor Drysau Canfyddiad’ ac roedd yn cynnwys tri siaradwr o fri:
- Dr. Peter Wakelin, cyn-ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Bu’n sôn am yr arddangosfa a guradwyd ganddo’r haf diwethaf yn Y Gaer, Aberhonddu, ar y peintiwr a’r bardd Eingl-Gymreig enwog, David Jones, a sut y gwnaeth ei arhosiad yng Nghapel-y-ffin yng Ngororau Cymru siapio ei ddatblygiad.
- Dr. Susanne Sklar, awdur Blake’s Jerusalem as Visionary Theatre, a fu’n egluro rôl y dychymyg yn ffordd o feddwl William Blake, ei farddoniaeth a’i gelf; a
- Dr. Martin Shaw, yr oedd ei nofel ddiweddaraf, Bardskull, a fu’n Llyfr y Diwrnod yn y Guardian, yn defnyddio dehongliadau breuddwydion a gweledigaethau Joseff yn yr Hen Destament i helpu i egluro ei daith ysbrydol ei hun.
Cadeiriwyd y Diwrnod Astudio gan Hilary Davies, Cymrawd Academi Temenos, Cymrawd y Gronfa Lenyddol Frenhinol a bardd arobryn. Meddai:
“Mae hi wedi bod yn hyfryd trefnu cynhadledd PCYDDS Academi Temenos lwyddiannus arall yma yn Llambed. Mae’n cynnig cyfle i ni gyrraedd cyhoedd sy’n wahanol i’r hyn a geir yn Llundain, i agor trafodaeth a rhannu syniadau am rôl y dychymyg, diwylliant a’r celfyddydau mewn cymdeithas a’u pwysigrwydd i’n ffyniant dynol cyffredin.”
Cyflwynwyd y diwrnod gan Dr Nicholas Campion, Cyfarwyddwr yr Athrofa Cytgord, a’r Athro Bettina Schmidt, Athro ar gyfer Astudio Crefyddau ac Anthropoleg Crefydd. Wrth groesawu’r digwyddiad, dywedodd Dr Campion:
“Ers 2016, ymddiriedwyd ynof drwy’r Athrofa Cytgord i drefnu cydweithio rhwng PCYDDS a chyrff eraill a oedd yn rhannu Tywysog Cymru bryd hynny yn noddwr. Mae ein cefnogaeth i Academi Temenos yn rhan barhaus o’r genhadaeth hon. Mae’r Academi’n dod â’i dimensiwn creadigol a gweledigaethol i waith yr Athrofa ac i’r Brifysgol gyfan.”
Denodd y digwyddiad dorf lawn o gant o bobl werthfawrogol i Hen Neuadd Llambed.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071