Skip page header and navigation

Mae jyglo straen bob dydd yn ogystal â hyfforddi i gystadlu’n rhyngwladol yn her i bob athletwr o ddifri. Pan fo tasgau beunyddiol yn hyd yn oed mwy heriol am eich bod mewn cadair olwyn, gall fod yn anoddach fyth.

Darren Williams yn eistedd yn ei gadair olwyn yn cael ei gyfweld yn y gampfa

Nod Darren Williams, sy’n bara-triathletwr, yw cynrychioli Prydain Fawr yn nigwyddiadau Cyfres Para-Triathlon y Byd. Ar hyn o bryd mae’n cael ei gefnogi trwy bartneriaeth rhwng Triathlon Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae rhan o’r pecyn hwn yn cynnwys cymorth gwyddor chwaraeon a ddarperir gan Geraint Forster, Ffisiolegydd Ymarfer Corff PCYDDS a’i fyfyrwyr ar y radd BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Ynghyd â phrofion ffisiolegol rheolaidd fel profion VO2max, mae Darren wedi derbyn sesiynau dadansoddi nofio tanddwr, cymorth cryfder a chyflyru, a thriniaethau therapi chwaraeon. 

Dywed Darren bod y cyngor arbenigol mae wedi’i gael ar reoli ei hyfforddiant ochr yn ochr â dygymod â straen bywyd wedi newid popeth. 

Meddai:

 “Rwyf wedi bod yn tracio amrywiant cyfradd curiad y galon (‘Heart Rate Variability’) ers dechrau 2023, ac mae hynny wedi newid popeth o ran cysondeb wrth hyfforddi.  Nawr, gallaf fonitro sut mae fy nghorff yn ymateb i achosion straen nid yn unig wrth hyfforddi ond straen bywyd fel para-athletwr.  Gallaf addasu dwyster/maint yr hyfforddiant i wneud yn siŵr fy mod yn cadw at y cynllun ac yn gyson. Nes i mi ddechrau defnyddio’r traciwr HRV, roeddwn yn gwneud gormod o hyfforddi ac roeddwn yn flinedig ac yn sâl yn aml.”

Esbonia Geraint Forster, Ffisiolegydd Ymarfer Corff PCYDDS:

 “Mae amrywiant cyfradd curiad y galon yn mesur y bylchau rhwng pob curiad calon.Mae’n dweud ychydig mwy wrthym nag wrth nodi cyfradd curiad y galon wrth orffwyso. Os caiff ei nodi’n rheolaidd bob bore, mae’n rhoi syniad i ni ynghylch p’un a yw’r corff wedi cael digon o orffwys ac wedi gwella neu os yw’n dal i fod yn lluddedig neu’n llawn straen. 

 “Nid yn unig y mae’n ystyried straen hyfforddi, ond hefyd pethau fel pa mor dda rydych wedi cysgu, p’un a ydych yn teimlo’n orbryderus, p’un a allech chi fod yn brwydro salwch, ansawdd eich diet, defnydd o alcohol, ayb. Mae’n rhoi syniad cyffredinol o’ch ‘parodrwydd i hyfforddi.”

Geraint Forster Darlithydd PCYDDS yn helpu Darren yn y gampfa yn ystod sesiwn ymarfer corff

Ychwanegodd: 

 “Mae’n demtasiwn i athletwyr feddwl bod rhaid iddynt hyfforddi’n galed o hyd a chael agwedd ‘dim poen, dim elw’, ond dywed ymchwil wrthym nad dyma’r dull mwyaf effeithiol – mae’n tueddu arwain at berfformiadau gwael, anafiadau a ‘hunlosg’. 

“I bob athletwr, ond yn arbennig felly i bara-athletwyr lle mae tasgau beunyddiol fel cymryd y plant i’r ysgol yn gallu bod yn fwy beichus, mae’n bwysig gwrando ar y corff. Mae tracio HRV yn caniatáu i chi wybod pryd y dylech wthio’n galed wrth hyfforddi, a phryd y dylech ymarfer yn llai caled. Yna, y gobaith yw bod hyn yn arwain at allu i hyfforddi’n fwy cyson a chael gwell canlyniadau.Mae Darren yn gweld bod hyn yn wir ers i ni ei gyflwyno i HRV.”

Mae cyflogadwyedd yn agwedd allweddol ar y radd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn PCYDDS. Mae rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio gydag athletwyr fel Darren yn hollbwysig er mwyn rhoi’r cyfle gorau i raddedigion gael swyddi perthnasol. Ynghyd â maint bach y grwpiau, cymorth personol, cymwysterau galwedigaethol wedi’u hymgorffori yn y rhaglen ac Academi Chwaraeon, nod PCYDDS Caerfyrddin yw darparu llwybr ansawdd uchel i yrfa ym maes chwarae ac ymarfer corff ar gyfer Gorllewin Cymru. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â g.forster@uwtsd.ac.uk 

Llun o Darren Williams yn nofio yn y pwll nofio

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon