Skip page header and navigation

Roedd adran Diwydiannau Dylunio a Pherfformio campws Caerfyrddin ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o gyflwyno penllanw tair blynedd o waith caled gan eu myfyrwyr BA (Anrh) Gwneud Ffilmiau Antur yn y digwyddiad Naratifau Cudd.

Adventure Filmmaking Students with lecturer Brett Aggersberg standing together in front of Yr Egin

Cynhaliwyd yr arddangosfa hon yng Nghanolfan S4C Yr Egin, ac roedd yn cynnwys amrywiaeth eang o brosiectau, gan gynnwys rhaglenni dogfen a oedd yn mynd i’r afael â llygredd môr, hygyrchedd mewn syrffio, a manteision nofio gwyllt, ochr yn ochr â gwaith ffotograffiaeth a chyhoeddi.

Roedd y digwyddiad hwn yn llwyfan i fyfyrwyr arddangos eu gwaith caled a’u hymroddiad i gynulleidfa o ffrindiau, teulu a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Rhoddodd gyfle iddynt brofi gweld eu gwaith ar y sgrin fawr ac ymarfer siarad cyhoeddus mewn amgylchedd proffesiynol. 

Roedd Josh Knight yn un o’r myfyrwyr a oedd yn arddangos ei waith. Meddai:

“Mae arddangos darn o waith o flaen cynulleidfa bob amser yn mynd i fod yn brofiad nerfus. Y digwyddiad hwn oedd y dorf fwyaf o ddigon rydw i wedi sgrinio unrhyw un o’m ffilmiau o’u blaen nhw. Fodd bynnag, mae gweld rhywbeth rydych chi wedi cysegru llawer o amser ac ymdrech iddo yn ymddangos ar y sgrin fawr, bob amser yn deimlad gwerth chweil iawn.”

Myfyriwr arall a oedd yn arddangos ei waith oedd Joseph Morris. Meddai:

“Roedd yn broses eithaf nerfus i bob un ohonom, i bobl greadigol fel ni, dyw ein prosiectau byth yn teimlo’n orffenedig, mae rhagor y gallech chi ei ychwanegu a’i newid bob amser, felly roedd yn wych cael ymateb mor gadarnhaol i’n holl brosiectau.

“Gall fod yn eithaf anodd gwybod ar ba lefel o ansawdd y mae’ch gwaith chi gan fod pawb ohonom ni’n eithaf beirniadol, felly roedd cael adborth a gweld ymateb pobl mewn amser real yn ddefnyddiol dros ben.”

Ychwanegodd y myfyriwr Molly Austin: 

“Roedd hi’n nerfus iawn i ddechrau gan fy mod wedi gweithio’n galed iawn ar y prosiect ac felly roeddwn i eisiau i bobl ei fwynhau. Cyn gynted ag y daeth y ffilm i ben, dyma’r dorf yn dechrau cymeradwyo, teimles i ryddhad o lawenydd ac roedd hi’n teimlo bod fy holl waith caled wedi talu ar ei ganfed. 

“Mae wedi gwella fy hyder yn aruthrol ac wedi rhoi’r hwb y mae ei angen arnaf i symud ymlaen gyda fy ngyrfa gwneud ffilmiau. Rwy’n credu bod hyn yn hynod bwysig i mi yn fyfyriwr gwneud ffilmiau oherwydd ei fod yn ein paratoi ni ar gyfer y byd go iawn, lle efallai y bydd disgwyl i ni roi sgyrsiau mewn sioeau ffilmiau yn y dyfodol.”

Cynhaliwyd trafodaeth banel gyda’r myfyrwyr ar ddiwedd y digwyddiad a oedd yn rhoi cyfle iddyn nhw fyfyrio ar eu taith fel gwneuthurwyr ffilmiau, gan adrodd eu stori o’r dechrau, a rhoi rhagor o gyd-destun i’r gwaith a’r ymdrechion sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni i wneud y ffilmiau hyn yn bosibl.

Meddai Josh: 

“Mae’r profiad o siarad yn gyhoeddus ac arddangos fy ngwaith o flaen cynulleidfa wedi cynyddu fy hyder yn unigolyn ac wedi dangos i mi y gallaf fod yn falch o’r gwaith rwy’n ei greu. Yn weithiwr creadigol, mae’n anodd teimlo’n hollol fodlon â ffurf orffenedig darn o waith rydych chi’n ei greu, ond ers y digwyddiad hwn rydw i wedi darganfod mai ei ddangos i gynulleidfa a chael eu hymateb nhw i rywbeth rydych chi’n ei greu yw’r darn coll sy’n cwblhau prosiect weithiau.”

Meddai Rheolwr y Rhaglen Gwneud Ffilmiau Antur Dr Brett Aggersberg:

“Rwy’n hynod falch o’r gwaith ar lefel broffesiynol a wnaeth y myfyrwyr ar gynnwys y sioe. Yn ystod sesiwn banel holi ac ateb perfformiodd pob myfyriwr yn rhagorol wrth iddyn nhw drafod natur bod yn wneuthurwr ffilmiau antur. Gobeithio y bydd y digwyddiad yn ysbrydoli egin o wneuthurwyr ffilmiau. 

“Roedd y noson yn ddathliad i deulu a ffrindiau sydd wedi gwylio a chefnogi’r unigolion hyn dros y tair blynedd ddiwethaf. Os yw’r sioe hon yn argoeli unrhyw beth, mae gan bob un ohonyn nhw ddyfodol disglair o’u blaenau nhw yn y diwydiant.”

 Gellir gweld y gwaith nesaf yn Theatr y Lyric Caerfyrddin ar 3 Mehefin am 7:30pm.

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs BA (Anrh) Creu Ffilmiau Antur yn Y Drindod Dewi Sant, ewch i: Creu Ffilmiau Antur (Amser Llawn) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (pcydds.ac.uk)


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon