Skip page header and navigation

Roedd Y Drindod Dewi Sant yn falch dros  o gymryd rhan yn “School Tasking” sy’n ceisio dod â llawenydd y sioe deledu boblogaidd Sianel 4, Taskmaster, i blant mewn ysgolion.

School Tasking - Awel y Mor
School Tasking - Sandfield Seagulls

Mae’r prosiect allgymorth cyffrous hwn yn galluogi pobl ifanc i ddysgu am agweddau diddorol ar y gyfraith trwy dasgau hwyliog a rhyngweithiol a osodir ar ddull Taskmaster. Syniad Dr  Ali Struthers o Warwick, Athro Cyswllt y Gyfraith,  yw “School Tasking” ac fe’i cyflwynwyd yn 2023-2024 i 30 o brifysgolion ledled y DU a’i chofleidio yn llawn gan dîm ehangu mynediad Y Drindod Dewi Sant ac academyddion o’r Academi Golau Glas. 

Meddai Sam Bowen, Rheolwr Ehangu Mynediad Y Drindod Dewi Sant: 

Nod y prosiect yw helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau gwaith tîm a meddwl yn greadigol a’r gobaith yw y bydd hefyd yn eu hannog i feddwl am bosibiliadau yn y dyfodol o fynychu addysg uwch ac roedd yn cyd-fynd yn berffaith â nodau ac uchelgeisiau Ymestyn yn Ehangach y mae’r tîm ehangu mynediad yn eu cyflawni. 

Cyflwynir gweithgareddau i’r plant ar ffurf ‘Tasgau’ mewn clipiau fideo byr a recordiwyd gan gyflwynydd y sioe deledu Alex Horne. Laura Knight, Sadie France a’r fyfyrwraig trydedd flwyddyn Caitlin Harries oedd y tîm darparu academaidd wedi’u cefnogi gan lysgenhadon myfyrwyr a’r tîm ehangu mynediad”.

Yn yr heriau tîm, bu disgyblion o ysgolion cynradd Grange, Awel y Môr, Blaen-y-maes, Portmead a Rhyd-y-fro yn cwblhau tasgau gwobr benodol a gafodd eu marcio’n annibynnol ac yn ddienw gan grŵp o ddisgyblion ym Mlaen-y-maes nad oedden nhw’n cystadlu. Fe wnaethon nhw gyhoeddi mai’r tîm buddugol cyffredinol oedd ‘The Sandfield Seagulls’ o Awel y Môr ac felly yn bencampwyr Y Drindod Dewi Sant. Aeth y tîm hwn i’r rownd derfynol ranbarthol a gynhaliwyd gan Brifysgol Bryste ddiwedd mis Ebrill i gystadlu yn Rownd Derfynol Ranbarthol y Gorllewin am safle i fynd ymlaen i gynrychioli’r rhanbarth yn y Rownd Derfynol yn Warwick. Cafodd disgyblion ‘The Sandfields Seagulls’, sef Rocco, Lucas, Thomas, Noa a Lilly-Mae, ornest ragorol ac ennill y rowndiau a oedd gysylltiedig â chreadigrwydd a dylunio gan ddod yn drydydd yn gyffredinol. Meddai disgyblion o’r tîm:

Fe wnaethon ni fwynhau Taskmaster oherwydd roedden ni’n gallu gweithio fel tîm. Roedd rhai o’r tasgau’n eithaf hawdd a roddodd hyder inni roi cynnig ar rai o’r rhai o’r lleill a oedd yn fwy heriol. Roeddem ni’n falch iawn o gael ychydig o gymorth pan fyddai ei angen arnom. Rhoddodd yr oedolion awgrymiadau a chyngor i ni er mwyn i ni allu  ceisio gwella’r hyn yr oeddem ni wedi’i wneud. Byddem ni wrth ein bodd yn rhoi cynnig arall arni.”

Diolchodd Dirprwy Bennaeth Kyle Winter yn Ysgol Gynradd Awel y Môr yn fawr iawn i’r tîm Ehangu Mynediad yn Y Drindod Dewi Sant ac i bawb a gymerodd ran gan ddweud: 

Roedd y profiad Taskmaster yn ddigwyddiad gwych i’n disgyblion. Trwy’r tasgau amrywiol, cyffrous roedden nhw’n gallu canolbwyntio ar sgiliau megis cydweithio, meddwl yn feirniadol, creadigrwydd a threfnu. Cafodd ei baratoi a’i gynllunio’n rhyfeddol gan sicrhau bod gan bob plentyn fewnbwn ac yn gallu arddangos eu galluoedd yn ogystal â chael hwyl. Cafodd y plant brofiad o weithio gyda staff a myfyrwyr y brifysgol a oedd yn gefnogol ac yn gwella’r profiad i’r plant.”

Rhoddodd Laura Knight, darlithydd yn Academi Golau Glas Y Drindod Dewi Sant, ei sylwadau ar gydweithio ar y prosiect: 

Roedd gweithio gyda’r plant i hyrwyddo addysg gyfreithiol yn ysbrydoledig mewn cymaint o ffyrdd. Roedd eu creadigrwydd a’u gallu i ddefnyddio meddwl ochrol gyda chysyniadau cyfreithiol yn wirioneddol ryfeddol ar brydiau ac yn aml dyma nhw’n mynd â ‘meddwl y tu allan i’r bocs’ i lefel hollol newydd. Dangosodd y plant frwdfrydedd heintus i ddysgu a oedd yn gwneud y profiad yn hynod werth chweil. Yn ogystal, roedd y prosiect yn caniatáu i ni greu perthnasoedd newydd â’n cymuned leol, rhywbeth rwy’n gobeithio y byddwn ni’n parhau i’w feithrin drwy ymgysylltu yn y dyfodol.”

Meddai Sam Bowen i gloi: 

“Hoffai’r Drindod Dewi Sant ddiolch a llongyfarch Prifysgol Bryste, roeddem ni’n ddiolchgar iawn am eu lletygarwch yn Rownd Derfynol Ranbarthol y Gorllewin ac rydyn ni’n cefnogi eu tîm buddugol nhw wrth iddyn nhw symud ymlaen i gynrychioli ein rhanbarth ni yn y rowndiau terfynol ym mis Mehefin”.


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon