Skip page header and navigation

Mae cydweithrediad newydd ar y gweill rhwng Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (ATiC) ac un o’i myfyrwyr Meistr, i wella profiadau meddygol plant.

Adam has developed the range of PreMedPrep product prototypes. The products aim to teach, engage, and prepare children for their medical procedure, offering  the child a sense of control and autonomy back over their healthcare.

Mae ATiC yn gweithio gyda’r myfyriwr MSc Dylunio Diwydiannol Adam Higgins wrth iddo ddatblygu ystod o gynhyrchion PreMedPrep, sydd â’r nod o baratoi plant ymlaen llaw ar gyfer gweithdrefnau gofal iechyd cyffredin megis profion gwaed, archwiliadau calon a thymheredd, a nebileiddwyr ar gyfer derbyn meddyginiaeth.

“Yn aml, gall gweithdrefnau gofal iechyd achosi pryder, ofn a straen i blant oherwydd ‘ofn dirgelwch’,” meddai Adam, 22 oed, o Riwbeina yng Nghaerdydd, a raddiodd mewn Dylunio Cynnyrch yng Ngholeg Celf Abertawe yn Y Drindod Dewi Sant.

“Gall diffyg dealltwriaeth plentyn o’r hyn sy’n digwydd iddo arwain at brofiad negyddol o weithdrefnau meddygol; gall achosi ofn a phryder ac effeithio ar eu hymweliadau meddygol yn y dyfodol.

“Gall fod goblygiadau parhaol a bydd plant yn aml yn gwrthod triniaethau yn y dyfodol, a all arwain at amseroedd gweithdrefn hwy sy’n gwneud gwaith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn fwy heriol.”

Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn – i gleifion ifanc a darparwyr gofal iechyd – mae Adam wedi datblygu’r ystod o brototeipiau cynnyrch PreMedPrep. Nod y cynhyrchion yw addysgu, ymgysylltu a pharatoi plant ar gyfer eu gweithdrefn feddygol, gan roi teimlad o reolaeth ac annibyniaeth i’r plentyn dros ei ofal iechyd.

Mae’r cynhyrchion yn rhoi’r wybodaeth i ddefnyddwyr am sut mae gweithdrefn yn gweithio drwy arddangos gweithdrefn mewn modd realistig, mewn ffordd ddiddorol a chysurol drwy themâu anifeiliaid llachar a lliwgar y cynhyrchion.

Mae pob un o’r tri chynnyrch yng nghasgliad PreMedPrep yn benodol i ryw weithdrefn neu archwiliad.

Mae’r Eliffant, o’r enw Eilo, yn benodol i brofion gwaed. Gall Eilo roi arddangosiad realistig i blant o brawf gwaed, gan ddefnyddio nodwydd ryngweithiol a chwistrell ‘hud’. Mae’r nodwydd a’r chwistrell wedi’u cynllunio i edrych/dyblygu offer meddygol go iawn, gan newid o’r ‘chwarae’ i’r go iawn yn y ffordd fwyaf cysurus.

Mae gan y cynnyrch ffenestr wylio, wedi’i lleoli ar y blaen, a thiwb agored wedi’i leoli ar gefn y cynnyrch. Pan wesgir nodwydd yn yr eliffant, gallwch weld gwaed yn gwagio o’r ffenestr wylio ond hefyd yn teithio drwy’r tiwb.

Mae’r swyddogaethau hyn yn rhoi cyfle i blant ddeall beth sy’n digwydd y tu mewn i’w cyrff eu hunain yn ystod prawf gwaed go iawn.

Mae’r Jiráff, o’r enw Geo, yn mynd i’r afael ag ymchwiliadau cyffredin sy’n aml yn cael eu hanwybyddu, yn benodol i ddarlleniadau tymheredd a churiadau calon. Mae’r cynnyrch yn darparu darlleniadau amser go iawn o dymheredd a chyfraddau calon, gan ddefnyddio thermomedrau meddygol a stethosgopau go iawn.

Mae’r cynnyrch wedi’i raglennu i ddangos beth yw tymheredd/cyfradd curiad calon cadarnhaol a negyddol, ac mae’n ffordd arloesol o gysylltu plant ag offer meddygol go iawn a ddefnyddir yn yr arholiadau.

Mae’r Teigr, o’r enw Tigo, yn benodol i nebiwleiddwyr. Mae’r cynnyrch yn dangos sut rydych chi’n cymryd meddyginiaeth drwy fasg. Drwy wasgu’r mwgwd ar drwyn y teigr, mae’n cynhyrchu anwedd sydd i’w weld yn y ffenestr wylio ar flaen y cynnyrch.

Profile Picture of Adam Higging

Y bwriad wrth ddefnyddio’r cynhyrchion yw lleihau’r ‘dirgelwch’ a bydd yn galluogi plant i gael meistrolaeth ar eu hamgylchedd drwy ymwneud yn well â’u triniaeth. Drwy ddeall a pharatoi ar gyfer eu gweithdrefnau, bydd yn eu cefnogi’n emosiynol ac yn wybyddol, gan wella eu profiad meddygol cyffredinol.

Meddai Sean Jenkins, Prif Gymrawd Arloesi ATiC: “Roedd y tîm yn falch iawn o weld un o fyfyrwyr Meistr y Drindod Dewi Sant ei hun yn gofyn am gael manteisio ar yr arbenigedd a’r cyfleusterau arloesol sydd ar gael yn ATiC.  Rydyn ni’n yn edrych ymlaen at gefnogi menter newydd Adam a chyfrannu i ddatblygiad llwyddiannus cynhyrchion PreMedPrep.

“Nid oes unrhyw gynnyrch wedi’i gynllunio’n benodol yn y farchnad bresennol i gefnogi plant i ddeall gweithdrefnau clinigol a lleihau eu pryder.  Nod Adam yw cyflwyno cynhyrchion sy’n benodol i weithdrefnau ar gyfer rhai o’r profiadau cythryblus mwyaf cyffredin iddynt, ac mae ATiC yn falch o weithio gydag ef i gyflawni hyn.

“Bydd ATiC yn cefnogi Adam drwy gynnal gwerthusiadau defnyddioldeb cynnyrch gyda chlinigwyr a phlant gan ddefnyddio ein systemau arsylwi a dadansoddi ymddygiad.  Bydd y canfyddiadau rhyngweithio hyn yn galluogi Adam i fireinio ei ddyluniad, gyda chymorth ATiC, argraffu prototeipiau newydd y gellir eu profi eto i wella’r cynhyrchion ymhellach cyn iddynt gael eu lansio yn y farchnad.”

“Mae astudio yn Y Drindod Dewi Sant drwy fy nghwrs gradd a Meistr wedi fy ngalluogi i ddatblygu’r set sgiliau angenrheidiol i greu, datblygu a lansio fy natblygiad cynnyrch PreMedPrep i’r llwyfan y mae ar hyn o bryd,” ychwanegodd Adam.

“Bydd y cydweithio newydd hwn gydag ATiC a’r arbenigedd a’r cyfleusterau y byddaf yn gallu eu defnyddio o ganlyniad yn fy ngalluogi i fynd â datblygiad fy nghynnyrch gam ymhellach. Rwy’n gobeithio cynnal dadansoddiad manwl o brototeipiau cynnyrch PreMedPrep, gan ddefnyddio rhwydwaith o ymarferwyr meddygol, clinigwyr a defnyddwyr i ddilysu a gwerthuso’r dyluniadau.

“Bydd cryfhau’r dadansoddi a’r canfyddiadau a gawn ni gan yr ymarferwyr yn helpu i ddatblygu cynnyrch dibynadwy diwygiedig, sy’n addas ar gyfer rhyddhau’r farchnad yn y dyfodol.”

Dywedodd Matthew Archer, Uwch Ddarlithydd, Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf: “Mae Adam yn fyfyriwr sydd â ffocws a hunan gymhelliant, ac sy’n ymgorffori athroniaeth ein rhaglen Meistr o gydweithio rhyngddisgyblaethol i ddatblygu a gwireddu ei feddylfryd dylunio.

“Mae hwn yn brosiect arloesol ar sawl lefel, wrth ystyried pob agwedd ar ymgysylltu â defnyddwyr ac mae wedi elwa o’r arbenigedd oddi mewn i ATiC.”

Mae ATiC, canolfan ymchwil integredig sy’n rhoi dulliau meddwl ac arloesi strategol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar waith drwy ei chyfleuster ymchwil i Brofiadau Defnyddwyr (UX) a Gwerthuso Defnyddioldeb sydd wedi’i leoli yn Ardal Arloesi Abertawe, yn bartner yn y prosiect Cyflymu Cymru (Cyflymydd Technoleg Arloesi Iechyd Cymru) gwerth £24m.

Cydariannir y cydweithio CYFLYMU arloesol rhwng Y Drindod Dewi Sant, Cyflymydd Arloesedd Clinigol Prifysgol Caerdydd, Canolfan Technoleg Iechyd Prifysgol Abertawe, a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau