Skip page header and navigation

Mae Peniarth, cyhoeddwr llyfrau ac adnoddau addysg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi lansio poster ac adnodd arlein ‘Brethyn Cymru’, fel rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. 

Image of Natalie Jones explaining to the children about Brethyn Cymru

Mae ‘Brethyn Cymru’ yn adnodd sy’n cynnwys gwybodaeth am 25 o unigolion a digwyddiadau allweddol o fewn hanes Cymru, gan roi cyfle i athrawon a dysgwyr Cymru archwilio’u hanes amlddiwylliannol fel cenedl. Ceir hanes unigolion fel Angela Kwok, eiriolydd y gymuned Tsieineaidd; Cymuned Penrhos, a fu’n gartref i Bwyliaid yng Nghymru ers yr Ail Ryfel Byd; y cerddor a’r storïwr Abram Wood, a oedd yn bennaeth teulu Romani enwog; a’r carcharor rhyfel o’r Eidal Mario Ferlito.

Datblygwyd yr adnodd hwn yn dilyn adroddiad Yr Athro Charlotte Williams a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Argymellwyd yn yr adroddiad y dylid creu adnoddau a deunyddiau trawsbynciol i gyd-fynd â chwricwlwm newydd Cymru, er mwyn dysgu ac addysgu am amrywiaeth yng Nghymru ddoe a heddiw. 

Mae fersiynau gwahanol o’r adnodd wedi cael eu creu i’r sectorau cynradd ac uwchradd, a bydd pum copi o’r poster yn cael eu hanfon am ddim i bob ysgol yng Nghymru. Bydd y cod QR sydd ar y poster yn rhoi mynediad i wybodaeth ehangach yn ddigidol ar Hwb, a bydd modd defnyddio’r ddwy ran fel sbardun i waith trafod ac i ysgogi gwaith pellach. 

children in the foreground with one of Brethyn Cyru's characters being showcased on a display board

Lansiwyd yr adnodd yn swyddogol ar Fawrth 22ain,  gyda gweithdy yn Ysgol Gymraeg Pwll Coch yng Nghaerdydd dan ofal Natalie Jones.

Dywed Natalie sy’n Weithredwr Cynnwys Addysg i S4C ac yn un o awduron Brethyn Cymru: 

“Mae’n fraint cael wedi bod yn rhan o’r prosiect yma, a chael adrodd hanes dau berson pwysig yn hanes Cymru, sef John Ystumllyn ac Iris de Freitas. Mae hi mor bwysig fod plant ein cenedl yn dysgu am rôl bwysig bob unigolyn sydd ar y llinell amser a’r dylanwad maen nhw wedi ei gael arnon ni i gyd.”

Ychwanegodd Catrin Alun, Arweinydd Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu Ysgol Gymraeg Pwll Coch: 

“Mae adnodd mor ddeniadol â phoster Brethyn Cymru a’r gweithgareddau sydd wedi eu paratoi am bob un o’r unigolion yn hollol hyfryd. Am ffordd wych o ddathlu dylanwadau rhyngwladol ar fywyd Cymru, ac am ddylanwad y Cymry ar ymwelwyr a mewnfudwyr!

“Rydyn ni’n lwcus yn Ysgol Pwll Coch bod y byd i gyd yn ymgasglu yma, a bod diwylliannau a chrefyddau’r byd yn rhan o wead ein brethyn unigryw ni. Bydd plant Pwll Coch ac ysgolion eraill Cymru yn elwa cymaint o weld dylanwad yr unigolion hyn ar wead eu bywydau nhw. Diolch, Peniarth!”

Meddai Catrin Evans-Thomas, rheolwr y prosiect gyda Pheniarth:

“ ’Dyn ni mor falch i allu rhannu’r adnodd cyffrous yma gydag holl athrawon a dysgwyr Cymru. Mae tîm gwych wedi dod at ei gilydd i awduro a chreu cofnod o’r holl bobl sydd wedi dylanwadu ar lwybr hanesyddol Cymru, a phob un ohonynt yn edefyn pwysig ym mrethyn ein cenedl. Bydd hi’n wych eu gweld yn cael eu harddangos ar furiau holl ysgolion Cymru yn fuan.”

Class at Ysgol Pwll Coch learnig about Brethyn Cymru

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau