Skip page header and navigation

Mae Canolfan S4C Yr Egin yn falch i gyhoeddi enillwyr cystadleuaeth Gŵyl Ffilmiau Antur Yr Egin. 

Delwedd: y môr a silwetau dau berson adeg machlud haul ar daith snorclo; testun: Antur Yr Egin Caerfyrddin.

Dros y ddeuddydd ddiwethaf, mae’r ŵyl arloesol hon wedi dathlu’r gorau o blith yr anturiaethwyr a’r rhai sy’n creu cynnwys sy’n dangos y byd antur ar ei gorau. Mae wedi llwyddo i danio dychymyg creadigol y mynychwyr ac wedi cynorthwyo i feithrin talentau’r dyfodol.

Un o agweddau mwyaf cyffrous yr ŵyl i anturiaethwyr uchelgeisiol eleni, boed yn wneuthurwyr ffilm, myfyrwyr, ysgolion, unigolion creadigol neu’n grwpiau cymunedol, oedd y cyfle i gyflwyno gwaith newydd yng nghystadleuaeth Gŵyl Ffilmiau Antur Yr Egin. 

Cyflwynwyd ffilmiau gerbron panel o feirniaid sy’n arbenigo yn y maes. Roedd y tri beirniad, sef Matt Green, cyfarwyddwr ffilm a pherchennog cwmni Summit Fever Media; Sioned Thomas, Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Ardal Bae Abertawe; a Ryan Chappell,  Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol S4C wedi mwynhau beirniadu’r holl ffilmiau ac yn cytuno bod safon y gystadleuaeth yn uchel iawn.  Prif themâu’r gystadleuaeth oedd Ysbryd Antur ac Ymateb i heriau Hinsawdd ac roedd 8 gwobr ar gael. 

Dywedodd Sioned Thomas:

“Diolch yn fawr iawn am y fraint o gael beirniadu y ffilmiau yma. Nes i wir fwynhau gwylio nhw gyd, ac mae’n gyffrous iawn bod na gymaint o bobl talentog i gael gyda ni yng Nghymru sydd eisiau, ac yn gallu creu ffilmau fel hyn! Maen nhw gyd mor wahanol, ac wrth eu gwylio rwyf wedi dysgu llawer, ac wedi cael syniadau newydd ac wedi darganfod llefydd newydd i ymweld â nhw!” 

Ychwanegodd Matt Green:

“Am ddewis gwych o ffilmiau! Mi wnes i fwynhau gwylio pob un ohonyn nhw ac roedd y gystadleuaeth o safon uchel iawn. Llongyfarchiadau i bawb. Daliwch ati!”

Penderfynodd y tri wobrwyo’r canlynol: 

Y Ffilm artistig Gorau - Summiting The Mind - Alexander Langley - Cyn fyfyriwr PCYDDS

Y Trac Sain Gorau - Wild Florida’s Vanishing Call - Alycin Hayes 

Y Ffilm Gorau wedi ei wneud yn Sir Gâr - Cold Water Ice Swimmer, Mathew Jenkins gan Darcey Jenkins - Coleg Sir Gâr  

Y Ffilm Gorau yng Nghymru - The Bontley’s Marathon - Gareth Gwynn 

Y Ffilm Gorau Tu hwnt i Gymru - Future of The Fjiords - Miriam Hughes 

Y Stori Orau - Summiting The Mind - Alexander Langley - Cyn fyfyriwr PCYDDS

Y Ffilm gyffredinol Orau - Summiting the Mind - Alexander Langley - Cyn Fyfyriwr PCYDDS

Cydnabyddiaeth Arbennig - The Threat to Our Coast gan Sophie Hollis - Coleg Sir Gâr 

Meddai Gareth Gwynn, ennillydd y wobr am y Ffilm Orau yng Nghymru: 

“Diolch yn fawr iawn i’r ŵyl am y wobr. Roedd creu’r ffilm yn broses bersonol iawn am sawl rheswm, nid yn unig achos ges i fy nghodi yn y ‘Bont’ ond gan fy mod wedi dod i adnabod y bobl yn y ffilm dros y blynyddoedd diwethaf a rhedeg yn eu plith. Y cymeriadau cynnes ’ma â’u angerdd at y gamp a thuag at eu chyd-rhedwyr sy’n serennu uwchben pob dim ac rwy’n falch bod hynny wedi cael ei chydnabod.”

Dywedodd Gruffydd Roberts, Cydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau’r Egin:

“Mae’r ffilmiau a dderbyniwyd ar gyfer y gystadleuaeth hon wedi bod o safon uchel iawn, ac mae cael rhoi platfform a cyfle i wneuthurwyr ffilm newydd a phrofiadaol rannu eu gwaith a datblygu eu crefft yn rhywbeth rydym ni’n Yr Egin yn falch iawn ohono. Dwi wir wedi mwynhau cydlynnu’r ŵyl eleni, ac yn edrych ymlaen at y nesaf yn barod! 

Bydd rhai o’r ffilmiau uchod gan gynnwys Summiting The Mind, The Bontley’s Marathon, The threat to Our Coast a Cold Water Ice Swimmer gan Mathew Jenkins yn cael eu dangos ar ddiwrnod ola’r ŵyl ddydd Sadwrn rhwng 11:45 a 13:00.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â helo@yregin.cymru


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau