Skip page header and navigation

Mae un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a wnaeth ei mentro hi, gan adael ei swydd 9 i 5 ddiogel i gyd-sefydlu busnes marchnata digidol sy’n ddwyieithog, yn dathlu llwyddiant y cwmni flwyddyn yn ddiweddarach. 

Dyn yn sefyll yn croesi ei freichiau
Alun Jones

Ychydig dros flwyddyn yn ôl, roedd Alun Jones - a raddiodd o gampws Caerfyrddin yn 2013 - mewn swydd sefydlog yn rheoli tîm cyfryngau cymdeithasol ar gyfer darlledwr teledu, nes i sgwrs gyda chydweithiwr ei ysbrydoli i ymddiswyddo a chychwyn ar fenter fusnes newydd.

Yn adlewyrchu ar y daith, dywedodd Alun:

“Am amser hir roeddwn eisiau sefydlu busnes fy hun a gweithio i mi fy hun. Dros goffi un diwrnod, mynegodd cydweithiwr i mi freuddwyd debyg, a rhyngom wnaethon ni benderfynu mai dyma’r amser iawn yn ein gyrfaoedd i droi uchelgais yn realiti a gwireddu’r fenter hon.

“Ar ôl treulio amser yn ymchwilio ac yn mapio cynllun, fe wnaethon ni ei mentro hi a dydyn ni ddim wedi edrych yn ôl ers hynny, oherwydd yn fuan ar ôl rhoi ein rhybudd i’n cyflogwr, fe wnaeth y gwaith brysuro’n gyflym.”

menyw a dyn yn sefyll
Alun Jones a Elan Iâl Jones, sylfaenwyr Libera

Ynghyd â’i bartner busnes, Elan Iâl Jones, sefydlodd Alun Libera, asiantaeth ddigidol greadigol sy’n cynnig gwasanaethau hysbysebu digidol, hyfforddiant ac ymgynghori, a chreu cynnwys. Maen nhw’n gwneud hyn wrth gynnig gwasanaeth cwbl ddwyieithog - yn Gymraeg ac yn Saesneg, sy’n eu gwneud nhw’n wahanol i asiantaethau digidol eraill yng Nghymru ac yn llenwi bwlch yn y farchnad.

Flwyddyn yn ddiweddarach, mae’r busnes wedi datblygu rhestr o gleientiaid amlwg o Gymru, gan gynnwys Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Tinint, ac wedi trefnu’r gynhadledd cyfryngau cymdeithasol gyntaf erioed yng Nghymru a wnaeth ddenu 280 o fynychwyr i Stadiwm Principality, Caerdydd ym mis Medi 2023.

Dechreuodd gyrfa Alun yn y cyfryngau cymdeithasol drwy hap a damwain wrth iddo wirfoddoli i redeg tudalennau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer un o dimau rygbi’r undeb yng Nghymru, y Scarlets. 

Arweiniodd ei ymroddiad i fod yn Llysgennad Cyfryngau Cymdeithasol Graddedig ar gyfer y Drindod Dewi Sant ar ôl iddo gwblhau ei radd mewn Technoleg Gwybodaeth Busnes. O’r fan honno, aeth ymlaen i rolau a drodd ei hobi yn broffesiwn, sydd wedi ei arwain i’r man lle mae heddiw.

Gan fynegi ei angerdd dros y diwydiant, dywedodd Alun:

“Yr hyn rwy’n dwli arno fwyaf am weithio yn y diwydiant hwn yw ei fod yn newid yn barhaus. Mae’n rhaid i chi gadw i fyny ac addasu gydag ef, ac mae hynny’n her sy’n rhoi gwefr i mi. Rwy’n wastad yn dysgu rhywbeth newydd ac yn datblygu fy sgiliau. 

“Flwyddyn yn ddiweddarach, rwy’n dal i garu’r her o redeg cwmni, yn enwedig wrth i ni edrych tuag at y cam nesaf yn ein datblygiad a thyfu’r tîm yn y dyfodol agos iawn.”

Gall myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr sy’n dymuno dilyn ôl troed entrepreneuraidd Alun ofyn am gymorth gan dîm Menter y Drindod Dewi Sant.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon