Skip page header and navigation

Mae un o raddedigion Fframwaith Arfer Proffesiynol y Drindod Dewi Sant, sy’n cefnogi busnesau i dyfu, wedi cael ei phenodi’n Gadeirydd Gweithredol Menter Mynyddoedd Cambrian lle bydd hi’n hyrwyddo cymunedau a busnesau gwledig Canolbarth Cymru.

Menyw yn wenu at y camera

Mae Helen Gwenllian, a gwblhaodd Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Arfer Proffesiynol yn y Drindod Dewi Sant yn 2018, yn dathlu rôl newydd o fri lle bydd yn llywio’r gwaith o gyflawni prosiectau cymunedol a hyrwyddo busnesau bach annibynnol sydd wedi’u lleoli ym Mynyddoedd Cambrian.

Gyda chefndir fel ymarferydd gwledig ac mewn uwch swyddi, gan gynnwys Cyfarwyddwr Anweithredol Hybu Cig Cymru a Chomisiynydd Seilwaith Cenedlaethol Cymru, mae Helen yn dod â chyfoeth o brofiad ac ymrwymiad dwfn i ddatblygu gwledig yn ei rôl newydd.

Mae ei phrofiad fel prif awdur y maniffesto ‘Gweledigaeth ar gyfer Cymru Wledig’ fel Swyddog Polisi Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ogystal â sylfaenydd Merched Medrus, rhwydwaith sy’n gweithio’n agos gyda’r Drindod Dewi Sant i rymuso menywod mewn busnes yng Ngheredigion drwy ryngweithio rhwng cymheiriaid, yn dangos ymhellach ymrwymiad Helen i gryfhau cymunedau a busnesau gwledig. 

Yn ystod ei hamser yn y Brifysgol, cwblhaodd Helen fodylau mewn Hyfforddi a Mentora, Marchnata Digidol a Dulliau Ymchwil Seiliedig ar Waith, pynciau y dywedodd eu bod wedi bod yn amhrisiadwy wrth ddatblygu ei thwf personol a phroffesiynol.

Meynw yn gorwedd ar y porfa gyda llyfr

Meddai Helen:

“Roedd y darlithwyr yn fy ysbrydoli ac roedd yn wych bod yn rhan o gymuned ddysgu gydag arweinwyr busnes eraill, wrth i mi ddechrau ar fy ngyrfa fel Cyfarwyddwr Anweithredol. 

“Rwy’n ‘weithredwr’ sy’n cael ei yrru gan ganlyniadau, gyda sawl prosiect ar y gweill ar unrhyw un adeg. Gall buddsoddi amser mewn dysgu strwythuredig hirdymor fod yn her i rywun fel fi ond yn sicr mae datblygu arfer adfyfyriol wedi fy helpu i lunio fy arddull arwain.”

Ynglŷn â llwyddiant diweddar Helen, dywedodd Lowri Harris, Uwch Ddarlithydd yn Fframwaith Arfer Proffesiynol y Drindod Dewi Sant:

“Mae grymuso cymunedau a busnesau gwledig yn gofyn nid yn unig am weledigaeth ond hefyd arweinyddiaeth ymroddedig, ac mae penodiad Helen yn Gadeirydd Gweithredol Menter Mynyddoedd Cambrian yn enghraifft o’r ymrwymiad hwn.

“Gyda’i chyfoeth o brofiad a’i hangerdd dwfn dros ddatblygiad gwledig, mae tîm y Fframwaith Ymarfer Proffesiynol yn edrych ymlaen at ddilyn taith Helen i hyrwyddo gwydnwch a ffyniant yn y Canolbarth ac i’w gweld yn ysbrydoli newid cadarnhaol ledled y rhanbarth.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau