Skip page header and navigation

Cynhaliwyd diwrnod o ddathlu Cymreictod yn ddiweddar yng Ngholeg Celf Abertawe sy’n rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyda darlith flynyddol a seremoni wobrwyo arbennig. 

A group shot of winners and participants at the St Davids Day Awards and Lecture

Croesawyd yr artist, ffotograffydd a’r dylunydd Martin Crampin o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru i Abertawe i draddodi’r brif ddarlith gan sôn am ei waith ymchwil i gelfyddyd eglwysig, diwylliant gweledol yr Oesoedd Canol a’r Diwygiad Celtaidd yng Nghymru. 

Mae wedi cyhoeddi cyfrolau am waith gwydr lliw,  ac wedi gweithio ar lawer o brosiectau eraill fel dylunydd a ffotograffydd. Mae ei arfer artistig yn cynnwys gweithiau haniaethol yn bennaf sy’n cysylltu’r gorffennol yn weledol â’r presennol, gan dynnu ar batrymau a delweddau a ddarganfuwyd mewn celfyddydau addurnol canoloesol. Meddai Martin:

“Roedden i’n falch i gael cyfle i gwrdd â myfyrwyr a staff Coleg Celf Abertawe, a chlywed am bwysigrwydd yr Iaith yn y Coleg. Rydw i’n gweithio ar hanes y cwrs gwydr lliw yn y Coleg ar hyn o bryd, ac yn edrych ymlaen at ddatblygu gweithgareddau ymchwil newydd sy’n cysylltu ein gwaith yn y Ganolfan â chydweithwyr yn Abertawe.”

Mae Coleg Celf Abertawe yn falch iawn o’i threftadaeth Gymreig ac roedd y Brifysgol yn awyddus dros ben i ddathlu cyflawniadau’i myfyrwyr celf a dylunio - nifer ohonyn nhw’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg - yn ystod digwyddiad blynyddol yn enw nawddsant Cymru.

Un o’r trefnwyr oedd Gwenllian Beynon, Cydlynydd y Gymraeg o fewn Coleg Celf Abertawe sy’n credu’n gryf bod Gŵyl Ddewi yn cynnig cyfle da iawn i fyfyrwyr a staff y Brifysgol i ddathlu’r Gymraeg a threftadaeth Cymru mewn cyd-destun celfyddydol.

“Mae dathlu’r Gymraeg gyda gwobrau a darlith Dydd Gŵyl Dewi yma yng Ngholeg Celf Abertawe yn ddigwyddiad cyffrous iawn ac yn hyfryd gallu darparu gwobrau i fyfyrwyr a staff am eu hymwneud â’r Gymraeg yn eu hastudiaethau a’u gwaith. Roedd darlith Martin Crampin yn addysgiadol dros ben ac roeddwn wedi fy syfrdanu i ddysgu am gymaint o ffenestri gwydr lliw gyda Dewi Sant ynddyn nhw.”

An image of Martin Cramping and Gwenllian Beynon next to a pop up advertising the St Davids Day lecture and awards event

Mae’r gwobrau Celf a Dylunio bellach yn rhan bwysig o ddathliadau Gŵyl Ddewi’r Brifysgol ac yn gyfle gwych i ddathlu cyflawniadau’r rheiny sydd yn astudio neu’n dysgu o fewn y Coleg Celf gan nodi’u hymrwymiad i’r iaith Gymraeg neu ddiwylliant Cymru drwy eu gwaith celf. 

Un o’r enillwyr eleni oedd Caryl Bulman, Myfyrwraig o’r cwrs BA Patrwm Arwyneb. Dywedodd: 

“Mae’n fraint i mi fod yn ddwyieithog, gyda’r gallu i gyfathrebu, gweithio a chymdeithasu yn y Gymraeg.  Rwyf wedi mwynhau fod yn fyfyriwr sydd yn gallu siarad Cymraeg yn y brifysgol gan fy mod wedi cyflawni llawer gyda’r sgil yma. Gwelwn fod hyn yn agor llawer iawn o ddrysau i gyfleoedd newydd a ddylwn fod yn ddiolchgar am bob cyfle sydd yn cael ei gynnig i ni.  Mae’n holl bwysig cadw’r iaith yn fyw.”

Ychwanegodd Jessica Pritchard, myfyrwraig o’r cwrs Dylunio Graffeg: 

“Mae defnyddio’r Gymraeg fel dylunydd graffeg yn ddull pwerus a chreadigol o gadw’r iaith yn fyw! Mae tyfu i fyny yn canu, darllen a chymryd rhan mewn gwahanol draddodiadau Cymreig wedi helpu i siapio pwy ydw i. A phwy ydw i sy’n siapio fy ngwaith.”

I Daniel Lewis, myfyriwr o’r cwrs Celf Gain:

“Mae’r defnydd o’r iaith a diwylliant Gymraeg yn fy ngwaith celf wedi caniatáu i mi i deimlo mwy o gysylltwch gyda threftadaeth fy hun, ac mewn ffordd wedi creu perthynas mwy personol i waith fy hun. Mae’r integreiddiad o Gymreictod yn fy ngwaith wedi agor sgyrsiau gyda siaradwyr Cymraeg a di-gymraeg fel ei gilydd i drafod ac i ddysgu profiad Cymraeg.”

Yn ogystal, gwobrwywyd darlithwyr a chyfarwyddwyr rhaglenni am eu cefnogaeth a’u hanogaeth i fyfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cafodd Katherine Clewett, darlithydd o’r Cwrs Sylfaen ei gwobrwyo am fod hanner y myfyrwyr ar y cwrs naill nai’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n gwneud eu gwaith ar Gymreictod. Dywedodd: 

“Mae myfyrwyr sy’n astudio ar y cwrs Celf a Dylunio Sylfaen yng Ngholeg Celf Abertawe wrth eu bodd â’r cyfle i ymgysylltu a gweithio gyda diwylliant Cymru fel rhan o’u hymarfer a’u hastudiaethau.”

 Meddai’r darlithydd Darlunio a Dylunio Graffeg, Catrin Bradley:

“Yr wyf yn gwerthfawrogi’n fawr iawn y cyfleoedd i gydweithio gyda darlithwyr a myfyrwyr mewn gweithgareddau cyfrwng Cymraeg yma yng Ngholeg Celf Abertawe. Mae cael y cyfle i ddatblygu ac ehangu fy nefnydd o’r iaith a hyrwyddo ein diwylliant a chymuned Cymraeg yn bwysig iawn i mi.”

Ychwanegodd y darlithydd Technoleg Cerdd, David Bird: 

“Mae archwilio’r Gymraeg yn y brifysgol yn bwysig gan ei fod yn meithrin cysylltiadau diwylliannol ac yn cryfhau hunaniaeth. Mae meistrolaeth ar y Gymraeg yn cyflwyno manteision cyflogaeth i fyfyrwyr, yn enwedig yng Nghymru lle mae galw am sgiliau dwyieithog. I’m myfyrwyr Technoleg Cerddoriaeth Greadigol, mae rhuglder yn agor llawer o lwybrau cyflogaeth, yn enwedig yn y cyfryngau, adloniant ac addysg a all gyfoethogi eu rhagolygon gyrfa.”

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Coleg Celf Abertawe, Y Drindod Dewi Sant:

 “Roeddem yn falch iawn o groesawu Martin Crampin i draddodi ein darlith Dydd Gŵyl Dewi flynyddol a chyflwyno ein gwobrau. Roedd darlith Martin ar ddarlunio Dewi Sant drwy wydr lliw yng Nghymru yn hynod ddiddorol, mae ganddo wybodaeth mor eithriadol. Gwnaed hyn hyd yn oed yn fwy arbennig gan y ffaith fod Martin yn cyflwyno hyn drwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl dysgu’r iaith fel oedolyn. Roedd ein gwobrau yn dathlu staff a myfyrwyr sydd wedi dangos ymrwymiad eithriadol i ddwyieithrwydd, rydym yn falch iawn ohonyn nhw i gyd”.

A photo of the Awards - ceramic cream and golden jugs placed on a table with daffodils in the foreground

Llongyfarchiadau i’r unigolion isod wnaeth dderbyn gwobr yn y seremoni wobrwyo: 

Staff

Catrin Bradley              

David Bird         

Caitlin Littlejohns        

Claire Savage 

Kath Clewett   

Myfyrwyr

CARYL BULMAN, BA Patrwm Arwyneb       

NIAMH MORGAN, BA Patrwm Arwyneb         

CHLOE BOOTON, BA Darlunio         

NIA HOPKINS, BA Darlunio 

JESSICA PRITCHARD, BA, Dylunio Graffeg            

GARAN BEVAN BA, Technoleg Cerdd             

TOMOS JAMES    BA, Technoleg Cerdd         

RHYS PRICE    BA, Technoleg Cerdd

DANIEL LEWIS, BA Celf Gain         


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon