Skip page header and navigation

Wrth ddychwelyd i fyd addysg ar ôl 25 mlynedd a magu teulu, gwelodd Umbereen Naeem gyfle a chydio ynddo â’i dwy law. 

Umbereen Naeem gyda’i chap a gŵn graddio yn gwenu at y camera a braich dyn o amgylch ei hysgwyddau.

“Bellach a’r plant wedi tyfu i fyny, rwy wedi cael y cyfle i ddilyn fy awch am waith cymdeithasol,” meddai. “Mae astudio yn gyfle i dyfu’n bersonol, i gael cyfleoedd gyrfa, sicrwydd swydd a chael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.

“Rwy am helpu eraill a gwneud gwahaniaeth a dyna pam, pan weles i’r cwrs Sgiliau ar gyfer y Gweithle mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Y Drindod Dewi Sant, ces i fy nenu ato ar unwaith.

“Fe wnes i ffrindiau da o’r dechrau, ac roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus yn yr amgylchedd croesawgar. Ces i gymorth gan ddarlithwyr a staff a dysgu sgiliau ymarferol, gan wella fy hyder yn y broses.

Umbereen Naeem yn gwenu at y camera ac yn wisgo cap a gŵn ar gyfer ei graddio.

“Un uchafbwynt oedd dod yn gynrychiolydd y cwrs a bod yn llefarydd, gan helpu i ddatrys problemau. Bu digon o gyfleoedd i symud ymlaen, ac rwyf wedi ymgymryd â sawl rôl gwirfoddoli gan gynnwys mewn canolfan cymorth i deuluoedd, Addysgu Iaith Saesneg ac ar gwrs gofal domestig.

“Yn gyffredinol, byddwn i’n argymell y cwrs hwn i eraill oherwydd lefel y cymorth a’r hwb a ddarparwyd. Mae’r cwrs eisoes wedi fy helpu i’n broffesiynol ac yn bersonol, a’m cynlluniau erbyn hyn yw gweithio gyda phlant sydd â phroblemau ymddygiad mewn amgylchedd ysgol.”


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau