Skip page header and navigation

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Gwersyll Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) y llynedd, mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ein Gwersyll Chwaraeon Pasg yn dychwelyd.

Young boy about to throw a ball in the UWTSD Sports Centre in Carmarthen

Wedi’i gynllunio i ddarparu profiad cyfoethog i blant yn y gymuned leol, yn ogystal â theuluoedd staff a myfyrwyr, mae’r Gwersyll Chwaraeon yn cynnig cyfuniad perffaith o weithgareddau hwyliog ac ymarferion meithrin sgiliau.

Wedi’i drefnu i’w gynnal yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol ar Gampws Caerfyrddin a Chanolfan Cynefin ar gyfer Addysg Antur Awyr Agored yn Nhre Ioan, mae Gwersyll Chwaraeon y Pasg yn addo anturiaethau cyffrous ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, Mawrth 26 a 27, ac Ebrill 2 a 3. Yn ogystal, cynhelir Gwersyll Cynefin ar ddydd Iau, Mawrth 28ain, a dydd Iau, Ebrill 4ydd. Rhwng 9 am a 4 pm, gall cyfranogwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gyda’r nod o wella eu sgiliau personol, cymdeithasol ac athletaidd. Er hwylustod ychwanegol, mae opsiwn gollwng am 8:30yb ar gael ar gais.

Wedi’u harwain gan ddarlithwyr profiadol a’u cefnogi gan fyfyrwyr brwdfrydig, mae’r sesiynau’n addo cyfuniad o ddysgu a hwyl. “Rydym wrth ein bodd I gael y cyfle i adeiladu ar lwyddiant Gwersylloedd Chwaraeon yr Haf a mis Hydref y llynedd,” meddai Bryn Jones, Cydlynydd Gwersylloedd Chwaraeon yn Y Drindod Dewi Sant. “Mae’r gwersylloedd hyn yn cynnig cyfle gwych i blant lleol ddefnyddio ein cyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf tra bod ein myfyrwyr yn cael profiad gwerthfawr o weithio mewn amgylchedd y maent yn angerddol amdano. Nid yw’n ymwneud â chadw’n heini yn ystod y gwyliau yn unig; mae’n ymwneud â meithrin datblygiad cyfannol.”

Yn unol â’i hymrwymiad i hygyrchedd, mae’r brifysgol wedi prisio’r Gwersyll Chwaraeon ar £25 y diwrnod neu £40 am ddau ddiwrnod. Mae’n ofynnol i gyfranogwyr ddod â phecyn cinio a diodydd.

I weld y rhestr lawn o wersylloedd a sicrhau lle, gall y rhai hynny sydd â diddordeb lawrlwytho ap CHWARAEON CAERFYRDDIN PCYDDS, cofrestru, a llywio i’r adran cyrsiau. Am ymholiadau pellach, cysylltwch â Chydlynydd Gwersylloedd Chwaraeon Bryn Jones yn d.b.jones@uwtsd.ac.uk

Poster yn cynnwys holl wybodaeth gwesylloedd chwaraeon y Drindod Dewi Sant dros y Pasg

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau