Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan o ymgyrch Prifysgolion Cymru sy’n galw ar bobl i rannu sut mae mynd i’r brifysgol wedi newid eu bywyd.  Mae Trawsnewid Bywydau, a lansiwyd heddiw, yn rhannu straeon ysbrydoledig am raddedigion prifysgol y mae eu bywydau wedi’u newid yn sylweddol yn sgil eu taith addysgol.

Rebecca Davies, graduate of the MDes in Surface Pattern and Textiles

Gall astudio yn y brifysgol fod ymhlith y profiadau mwyaf pleserus a gwerth chweil ym mywyd person, gyda manteision o ran datblygu sgiliau, meithrin gwybodaeth, ffurfio cyfeillgarwch newydd, a byw’n annibynnol. Mae gradd o brifysgol yn y DU hefyd yn parhau i roi hwb sylweddol i gyflog, lefelau cyflogaeth a rhagolygon gyrfa graddedigion gydol eu hoes.

Fodd bynnag, y tu ôl i’r ystadegau mae pobl go iawn y mae eu bywydau wedi newid er gwell o ganlyniad i fynd i’r brifysgol. A’r bobl hyn y mae Prifysgolion Cymru am roi sylw penodol iddyn nhw, gan rannu straeon am raddedigion sydd wedi goresgyn heriau, wedi darganfod eu hangerdd, ac wedi dod o hyd i’r hyder i gyflawni eu potensial. 

Mae dwy o gynfyfyrwyr y Brifysgol yn rhan o’r ymgyrch:  Rebecca Davies ac Elisha Hughes, y ddwy ohonynt wedi graddio o Goleg Celf Abertawe. 

Stori Rebecca

Graddiodd Rebecca, y gyntaf o’i theulu i fynd i addysg uwch, o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyda MDes mewn Patrymau Arwyneb a Thecstilau. Trwy’r brifysgol fe sicrhaodd interniaeth â thâl gyda Rolls-Royce fel rhan o dîm dylunio unigryw’r cwmni, a arweiniodd yn y pen draw at ei rôl bresennol fel Dylunydd Arbenigol gyda’r cwmni. Mae Rebecca yn canmol y brifysgol am ei galluogi i ddilyn gyrfa greadigol.

“Cynigiodd y brifysgol ystod eang o wahanol gyfleoedd a newidiodd fy llwybr gyrfa yn llwyr”.

Stori Elisha

Graddiodd Elisha Hughes mewn Celfyddyd Gain ac mae bellach yn gweithio o fewn tîm Ehangu Mynediad y Brifysgol lle mae’n defnyddio ei sgiliau creadigol i ysbrydoli eraill i ystyried addysg uwch. Mae Elisha yn eiriolwr dros adeiladu partneriaethau gyda chymunedau lleol i symbylu newid cadarnhaol. Fel rhan o dîm Ehangu Mynediad PCYDDS mae’n awyddus i ddatblygu cysylltiadau â sefydliadau a busnesau i gynnig mwy o gyfleoedd i’r cymunedau hynny.

“Roedd mynd i’r brifysgol wedi rhoi cyfleoedd i mi na fyddwn i erioed wedi’u dychmygu. Roeddwn yn gallu dysgu ar lefel arall, gwella fy set sgiliau ac ochr yn ochr â hyn newidiodd fy mywyd. Rwy’n angerddol y gall prifysgol fod yn gwbl addas i unrhyw un. Crëwyd llwybr yr eiliad y dechreuais fy ngradd a byddaf yn parhau i fynd ar drywydd fy uchelgeisiau lle bynnag y bydd hynny’n mynd â mi nawr.”

Mae’r Athro Paul Boyle, Cadeirydd Prifysgolion Cymru, yn esbonio pam mae’r ymgyrch mor bwysig:

“Mae Cymru’n wynebu heriau sylweddol o ran cyfranogiad, gyda llai o bobl ifanc 18 oed o Gymru yn dewis gwneud cais i brifysgol nag ar unrhyw adeg yn y degawd diwethaf. Mae dadansoddi annibynnol yn rhagweld y bydd Cymru angen 400,000 o raddedigion ychwanegol erbyn 2035, ac eto mae posibilrwydd gwirioneddol y bydd gennym garfannau o bobl ifanc â llai o gymwysterau na’u rhagflaenwyr uniongyrchol.

“Mae felly’n bwysicach nag erioed ein bod yn dathlu’r holl fanteision – personol a phroffesiynol – y gall mynd i brifysgol eu cynnig i unigolion.

“Mae’r penderfyniad i ddilyn addysg uwch yn fwy na dewis academaidd; mae’n llwybr sy’n newid bywyd ac yn agor drysau; mae’n ehangu gorwelion, ac yn rhoi’r pŵer i unigolion gyrraedd eu llawn botensial.

“Mae’r ymgyrch Trawsnewid Bywydau yn rhoi cyfle gwych i ni dynnu sylw at rai o’r unigolion ysbrydoledig hyn, a’n gobaith yw y bydd pobl, yn eu tro, yn cael eu cymell i rannu eu straeon eu hunain am sut mae’r brifysgol wedi trawsnewid eu bywydau.”

Elisha Hughes, UWTSD's Widening Access Team Member

Ymunwch â’r ymgyrch

Mae Prifysgolion Cymru yn gwahodd graddedigion, myfyrwyr, ac unrhyw un sydd wedi profi grym trawsnewidiol addysg uwch i ymuno â’r ymgyrch. 

Rhannwch eich taith bersonol, eich llwyddiannau, a’r eiliadau sydd wedi siapio eich bywyd. Efallai nad oeddech chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n mynd i’r brifysgol, neu efallai bod eich bywyd wedi mynd i gyfeiriad hollol annisgwyl oherwydd eich amser yn y brifysgol a’r cyfleoedd a ddaeth yn sgil hynny. Gall fod trwy’r cysylltiadau a wnaethoch, yr anogaeth a gawsoch, y pynciau a astudiwyd gennych, neu’r drysau gyrfa a agorwyd i chi. Rhannwch eich stori yma.

DIWEDD

Nodiadau

  • Gall pobl gyflwyno eu straeon trwy ffurflen ar-lein.
  • Gellir dod o hyd i fwy o astudiaethau achos Trawsnewid Bywydau ar wefan Prifysgolion Cymru o ddydd Mawrth 26 Mawrth, ac isod. 
  • Mae delweddau eglur a manylion ychwanegol am yr ymgyrch ar gael ar gais.
  • Mae Prifysgolion Cymru yn gorff aelodaeth sy’n cynrychioli buddiannau’r naw prifysgol sydd yng Nghymru. Rydym yn datblygu polisi addysg uwch, yn ymgysylltu â gwleidyddion a rhanddeiliaid, ac yn ymgyrchu ar faterion ble mae gan ein haelodau fuddiannau a rennir. www.uniswales.ac.uk

Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau