Skip page header and navigation

Daeth Madiha Hassan i’r DU o Bacistan ar gyfer ei haddysg ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Birmingham. Ond nid oedd ei thaith yn un hwylus…

Madiha Hassan yn gwisgo cap a gŵn ar ei diwrnod graddio.

“Dechreuais o’r dechrau,” meddai. “Gadewais Bacistan a dod i’r brifysgol i brofi y gall merched a menywod o’m gwlad i gyflawni mwy na’r hyn maen nhw’n cael eu harwain i gredu, bod mwy o bwrpas mewn bywyd na chael teulu yn unig.”

“Dywedai pobl yn fy ngorffennol mai fy rôl i yn syml oedd cael plant a hawlio arian. Roedd hyn bob amser yn gwneud i’m gwaed ferwi.

“Felly gwnes rywbeth am y peth. Trefnais i sefyll arholiad a fyddai’n fy nghael i mewn i’r brifysgol, ac fe ges i fy nerbyn.”

Ond fel y digwyddodd pethau, cyrraedd y DU oedd y rhan hawdd.

Ychwanegodd Madiha: “Ar ddechrau fy amser yn y Drindod Dewi Sant, collais i fy nghartref. Roedd gen i dri o blant, roeddwn wedi torri fy nghalon a heb do uwch fy mhen, felly yn naturiol effeithiodd hynny ar fy iechyd meddwl.

“Gwnaeth rhai o’r modylau ar y cwrs fy helpu gyda hynny – i ddeall fy hun ychydig yn well a lleddfu’r straen meddyliol ychydig drwy ddysgu amdano.  

“Ond roedd fy nod yn dal losgi y tu mewn i mi fel tân, felly gwnes i ddal ati. Roedd yn rhaid i mi ddod yn rhywbeth, i ysbrydoli fy merched a llawer o fenywod fel fi, a dangos iddynt beth allan nhw ei gyflawni er gwaethaf pob disgwyl.”

Madiha Hassan yn llawn balchder mewn cap a gŵn gyda’i thri phlentyn, pob un ohonynt yn gwenu, wrth ddathlu ei chyflawniad ar ddiwrnod graddio.

Ymhen rhai blynyddoedd, ac er gwaethaf pob disgwyl, fe lwyddodd Madiha. A hithau bellach wedi graddio â gradd Baglor yn y Gwyddorau, dyfarnwyd gradd Dosbarth Cyntaf iddi a roddodd iddi “deimlad braf ”.

Bellach, mae Madiha yn edrych i’r dyfodol: “Dwi’n anelu at radd Meistr, ond mae’n broses cam wrth gam, felly dwi’n falch fy mod i wedi meithrin y sgiliau ymarferol i ddod â mi’n agosach at y nod hwn.

“Dwi’n ddiolchgar i Dduw sydd wedi rhoi nerth i mi, ac i’r Brifysgol a’m Darlithwyr sydd wedi fy helpu trwy amser caled, gan gynnig y gefnogaeth yr oeddwn i ei hangen i gyflawni’r hyn roeddwn wedi breuddwydio amdano erioed.

“Dwi’n argymell y Drindod Dewi Sant 100% i bawb! Maen nhw wedi fy nghynorthwyo i, wedi gwella fy sgiliau ac wedi hybu fy hyder.

“Mae’r Brifysgol wedi fy newid i’n llwyr – mae merch nad oedd, ar un adeg, yn gallu siarad â dieithriaid, nawr yn gallu rhoi cyflwyniadau cyfan ar ei phen ei hun. Diolch y Drindod Dewi Sant.”


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau