Skip page header and navigation

Ar ôl i’r gwaith o fagu teulu wthio ei dyheadau gyrfa ei hun i’r naill ochr, dyma Jamilla, a oedd yn fam amser llawn i 3 o blant, yn ailgydio mewn addysg i osod esiampl i’w phlant, er ei bod hi’n brwydro â rhwystrau iechyd.

Jamilla, yn ei gŵn a chap graddio, yn gwenu at y camera.

I lawer o bobl, gall y gwaith o fod yn fam a bywyd teuluol gymryd drosodd, gan adael braidd dim amser i ganolbwyntio ar nodau gyrfa unigol. Tan 2020, roedd Jamilla Robinson yn un o’r bobl hynny.

“Wnes i erioed feddwl am fynd i’r brifysgol ar ôl i mi adael y coleg oherwydd dechreuais i weithio ar unwaith ac wedyn dyma fi’n dechrau teulu,” meddai Jamilla.

“Yn ddiweddar fodd bynnag, ers i’m plant fod yn hŷn, roeddwn i am wneud rhywbeth drosof fi fy hun. Roeddwn i eisiau profi i mi fy hun y gallwn i fynd i’r brifysgol i adeiladu ar fy ngwybodaeth, ac nad dim ond mam oeddwn i.”

Gyda’r nod o ymuno â’r sector iechyd meddwl, cofrestrodd Jamilla ar radd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Y Drindod Dewi Sant Birmingham. Ond hanner ffordd drwy ei chwrs, cafodd ddiagnosis o gyflwr corfforol heriol a oedd yn bygwth ei gallu i astudio.

“Ces i ddiagnosis o Glefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) ychydig cyn dechrau lefel pump. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n gallu parhau â’m hastudiaethau, gan fod y clefyd hwn yn eich gwneud chi’n sâl iawn ar brydiau ac roeddwn i’n hunanymwybodol o’m peswch, a all fynd yn wael iawn.

Jamilla yn gwenu gyda dyn a menyw wrth ei hochr.

“Gwnaeth fy niagnosis fi’n nerfus, ond fel y mae’n digwydd, doedd dim angen i mi boeni, gan fod y tîm anabledd yn y brifysgol yn anhygoel ac wedi rhoi cymaint o gymorth a gwybodaeth i mi. Mae’n dal i fod yn frwydr gyda fy COPD rai dyddiau, ond mae’n gymaint o ryddhad gwybod bod gen i help a chymorth gan Y Drindod Dewi Sant, gan ganiatáu imi barhau â’m taith drwy addysg.”

Mwynhaodd Jamilla bob agwedd ar y cwrs, ond cymerodd ddiddordeb arbennig yn y modwl Ffisioleg a fu’n gymorth iddi ymdrin â’i chyflwr iechyd ei hun, yn ogystal â helpu eraill mewn gyrfa nad oedd hi erioed wedi meddwl y byddai’n gallu ei chyrraedd.

“Cafodd y cwrs effaith fawr ar fagu fy hyder ynof fi fy hun a’r hyn rwy’n gallu ei wneud. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai gen i ddyfodol proffesiynol, ond mae wedi dangos i mi fod gen i un a fy mod i’n gallu gwneud.

“Fi yw’r cyntaf yn fy nheulu i fynd i’r brifysgol, a nawr mae fy mab wedi dilyn ôl fy nhraed sy’n destun balchder mawr i mi. Mae’n brawf mai fy mhenderfyniad i gofrestru oedd yr un iawn, nid yn unig i mi fy hun ond hefyd i’m plant a’r rhai o’m cwmpas.”


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau