Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Phrifysgol Ajeenkya D Y Patil (ADYPU) yn India wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i gyfnewid arbenigedd ym maes technoleg a systemau gofal iechyd

Avinash Kumar, Pennaeth Busnes ADYPU Nuovos, yr Athro Wendy Dearing, Deon y Sefydliad Iechyd a Rheolaeth, PCYDDS, Dr Philip Scott; Cyfarwyddwr Rhaglen, MSc Sgiliau Digidol ar gyfer Proffesiynau Iechyd a Gofal PCYDDS a Dr Aiswarya Dash (Athro Cyswllt, Ysgol Beirianneg ADYPU).

Llun: Llun: Avinash Kumar Pennaeth Busnes ADYPU Nuovos, yr Athro Wendy Dearing, Deon y Sefydliad Iechyd a Rheolaeth, PCYDDS, Dr Philip Scott; Cyfarwyddwr Rhaglen, MSc Sgiliau Digidol ar gyfer Proffesiynau Iechyd a Gofal PCYDDS a Dr Aiswarya Dash (Athro Cyswllt, Ysgol Beirianneg ADYPU).
Bydd y bartneriaeth rhwng y prifysgolion yn arwain at gyflwyno rhaglenni technoleg iechyd ôl-raddedig yn ADYPU gyda’r nod o greu gweithwyr technoleg iechyd proffesiynol i gyfrannu tuag at ddarparu gofal iechyd cost-effeithiol yn India.

Mae arbenigedd Sefydliad Arloesi Digidol Cymru (WIDI), a ddatblygwyd gan PCYDDS ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn ganolog i’r bartneriaeth. Ymhlith y meysydd sy’n cael eu harchwilio ar hyn o bryd y mae ymchwil ac arloesi, cyfnewid staff a myfyrwyr, yn ogystal â datblygu proffesiynol.

Mae PCYDDS ac ADYPU yn datblygu rhaglen feistr mewn Iechyd ac Arloesi Digidol (gradd meistr mewn technoleg) wedi’i hanelu at raddedigion peirianneg sydd am archwilio atebion technolegol i ofal iechyd. Yn ogystal, mae’r prifysgolion yn cydweithio ar raglen MBA wedi’i hanelu at weithwyr gofal iechyd proffesiynol a fydd yn defnyddio technoleg i wneud penderfyniadau sy’n canolbwyntio mwy ar ddata mewn sefydliadau gofal iechyd ledled y byd.

Bydd y ddwy brifysgol yn gweithio gyda myfyrwyr i’w helpu i ddod yn fwy cymwys i ymgymryd â phroblemau yn y byd go iawn yn ogystal â phrosiectau ymchwil pwysig. Gall myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni gofal iechyd digidol gyrchu llu o adnoddau a gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol y diwydiant ar draws y byd. Mae academyddion PCYDDS hefyd yn cyflwyno rhaglenni i fyfyrwyr yn India.

Fe wnaeth yr Athro Wendy Dearing, Deon Athrofa Rheolaeth ac Iechyd PCYDDS ac un o sylfaenwyr WIDI, a Dr Philip Scott, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer yr MSc mewn Sgiliau Digidol ar gyfer y Proffesiynau Iechyd a Gofal, ymweld ag ADYPU a chwrdd â’r Is-Ganghellor, yr Athro Hrridaysh Deshpande. Bu’r trafodaethau’n canolbwyntio ar ddatblygiadau mewn gofal iechyd digidol, technolegau newydd a’u defnydd yn India a’r DU, yn ogystal â datblygiad y portffolio iechyd ac arloesi digidol.

Meddai’r Athro Hrridaysh Deshpande, Is-Ganghellor ADYPU: “Rydym yn hynod falch o arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sydd wedi’i lleoli yn y DU. Nod ADYPU yw cyfrannu at y gwaith o greu cymdeithas yn India sy’n canolbwyntio ar arloesi, trwy ddatblygu partneriaethau rhyngwladol newydd â sefydliadau academaidd mewn modd detholus gyda’r nod o godi proffil rhyngwladol y Brifysgol. Credwn y bydd deialog aml-ddimensiwn o fewn y rhwydwaith byd-eang yn ein galluogi i gael mwy o effaith trwy gydweithredu rhyngwladol, defnyddio synergedd yn well a chynyddu gwelededd y brifysgol. Mae’r ffocws ar bartneriaethau cydfuddiannol sy’n manteisio ar gryfderau sefydliadol unigol, sy’n rhoi gwerth i’n myfyrwyr, ac sy’n ddichonadwy’n ariannol ac yn gynaliadwy dros gyfnod hir.

“Mae ADYPU yn cydweithio â PCYDDS er mwyn datrys problemau gwyddonol a chlinigol trwy greu darganfyddiadau chwyldroadol a throsglwyddo’r datblygiadau hynny’n gymwysiadau ymarferol yn gyflym. Er mwyn cyflwyno atebion i’r byd, nod y cydweithrediad yw meithrin timau cryf o wyddonwyr a pheirianwyr arloesol gydag ysbryd entrepreneuraidd. Mae cynorthwyo ag anghenion technegol, systemau, a seilwaith y rhaglenni Technoleg Iechyd ac Iechyd Digidol yn ADYPU yn sicrhau bod ehangder y datblygiadau arloesol sy’n bwysig i ofal iechyd digidol yn cael eu cyflawni i’r radd eithaf bosibl.”

Mae PCYDDS, trwy Sefydliad Arloesi Digidol Cymru (WIDI), wedi creu sefydliad arloesol a chynaliadwy sy’n gallu symud yn ddidrafferth rhwng meysydd ymchwil, arloesi cynnyrch a gwasanaethau. Trwy weithio ym Mhartneriaeth WIDI, mae gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru a PCYDDS y wybodaeth a’r arbenigedd i wella datblygiad gweithlu digidol mewn iechyd, gofal ac arloesi er mwyn sefydlu prosiectau ymchwil data meddygol.

Dywedodd yr Athro Wendy Dearing: “Mae PCYDDS yn falch iawn o ymuno ag ADYPU ar faes hollbwysig arloesi iechyd. Un o’r amcanion yn Sefydliad Arloesi Digidol Cymru (WIDI) yw lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i roi ymchwil sy’n torri tir newydd ar waith. Mae WIDI’n datrys y problemau mwyaf enbyd trwy bartneru â sefydliadau sydd â dealltwriaeth fanwl o’r diwydiant technoleg iechyd, technoleg sydd ar flaen y gad, ac ymwybyddiaeth dda o arferion cynaliadwy.

“Yn ogystal, mae gan PCYDDS brofiad helaeth mewn cyflwyno rhaglenni ôl-raddedig â phartneriaid rhyngwladol a gobeithiwn y bydd y bartneriaeth hon yn mynd o nerth i nerth ac yn cynnwys meysydd eraill o ddiddordeb cyffredin yn ein portffolios academaidd.”

Rhannodd Rashi Jain, Cyfarwyddwr Gorllewin India yn y British Council, y canlynol: “Mae addysg yn biler allweddol sy’n cefnogi clymau rhwng India a’r DU. Yn y British Council, ein nod yw hyrwyddo synergedd cadarn rhwng prifysgolion yn ein dwy wlad, sy’n cyd-fynd â gweledigaeth Map Trywydd 2030. Mae hon yn bartneriaeth unigryw a blaengar a fydd yn agor cyfleoedd i fyfyrwyr; llongyfarchiadau mawr i’r ddwy brifysgol.”

Llun o staff a myfyrwyr ADYPU a’r Athro Wendy Dearing a Dr Philip Scott

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau