Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi croesawu cadeirydd McLaren Applied, Nick Fry, i gampws SA1 y Brifysgol i roi cipolwg gwerthfawr ar ddiwydiant Fformwla 1 i fyfyrwyr chwaraeon moduro.

Nick Fry is pictured in the University's IQ building sitting on a motor vehicle which is being worked on.
The University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) has welcomed McLaren Applied chairman Nick Fry to the University’s SA1 campus to provide valuable insights into the Formula 1 industry to motorsport students.

Drwy’i anerchiad rhoddodd Nick, a raddiodd o Brifysgol Cymru, safbwyntiau a gwersi am y byd go iawn ac ysbrydoliaeth i fyfyrwyr, gan eu helpu i ddeall y cymhlethdodau a’r cyfleoedd o fewn Fformwla 1. Hefyd cafodd ef daith o gwmpas y cyfleusterau o’r radd flaenaf yn ein hadeilad IQ.

Gan dynnu ar ei brofiadau, trafododd Nick y gwytnwch sydd ei angen i ymdrin â’r pwysau niferus a geir yn y diwydiant chwaraeon moduro a’r cymhelliad a’r pendantrwydd y mae eu hangen i lwyddo ar y lefel uchaf. 

Gan annerch y myfyrwyr meddai: “I symud ymlaen mae angen i chi wthio tu hwnt i feysydd yr hyn sy’n ‘hysbys’ i rywle lle mae gennych chi’r perfformiad go iawn.  Mynnwch gael y bobl orau o’ch cwmpas, y tîm gorau gan sicrhau amcanion eglur a chyfathrebu effeithiol.  Mae hefyd yn ymwneud â deall nad ennill neu golli a wnewch chi – rydych chi’n ennill, neu rydych chi’n dysgu.  Y peth pwysicaf yw beth wnaethom ni ei ddysgu drwy hyn a beth fyddwn ni’n ei wneud y tro nesaf er mwyn osgoi cael hyn yn digwydd eto.  Hefyd rhaid iddo fod yn hwyl am mai hwn fydd eich bywyd chi.”

Ymunodd Nick â McLaren Applied yn Gadeirydd Anweithredol ym mis Medi 2021. Ac yntau’n Gadeirydd, tasg Nick yw arwain twf parhaus McLaren mewn marchnadoedd allweddol, yn cynnwys peirianneg chwaraeon moduro a modurol, a deallusrwydd cysylltiedig. 

Wrth ochr ei rôl ym McLaren Applied, Nick oedd sylfaenydd Stonehaven Partners sy’n darparu cyngor masnachol a gwasanaethau ymgynghori ar gyfer amrywiaeth o sectorau modurol a pherfformiad uchel. 

Cyn ymuno â McLaren, Nick oedd y Prif Swyddog Gweithredol ar gyfer Tîm F1 Mercedes AMG Petronas a bu’n rhan o werthu’r tîm i Daimler a chronfa cyfoeth sofran Abu Dhabi.  Mae hefyd wedi bod yn rolau’r Prif Swyddog Gweinyddol gyda Brawn GP a enillodd Bencampwriaeth Byd y Gyrwyr ac Adeiladwyr F1, Tîm Rasio F1 Honda, a British American Racing.  Cyn F1, Nick oedd Prif Swyddog Gweithredol Tîm Ralïo Byd Subaru a enillodd Bencampwriaeth Ralïo’r Byd ar ddau achlysur. 

Dechreuodd Nick ei yrfa gyda Ford lle cafodd nifer o uwch rolau gweithredol mewn Datblygu Cynnyrch, Marchnata a Gweithgynhyrchu yn ogystal â dod yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn Aston Martin lle bu’n gyfrifol am ddatblygu’r Aston Martin DB7, model a newidiodd ffawd y cwmni. 

Meddai Dr Kerry Tudor, Cyfarwyddwr Academaidd Cynorthwyol (Peirianneg): “Roedd gan ddarlith ddeniadol Nick Fry i’n Myfyrwyr Peirianneg Chwaraeon Moduro israddedig gymysgedd gwerthfawr o ddoethineb a phrofiad, gan gynnig cipolwg ymarferol a fydd yn eu hysbrydoli a’u harwain ar eu taith ym maes deinamig chwaraeon moduro.  Rydym ni’n ddiolchgar iawn i Nick am ei ymweliad a’i gymorth ar gyfer ein Cyfres Datblygiad Proffesiynol.  Wedi llwyddiant y rhaglen ddogfen ddiweddar, roedd ei glywed yn ailadrodd ei safbwynt personol ar stori Brawn GP yn hynod ddiddorol.”

Daeth PCYDDS yn 1af yng Nghymru am Beirianneg Fecanyddol (yn cynnwys Peirianneg Fodurol, Beiciau Modur a Chwaraeon Moduro) yn y Guardian University Guide 2024.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau