PCYDDS yn cystadlu yn Nhreial Pellter Hir Exeter MCC gyda Morgan Plus 4 gan ddefnyddio Tannwyd gwbl gynaliadwy
Gwnaeth tîm o raglen Chwaraeon Moduro Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gwblhau 94ydd Treial Exeter ar Ionawr 6ed gan ddefnyddio tanwydd gwbl gynaliadwy, Coryton Sustain 100, yng nghar Morgan Plus Four Brifysgol.
Dechreuodd y digwyddiad am 3.45am yn Amgueddfa Haynes yn Sparkford, gyda llwybr o 165 milltir, a gorffennodd yn Kingsteignton, Dyfnaint, 12 awr a nifer o brofion arbennig ac adrannau’n ddiweddarach.
Mae PCYDDS yn cynnal nifer o brosiectau israddedig mewn cydweithrediad â Chwmni Modur Morgan a gyfrannodd y car i’r brifysgol i gefnogi prosiectau myfyrwyr. Hwn yw’r Morgan cyntaf gyda phlatfform alwminiwm CX-Generation i gystadlu mewn treial pellter hir MCC, lle mae gan geir chwaraeon Morgan hanes maith, gan gystadlu am y tro cyntaf gyda thîm gwaith yn 1910.
Rhedodd y car y treial llawn ar danwydd 100% cynaliadwy a ddarparwyd gan Coryton na fu’n rhaid addasu pwerwaith B48 BMW y cerbyd ar ei gyfer, ac fe redodd yn ddiwall.
Meddai Tim Tudor, Uwch Ddarlithydd a chyfarwyddwr y rhaglen chwaraeon moduro, a gystadlodd yn y car: “Roedd yn wych cael y cyfle i arddangos Morgan Plus Four a defnyddio tanwydd cynaliadwy yn ystod y digwyddiad chwaraeon moduro hanesyddol hwn, un lle mae gan Morgan hanes maith.
“Roedd y car yn gyfforddus, a gwnaethom orffen heb unrhyw broblemau, er ni chawsom wobr am i ni fethu adran.”
Y flwyddyn academaidd hon mae rhaglen Radd BEng Peirianneg Chwaraeon Moduro ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu 25 mlynedd. Roedd hi’n arloesol ar y pryd, a’r gyntaf o’i bath yn y byd.
Drwy weledigaeth Roger Dowden, ac arweiniad gan Gymdeithas y Diwydiant Chwaraeon Moduro, mae’r cwrs wedi gwneud graddedigion yn asedau gwerthfawr ym myd cystadleuol peirianneg chwaraeon moduro a pheirianneg fodurol, gyda llawer yn gweithio’n beirianwyr rasys, aerodynamegyddion, dadansoddwyr data neu mewn swyddi rheoli ar gyfer timau rasio.
Mae eraill wedi dod o hyd i gyfleoedd mewn cwmnïau modurol, gan arbenigo mewn datblygu cerbydau perfformiad uchel.
Mae cyn-fyfyrwyr yn gweithio mewn cwmnïau modurol o’r radd flaenaf fel Morgan Motor Company, McLaren, Gordon Murray Automotive, Arc, Bentley, Ford a Toyota Gazoo Racing.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071