Skip page header and navigation

Ar Ddydd Iau, 1af Mehefin 2023 ar stondin Prifysgol Y Drindod Dewi Sant ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin bydd Peniarth, un o brif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysg Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru, sy’n rhan o Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol yn lansio cyfres newydd Mêts Maesllan 2 dan nawdd Llywodraeth Cymru.

Collage o 32 o gloriau llyfrau Mêts Maesllan.

Mae’r gyfres hon, yn dilyn llwyddiant ysgubol Mêts Maesllan a lansiwyd yn 2014. Fel ag yn y gyfres gyntaf, mae’r llyfrau a’r gweithgareddau yn dilyn hynt, helynt a diddordebau yr un criw ffrindiau ym mhentref Maesllan, Mim, Ben, Sam, a Wil sydd nawr yn 11 a 12 oed. Mae 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd amrywiol yn y gyfres sy’n cynnwys rhai ffuglen, ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar 4 lefel fel bo darllenwyr yn medru parhau i ddilyn hynt a helynt y cymeriadau wrth i’w sgiliau ddatblygu.

Crëwyd cyfres wreiddiol Mêts Maesllan i gynorthwyo plant yng Nghyfnod Allweddol 2 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg.  Mae’r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol a phatrymau iaith sy’n seiliedig ar ‘O Gam i Gam’ (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a’r Ffynhonnell Eirfaol’ (Hughes, 1978).  Mae’r llyfrau a’r gweithgareddau yn gwbl addas i ddisgyblion â Dyslecsia, ac mae symlrwydd yr iaith ynddynt yn eu gwneud yn boblogaidd gyda disgyblion y sector cyfrwng Saesneg hefyd.

Mae’r llyfrau yn fyr, rhwng 16 a 28 tudalen i ddenu a chynnal diddordeb y plant hynny sydd efallai yn amharod i ddarllen. Ceir gwefan arbennig sy’n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau’r eirfa a’r patrymau iaith a gyflwynir.

Dywedodd Nerine Jones, Swyddog Datblygu’r Gymraeg gyda Chyngor Dinas a Sir Abertawe,

“Mae’n hyfryd gweld adnoddau darllen newydd a deniadol sy’n ddigon syml eu hiaith i ddysgwyr y sector cyfrwng Saesneg, ond sydd hefyd yn aeddfed eu dyluniad, i apelio at blant hŷn ar ddiwedd eu cyfnod cynradd a dechrau’r uwchradd. Mae’r adnoddau sy’n cyd-fynd â’r gyfres yn wych, ac yn datblygu sgiliau ysgrifennu’r dysgwyr yn ogystal.”

Dywedodd Nana Ryder, un o awduron y gyfres ac Uwch Ddarlithydd Addysg yng Nghanolfan Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant,

“Yn dilyn poblogrwydd y gyfres gyntaf, rydyn ni fel tîm awduro yn hynod o falch i weld cyhoeddi ail gyfres Mêts Maesllan. Diolch i Ganolfan Peniarth am roi’r cyfle i ni unwaith eto i barhau i ddilyn hynt a helynt y pedwar ffrind - Ben, Mim, Sam a Wil trwy gyfres o lyfrau ffuglen a ffeithiol a rhai sy’n pontio’r ddau gyfrwng. Mae’r diwyg cynhwysol a’r lefelau iaith yn eu gwneud yn ddeunydd darllen addas i ddysgwyr yng Nghyfnod Allweddol dau a thri yn ogystal ag i’r dysgwyr hynny sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Rydyn ni hefyd wedi cwmpasu themâu ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad o fewn y llyfrau a’r gweithgareddau hyn. Mawr obeithiwn y caiff Mêts Maesllan 2 groeso cynnes gan blant, pobl ifanc, athrawon a theuluoedd ar draws Cymru a thu hwnt”.

Galwch draw yn ystod y dydd i stondin y Brifysgol, rhif 14-19 am sgwrs a phaned a chyfle i bori drwy’r adnoddau newydd.


Gwybodaeth Bellach

Rhian Dafydd


E-bost: r.dafydd@uwtsd.ac.uk     
 

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau