Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o gyhoeddi ei Ffair Yrfaoedd nesaf, a gynhelir dydd Iau, 25 Ebrill yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe.

Woman facing girl smiling

Wedi’i threfnu gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Drindod Dewi Sant, nod y ffair yw meithrin cysylltiadau rhwng myfyrwyr, graddedigion a cholegau sy’n gysylltiedig â’r Drindod Dewi Sant, ac amrywiaeth o gyflogwyr a sefydliadau gwirfoddol. Gan ganolbwyntio’n bennaf ar gyfleoedd gwaith a gwirfoddoli, mae’r ffair wedi’i chynllunio i wella cyflogadwyedd, yn enwedig yn ystod yr haf a thu hwnt.  

Dywedodd Mel Cameron, Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Drindod Dewi Sant: 

“Rydym yn credu’n gryf yng ngwerth profiad gwaith ac yn ymdrechu i ddarparu cyfleoedd personol o ansawdd uchel i’n holl fyfyrwyr. Mae’r sgiliau trosglwyddadwy a geir yn yr amgylcheddau hyn nid yn unig yn gwella rhagolygon ond hefyd yn grymuso unigolion i roi cynnig ar bethau newydd a chyrraedd eu nodau.” 

Mae manylion y digwyddiad fel a ganlyn:

  • Dyddiad: Dydd Iau, Ebrill 25ain, 2024 

  • Amser: 11:00 AM - 1:00 PM (Gosod stondinau o 9:30 AM) 

  • Lleoliad: Canolfan Dylan Thomas, Abertawe 

  • Cynulleidfa: Yn agored i’r holl fyfyrwyr, graddedigion a cholegau sy’n gysylltiedig â’r Drindod Dewi Sant 

Cyflogwyr a Sefydliadau

Mae cwmnïau a sefydliadau sy’n darparu cyfleoedd gwirfoddoli sydd wedi’u cadarnhau hyd yma ar gyfer y digwyddiad hwn yn cynnwys Stadiwm Principality, Tŷ Hafan, DVLA, Celtic Manor a St John Ambulance Cymru.

Dylai sefydliadau sydd â diddordeb mewn mynychu fel arddangoswyr gysylltu â m.cameron@uwtsd.ac.uk

Myfyrwyr a Chyn-fyfyrwyr

Mae’r ffair yn agored i fyfyrwyr o bob cwrs a champws, gan gynnwys myfyrwyr o golegau sydd mewn partneriaeth a’r Drindod Dewi Sant, yn ogystal â chyn-fyfyrwyr y Brifysgol.

Bydd Ymgynghorwyr Gyrfa y Drindod Dewi Sant hefyd ar gael ar y diwrnod i helpu gyda chwestiynau ar ysgrifennu CV, paratoi cyfweliad, a mwy. Ac os hoffech gefnogaeth i baratoi ar gyfer y ffair, cysylltwch â careers@pcydds.ac.uk

Darganfyddwch sut y gall Gwasanaeth Gyrfaoedd y Drindod Dewi Sant helpu cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr â phob agwedd o ddatblygu gyrfa: Gwasanaeth Gyrfaoedd | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk)


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau