Skip page header and navigation

Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru (CAWCS) yn falch o gyhoeddi ei menter ddiweddaraf, “Cymru a’i Diwylliant Llenyddol Byd-eang,” mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor.

Books stacked on a wall with fields and blue sky in the background

Fel rhan o gronfa grantiau bach Rhwydwaith Arloesedd Cymru, mae dros £100,000 wedi’i ddyfarnu i un ar bymtheg o brosiectau ymchwil ac arloesi ar draws prifysgolion Cymru. Nod y gronfa yw harneisio cryfderau prifysgolion Cymru i gefnogi twf mewn cipio incwm ymchwil allanol a sicrhau effaith i Gymru. Darperir grantiau fel cyllid sbarduno ar gyfer datblygu cais i gyllidwyr allanol yn y DU neu’n rhyngwladol.

Nod y prosiect peilot arloesol hwn yw archwilio statws rhyngwladol a chysylltedd y Gymru lenyddol trwy gyfieithu, cyhoeddi, a chydweithio, gyda ffocws ar fapio ac olrhain cylchrediad a derbyniad gweithiau llenyddol Cymraeg ledled y byd.

Wrth galon y prosiect, dan arweiniad Dr Elizabeth Edwards, mae creu Llyfryddiaeth arloesol o Lenyddiaeth Cymru ar Gyfer Cyfieithu, a fydd yn dogfennu cyfieithiadau o destunau Cymraeg (yn Saesneg a Chymraeg) ac yn olrhain eu taith ar draws gwahanol wledydd a diwylliannau dros amser.  Trwy gasglu a dadansoddi data ar ledaeniad byd-eang barddoniaeth, ffuglen a drama Gymraeg, mae ymchwilwyr yn gobeithio cael mewnwelediad gwerthfawr i dirlun presennol a dyfodol y farchnad lenyddol fyd-eang ar gyfer llenyddiaeth Gymraeg.

Mynegodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr CAWCS, ei brwdfrydedd dros y prosiect, gan ddweud: “Mae’r prosiect hwn yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen yn ein dealltwriaeth o ôl troed diwylliannol Cymru ar y llwyfan byd-eang. Drwy fapio cyrhaeddiad rhyngwladol llenyddiaeth Gymraeg, rydym yn anelu at ddathlu ein treftadaeth lenyddol gyfoethog tra hefyd yn nodi cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu a chydweithio pellach ar raddfa fyd-eang.”

Gan gydweithio’n agos â Chyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau y Drindod Dewi Sant, bydd ymchwilwyr o CAWCS, Prifysgol Caerdydd, a Phrifysgol Bangor hefyd yn ymchwilio i’r modd y mae gweithiau awduron o Gymru sydd wedi’u cyfieithu ac wedi’u dosbarthu a’u derbyn mewn gwledydd sy’n ymestyn o’r Eidal i India i Brasil. Trwy waith ymchwil cynhwysfawr, eu nod yw canfod pa lenorion Cymreig sy’n atseinio fwyaf y tu hwnt i ffiniau Cymru a thaflu goleuni ar y peirianwaith y mae gweithiau llenyddol o Gymru yn eu defnyddio i groesi’r dirwedd lenyddol fyd-eang.

Pwysleisiodd Alexandra Büchler, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, botensial y prosiect i ddod o hyd i fewnwelediadau newydd i ledaeniad llenyddiaeth Gymraeg ledled y byd, gan ddweud: “Rydym yn gyffrous i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill ar yr ymdrech arloesol hon. Drwy archwilio sut mae gweithiau llenyddol Cymraeg yn cael eu derbyn a dosbarthu’n rhyngwladol, gallwn ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r cydadwaith rhwng diwylliant, cyfieithu, a chyfnewid llenyddol byd-eang.”

Nodiadau’r Golygydd:

  1. Bydd y prosiect yn adeiladu ar ddata sydd ar gael o ganlyniad i’r grantiau cyfieithu a ddarparwyd gan Gyfnewidfa Lên Cymru, sydd wedi’i lleoli yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (CAWCS) ac yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
  2.  Sefydlwyd CAWCS gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil bwrpasol yn cynnal prosiectau tîm ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Fe’i lleolir yn Aberystwyth, gerllaw Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.
  3. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Rydym yn croesawu ymholiadau am bynciau MPhil/PhD yn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ymchwil, neu am sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Graddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk
  4. Mae Cyfnewidfa Lên Cymru wedi bod yn hyrwyddo ysgrifennu ac awduron o Gymru yn rhyngwladol ers 1998 ac mae ei gwefan yn cynnwys y llyfrau a gyfieithwyd gyda’i chefnogaeth. Darganfyddwch fwy am Gyfnewidfa Lên Cymru yma.
  5. Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau yw’r Llwyfan Ewropeaidd ar gyfer Cyfnewid Llenyddol, Cyfieithu a Dadl Polisi a sefydlwyd yng Nghymru gyda chefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd yn 2001. Gan weithio ar y cyd â Chyfnewidfa Lên Cymru, mae wedi agor drysau i ymgysylltiad rhyngwladol nifer o awduron Cymreig. Mae hefyd yn gweithredu fel eiriolwr dros gyfieithu llenyddol yn y DU ac yn rhyngwladol, roedd yn gyd-sylfaenydd y Centre for Literary Translation yn Ffair Lyfrau Llundain yn 2010, ac mae’n cynhyrchu adroddiadau ar wahanol agweddau ar gyhoeddi cyfieithiadau llenyddol, y mae rhai ohonynt yn cynnwys llyfryddiaethau o gweithiau wedi eu cyfieithu. Darganfyddwch fwy am Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau yma.
  6. Lleolir Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon